Saturday 22 June 2013

Adolygiad o CD ‘Caneuon Protest’ Sain CD2701



Yoko Ono ddywedodd yn ddiweddar “Energy is so important, if you don’t have it, don’t bother with rock and roll”. Ddigon teg, ddigon gwir ond beth yn union yw “egni” yng nghyd destyn rock’n roll, am beth yn union mae Yoko yn son ? Dwi’n cytuno a Yoko gyda llaw, cytuno 100% a mwy, hyd yn oed os dwi ddim yn siwr sut mae hi yn diffinio “egni” a byddwn wrth fy modd yn rhoi y CD yma iddi, ‘Caneuon Protest’ a dweud “go on then Yoko which ones have it, never mind the Language, just listen to the vibes ?”

Beth yw’r gwahaniaeth felly rhwng ‘egni’ ac ‘angerdd’, ac, a oes modd canu caneuon protest heb egni neu angerdd neu’r ddau ? Ar y llaw arall, oes pwynt i egni heb rhywbeth werth ei ddweud ? Oes modd gwneud pwynt gwleidyddol hefo llais / lleisiau neis neis, rinki- tink piano a clarinets a hynny heb unrhyw awgrym o egni ? Mwy o gwestiynau nac atebion….. efallai ……. mae hwn yn gasgliad amrywiol yn gerddorol ond mae rhyw ddolen gyswllt o ran y neges – dwi’n meddwl.

            Mae’n beth rhyfedd, a mae’r drafodaeth uchod yn berthnasol, achos mae canu poblogaidd / Pop Cymraeg wedi ei wreiddio mewn caneuon protest, yn sicr y cyfnod yna ar ddiwedd y 60au, peintio arwyddion ffyrdd, Arwisgo ’69 a’r catalydd mawr, dylanwad a chysgod hir, dwr oer Tryweryn ’65 – dyna lle mae’r peth yn cychwyn go iawn. Rhywbryd yn y cyfnod mae canu ysgafn yn ceisio troi mewn i rhyw fath o “ganu pop”, Mae Dafydd Iwan, Chwyldro, Huw Jones yn sylweddoli fod angen pontio. Mae nhw’n lleisio yn ysgafn hyd yn oed pan mae’r neges yn gryf.  Nid dyma Woody Gurthrie na Bob Dylan yn Gymraeg chwaith, mae nhw’n dal yn mynnu cadw cysylltiad a’r Noson Lawen a’r canu ysgafn.

            Dydi hyd yn oed ferswin Stevens o ‘Tryweryn’ ddim y fersiwn gora, eto mae’r llais fel petae yn dal yn ol ac yn methu’r math o watwareg fydda Guthrie neu Dylan wedi ei gyfleu yn lleisiol. Efallai fod angen bod dipyn mwy blin i ganu caneuon protest, llai o Glanllyn a mwy o Greenwich Village, ond eto, dydi hyn ddim yn broblem i Plethyn sydd yn canu pawb arall dan y bwrdd ar “Tan yn Llyn”.



Efallai mae’r engraifft gora ar y CD o leisydd sydd yn methu canu ac o ganlyniad yn tanseilio holl neges y gan yw lleisydd Hergest ar “Dewch i’r llysoedd”. Wedyn mae’r piano’s rinki-tink ar rhai o’r caneuon yn ddigon i mi fygwth siarad Saesneg am benwythnos mewn protest.  Dwi bron a gweiddi ar Yoko, “I’m going to speak English for a weekend as a protest art instillation kind of thing – can I borrow your bed ?”

            Daeth achubiaeth. Dyma boeri geiriau allan. Diolch byth.  Dyna sydd ei angen ar y CD yma, ychydig o angerdd ac egni medda ni, “N.C.B” gan Llygod Ffyrnig, “Cymru., Lloegr a Llanrwst” gan y Cyrff, oleiaf mae rhywun yn coelio fod rhain o ddifri. ‘NCB’ yw’r gan fwyaf amrwd yn yr Iaith Gymraeg, can sydd yn adlewyrchu  diwylliant a diwydiant y Cymoedd, pyllau glo Cwm Tawe a dyfodol o ddi-weithdra neu o ansicrwydd ar y gora. A’r Cyrff, wel mae’r hogia yna yn gwybod be di tiwn, Trac 1, Ochr 1 haeddianol.

            Efallai mae Edward H sydd yn haeddu’r clod am groesi’r bont go iawn, y nhw sydd yn rhoi y “rock’n roll” i mewn i’r Byd Pop Cymraeg a gyda “Ty Haf” er mor ddychanol yw’r gan dydi’r band ddim yn llithro lawr y llwybr llithrig yna a throi y gan i mewn i rinki-tink-jazz neu beth bynnag arddull mae llawer gormod o artistiaid yn arddel ar y CD yma. Diolch byth fod Edward H fel y Tepot Piws yn amrwd, mae’n gweddu i’r neges.

            O ran “cool” mae Jarman yn serenu gyda “Cenhadon Casineb” ac heb os mae hygrydedd a Maffia Mr Huws yn gorwedd yn yr un gwely. “Da ni’m yn rhan” gan Maffia, can arall sydd a tiwn a neges a rhywsut mae rhywun yn gweld y datblygiad o Edward H drwy Jarman ac ymlaen at Maffia – mae nhw oll hefo rhywbeth i’w ddweud ond dwi’n credu byddai Yoko yn cytuno fod ganddynt egni ac angerdd hefyd. Efallai dylia Sain fod wedi rhoi y stwff fwy rock’n roll ar un CD a’r stwff ysgafn ar CD arall ?

            “I’m just explaining Yoko that I would like to re-arrange the CD into Energy Side and Lack of …. Side  when you have finished your analysis of all the tracks”.

Cwestiwn arall sydd rhaid ei ofyn yw lle mae’r artistiad ifanc ? Rwan, derbyn mae casgliad yw hwn, sef fod Sain wedi rhoi traciau at eu gilydd sydd yn bodoli yn barod i greu y CD yma ond mae ganddynt artistiad ifanc newydd cyfoes yn rhywle siawns ar Rasal neu Gwymon onid oes, ond efallainad ydynt yn canu caneuon protest ?
 
 

Dwi angen arall-eirio un o linellau Strummer yn fan hyn “Why not phone up Dyl Mei and ask him for some good quotation”. Dwi ddim yn gwybod os yw artistiad ifanc Sain yn canu caneuon protest, peidiwch a gofyn i mi, dwi’m yn rhan o’u gem bach nhw fel ’sa Maffia yn ddweud. Yr unig beth diddorol dwi wedi weld yn ddiweddar yw band o’r enw Y Ffug yn newid llun wal Tryweryn i ‘ang ofiwch’ (sic) ar gyfer gwaith celf y band.

Dwi heb glywed caneuon Y Ffug eto ond ar sail y llun yn unig mae nhw wedi gwneud datganiad KLFaidd sydd yn fwy perthnasol i’w cenhedaleth nhw na unrhywbeth ar y CD yma. Os oes yna ganeuon protest allan yna heddiw, mi fydd y caneuon hynny ar label Afiach nid ar label Sain felly ewch allan i wrando ar Radio Rhydd, Afal Drwg Efa neu Lembo ……

 

Rhys Mwyn

 

No comments:

Post a Comment