Thursday 7 February 2013

Beth yw Celf ? Herald Gymraeg 7 Chwefror 2013.


 
Petae rhwyun am ddechrau tarfod orielau celf yng Ngogledd Cymru go brin bydda rhywun yn meddwl am long ger Mostyn, Sir Fflint ond mae’n rhaid i mi ddweud mae dyma’r gwaith celf mwyaf trawiadol a doniol i mi weld ers amser maith. Ar y llaw arall petae rhywun yn gofyn am yr oriel gelf orau i mi ymweld a hi yn ddiweddar byddai rhaid croesi “Clawdd Offa” cyn belled a Port Sunlight, ac ie y Lady Lever fyddai honno.

                Rhywbeth rwyf yn ddweud yn aml yw nad oes o riedrwydd gwell neu gwaeth yn yr achosion yma, mae’r llefydd yma mor wahannol, does dim pwrpas nac yn wir angen cymharu. Byddaf yn dweud hyn er engraifft am gestyll Conwy a Dolwyddelan. Mae’r ddau gastell yn hollol wahanol, yn amlwg un Seisnig ac un Cymreig, un anferth a’r llall yn llai ond di’o ddim yn fater o well neu waeth, o fwy neu llai pwysig – mae’r ddau gastell yr un mor ddiddorol, ond yn sicr yn wahannol. Gallaf dywys pobl i unrhwun o’r ddau gastell a sicrhau awr a hanner dddifir iawn yno.

                Wrth reswm pererindod i weld ‘Salem’ gan Sidney Curnow Vosper yw’r  Lady Lever i’r rhan fwyaf o Gymry, a dim o’i le yn hynny, achos mae’n  lun werth i’w weld a’i astudio, ond wyddoch chi beth, llun o’r enw ‘Spring (Apple Blossoms)’ 1859 gan John Everett Millais oedd y dynfa i mi y tro yma. Peidiwch a gofyn pam ond rwyf wedi cael rhyw fath o droedigaeth hefo’r Cyn-Raffaeliaid, rwyf wedi gwirioni gyda wynebau portreadau Rossetti ond rwyf wedi mwy na gwirioni gyda Spring, Apple Blossoms, Millais.

                Peth braf yw cael sefyll mewn oriel gymharol wag a thawel a chael amser, ie AMSER, i sefyll a syllu, i gamu yn ol, i ail-edrych. Peth braf yw cael gwefr, y teimlad yna o deimlo yn fyw a wedi cyffroi. Rwan dwi ddim am fynd i drafodaeth hir a manwl am lun Millais yma achos mae gennyf gwch ym Mostyn i’w thrafod ond cyn symud yn ol dros Glawdd Offa rwyf am esbonio pam na chyfeiriaf at Millais fel Sir John Everett Millais.

                Ni chyfeiriaf at Tom Jones, Paul McCartney na Mick Jagger fel “Sir” chwaith, Tom, Paul a Mick ydynt i mi, nid fy mod yn eu gweld am sgwrs mor aml a hynny cofiwch,  ond petae Tom a finnau yn gyfeillion pennaf, neu yn adnabod ein gilydd hyd braich, dwi ddim yn credu byddwn yn gallu ei alw yn “Sir” na neb arall chwaith. Wrth feddwl am hyn i gyd teimlais fel rhyw gymerriad mewn can gan Datblygu “Y Comiwynydd Olaf yn Ewrop” neu rhywbeth felly, y Comiwnydd olaf yng Nghymru. Dwi ddim yn un am gydnabod urddau o’r fath, fel clywais rhywun yn son yn ddiweddar ar stryd Caernarfon – “peidiwch edrych i fyny a peidiwch edrych i lawr ar bobl” - dyna gyngor da.

                Rwan, dwi ddim yn credu bod modd cael pegwn arall mor bell ar y sbectrwm gelfyddydol  na sydd rhwng Millais a’r celf-stryd / graffiti ar ochr llong y Duke of Lancaster. Hon yw’r llong fawr wen honno sydd i’w gweld o’r rheilffordd ar hyd afordir Gogledd Cymru, sef yr un llong sydd tu cefn i faes parcio Abakhan y gwerthwyr defnydd  yn Llannerch-y-Mor ger Mostyn.

 

                Rhwng 1952-79 roedd y Duke of Lancaster yn cludo pobl ar ran Rheilffordd Prydeinig, un o’r llongau-stem olaf oedd yn cludo pobl ar droed yn unig, a gyda dyfodiad y cychod oedd yn cludo ceir dyma ddiwedd ar oes y math yma o long a dyma ddiweddu ei hoes yma mewn doc parhaol. Am gyfnod y bwriad oedd i ddefnyddio’r llong fel rhyw fath o ganolfan hamdden, “The Fun Ship” a fel marchnad ond oherwydd fod y bont rheilffordd  (sydd yn croesi’r ffordd mynediad at y llong) mor isel does dim modd cael ambiwlans ac yn y blaen at y gwch felly nath hynny ddim para yn Oes Iechyd a Diogelwch. Doedd fawr o lwyddiant i’r syniad o droi y llong yn westy chwaith a heddiw mae golwg digon digalon ar y llong – heblaw am y gwaith celf bendigedig.

                Mae’r gwaith celf ar ochr y gwch yn perthyn i artist-graffiti  o’r enw Kiwie o Latfia, ac yn ol beth rwyf yn gallu weld ar y we, mae’r gwaith yma yn rhyw fath o gomisiwn, felly nid sleifio yno yng nghanol nos nath Kiwie. O ran arddull mae ei waith yn atgoffa rhwyun o waith Banksy er efallai yn llai gwleidyddol  ei naws.

                Wrth gerded ar hyd Llwybr yr Afordir, ochr arall i ffens weiran bigog i’r llong gallwn weld delweddau o dri mwnci, dyn mewn siwt tanfor, dyn mewn siwt hefo balaclafa a rhywbeth arall oedd yn edrych i mi fel cyfuniad o arth a siarc ond peidiwch da chi a chymeryd fy ngair i am hyn. A dweud y gwir roeddwn wedi treulio y prynhawn yn astudio Abaty Dinas Basing, ym Maes Glas ger Treffynnon a dim ond wedi cyrraedd y llong fel yr oedd yr haul ym machlyd felly roedd yr holl brofiad yn gyfuniad o swrealaeth ac effaith y machlud yn taflu goleuni oren ar ochr y llong fel rhyw sioe oleadau roc a rol ar y gwaith celf.

 

                Bu cyfle i weld tu mewn y gwch ar y rhaglen “Coast” yn ddiweddar a diddorol iawn oedd gweld lluniau ar y We gan grwp o’r enw  28 Days Later, grwp sydd yn galw ei hunnain yn “Fforwyr-Dinesig”, sef pobl sydd yn torri mewn i lefydd a thynnu lluniau yn anghyfreithlon (felly yn amlwg nid wyf yn awgrymu / argymell / cymeradwyo hyn) ond mae’r lluniau werth eu gweld ar eu safle we.

                Rwyf wedi trafod graffiti y F.W.A sawl gwaith yn ddiweddar fel rhywbeth sydd angen ei gadw a’i gofnodi a dyma engraifft arall o waith celf (gwahannol) sydd yn dod a chydig o liw i ran o Sir y Fflint. Rhywbeth dinesig yng nghefn gwald bron er mae’r aradl yma yn sicr yn un sydd ar y ffin rhwng y diwydiannol ar ol-ddiwydiannol yntydi ?

Felly oriel gelf awyr agored, llwybr afordir a caffi yn Abakhan – beth well ar bnawn Sul os am fynd am dro yn ardal Mostyn  !

No comments:

Post a Comment