Wednesday 13 February 2013

Llwybr Clawdd Offa Herald Gymraeg 13 Chwefror 2013.



Dydd Sadwrn dwetha dyma benderfynu cerdded ychydig ar Lwybr Clawdd Offa gan “ddechrau yn y dechrau” fel byddai Dylan Thomas wedi awgrymu. Felly am 9 y bore rwyf yn sefyll ger y faen sydd yn nodi dechrau (neu ddiwedd y daith) ar Draeth Ffrith, Prestatyn ac yn edrych ar yr arwydd pren sydd yn nodi fod 182milltir neu  293kilomedr i Gas Gwent. Dwi ddim am gerdded mor bell a hynny. A dweud y gwir y nod rwyf wedi osod am y dydd yw i gerdded cyn belled ac y gallaf erbyn ganol pnawn a dyna hi.

                Fy mwriad yw i fwynhau y daith ac i drio nodi’r pethau diddorol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd. Mae gennyf sach cefn gyda bechdan a photel ddwr, mae gennyf ddillad tywydd gwlyb rhag ofn a mae gennyf fap OS a fy nghamera digidol, popeth dwi angen i gael diwrnod da allan yn y wlad.

                Teimlad ddigon rhyfedd yw cychwyn ar fy nhaith drwy gerdded dros y bont rheilffordd a wedyn i fyny Stryd Fawr Prestatyn. Mae pobl ger yr orsaf yn aros am eu tren (siopa yng Nghaer efallai)  a hyd yn oed toc wedi 9 y bore mae yna siopwyr yn crwydro Prestatyn yn chwilota am fargen ond does neb arall hefo sgidia cerdded mwdlyd a sach ar ei gefn a map yn ei law i’w gweld yn nunlle. Does neb yn cymeryd sylw ohonnof wrth i mi dynnu lluniau o nodweddion y Stryd Fawr. Mae hen garreg dywodfaen wedi erydu’n ddifrifol ar wal yr hen gapel, rwyf yn llwyddo i ddarllen ‘Rehoboth Adeiladwyd 1894’, mae’r garreg yn denu fy sylw fel yr archaeolegydd wrth reswm.

                Rhaid dod yn ol eto os wyf am edrych o amgylch Eglwys Crist felly dyma adael y Stryd Fawr a dechrau dringo Fforddlas ac yn raddol gadael tref Prestatyn. Wrth gyrraedd pen uchaf Fforddlas dyma ddarganfod y gwaith celf cyhoeddus, yr Helmed Rhufeinig anferth, sydd yn gorwedd ar ei hochr mewn rhyw ardd fach gyhoeddus ger y ffordd. Doedd gennyf ddim syniad fod y fath waith celf yn bodoli, chlywais neb yn son ond wir i chi dyma ddiddorol.

                Wrth drio cael llun gyda’r haul tu cefn i mi dyma sylwi fod delwedd o un o ddarnau arian Offa i’w weld ar ochr yr helmed. Offa sydd yn cael ei gydnabod fel y Brenin a ddatblygodd ac ail-wampiodd ddarnau ceiniog yn ystod hanner olaf yr 8fed Ganrif a hyn oedd cynsail darnau arian am ganrifoedd wedyn. Felly “gwaith celf” yn cynnwys y Rhufeiniad ac Offa, dwi’n credu mae rhyw fath o efydd oedd y gwaith, ac o ddarllen y bwrdd gwybodaeth roedd awgrym o fwriad celfyddydol yma fod yr helmed yn cael ei lyncu gan natur yn union fel hanes helmedau Rhufeinig go iawn yn cael eu claddu gan y pridd nes fod yr archaeolegwyr yn dod yno i darfu ar eu heddwch.

                Mae cysylltiad Rhufeinig a Phrestatyn wrthgwrs ac rwyf yn gyfarwydd iawn a’r baddondai Rhufeinig ger Ffordd Melyd, yn wir wrth i mi ddringo’r bryn allan o Brestatyn ac edrych yn ol dros fy ysgwydd rwyf yn llwyddo i weld y baddondai rhwng y tai cyngor, y cerrig gwynion yn disgeirio yn yr haul.  Daeth gwen fawr i’m gwyneb wrth ddeall mae “Fish Mountain” yw’r bryn yma i’r trigolion lleol, hynny oherwydd y ffosiliau o bysgod sydd yn weddol gyffredin yn y galchfaen. Does dim syniad gennyf beth yw’r Gymraeg am “Fish Mountain” ond rhywsut dwi ddim yn credu mae Mynydd Pysgodyn yw’r enw ar y bryn yma.

                Rwyf yn cerdded i gyfeiriad Bryniau a Gallt Melyd ac o gopa’r bryn mae’r golygfeydd dros Brestatyn, Rhyl ac i lawr wedyn i gyfeiriad Rhuddlan a Llanelwy yn fendigedig. Cyfrais 24 melin wynt allan  mewn un clwstr yn y mor i’r gorllewin o Brestatyn, gallwn weld cynllun strydoedd Prestatyn a’r cae peldroed yn glir, bron y gallwn weld y garreg lle cychwynais ar fy nhaith rhyw awr a hanner yn ddiweddarach.

Er mor oer oedd hi roeddwn yn gynnes ar ol dringo a dyma daro ar draws y darganfyddiad nesa, hen fwthyn Pant y Fachwen, cartref i fwynwyr plwm wedi ei adeiladu dros 200 mlynedd yn ol. Yn ol y son roedd y bwthyn wedi cael ei golli dan y pridd ond wrth glirio’r llwybr ym 1999 -2000 dyma ddod ar draws muriau Pant y Fachwen a fe adferwyd y seiliau fel rhywbeth hanesyddol i ddwyn sylw y creddwyr. Mae hi rhy oer i sefyllian, dyma gael llun ac ymlaen a mi heibio hen chwarel galchfaen ac ymlaen i gyfeiriad Marian Cwm.

Am awr yr neu ddwy nesa mae bryngaer hynafol Moel Hiraddug yn gwmpeini i mi wrth i mi gerdded tuag at y gaer, heibio’r gaer a hyd yn oed wedyn mae ei chysgod yn fy nulyn wrth i mi ddechrau troi yn ol am Ruddlan o Rhuallt. Mae rhan o’r gaer wedi diflannu ohwerwydd y chwarel ond mae modd gweld olion y cloddiau anferth oedd o amgylch y gaer. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daethpwyd o hyd i ddarn o darian La Tene  yma yn dyddio o’r ail ganrif Oed Crist.

Tarian  oedd hi ar gyfer defnydd mewn seremoniau yn hytrach nac ar gyfer maes y gad ac wrth son am yr arddul La Tene, dyma rydym yn ei adnabod fel celf Geltaidd sydd yn gyfarwydd i ni gyd. Cefais fy mrechdan yng nghysgod y gaer hynod yma gan eistedd ar gamfa a mwynhau’r golygfeydd cyn dechrau oeri a phenderfynu i ddal i gerdded.

Yr eironi mawr oedd er i mi dreulio rhai oriau ar Lwybr Clawdd Offa a gweld cymaint o bethau diddorol, yr un peth oedd ddim i’w weld hyd yma oedd Clawdd Offa ei hyn !

               

No comments:

Post a Comment