Wednesday 20 February 2013

Capel Curig Herald Gymraeg 20 Chwefror 2012.


 

Dyma’r ail dro i mi ymweld a Chanolfan Capel Curig, yn yr hen ysgol, a mae’n rhaid canmol y ganolfan glud a thaclus yma. Ar y wal tu allan mae cofeb llechan i Evan Roberts (Ifan Gelli) 1906-1991,chwarelwr a naturiaethwr a anrhydeddwyd gan Brifysgol Cymru Bangor.

Chwarelwr oedd Evan Roberts y Gelli am 40 mlynedd o’i fywyd ond dyma engraifft gwych, rhywbeth sydd ddigon cyffredin efallai, ymhlith y dosbarth gweithiol Cymreig a’r chwarealwyr yn sicr yn ystod ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a dechrau’r Ugeinfed Ganrif, o bwysigrwydd addysg. Yn achos Ifan Gelli, hunnan addysg oedd y rhan fwyaf o’i addysg, wrth iddo grwydro llethrau Eryri a datblygu i fod yn arbenigwr ar fotaneg yr ardal.

Am hyn yr urddwyd Ifan a gradd anrhydeddus BSc gan Brifysgol Bangor ym 1956, yn yr un flwyddyn ac urddwyd y pensaer Americanaidd, Frank Lloyd Wright. Anrhydedd o fath arall a dderbyniodd Ifan Gelli oedd cael ei bortreadu gan yr artist Kyffin Williams.

 

Gwahoddiad gefais gan Bill Jones, Cymdeithas Hanes Dolwyddelan i ddod draw i’r Ganolfan i gyfarfod grwp Hen Dai Cymreig ac i wrando ar y darlithydd Nia Powell yn trafod sut roedd rhai o ffermwyr ucheldiroedd Cymru  wedi llwyddo i wneud bywoliaeth gymharol dda, ac yn wir i greu dipyn o gyfoeth yn ol y dystiolaeth o hen ewyllysiau – a hyn drwy werthu gwartheg.

Edrychwyd yn fanwl ar ffermydd Dyffryn Colwyn rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert gan gyfeirio at ffermydd fel Hafod Ruffydd, Drws y Coed ayyb a syndod i mi ac erall mae’n siwr oedd fod y ffermydd yma wedi llwyddo i greu y fath gyfoeth ar dir oedd yn ymylu ar ucheldir mynyddig. Nid gorddweud oedd fod darlith Nia nid yn unig yn hynod ddiddorol ond yn wirioneddol gorfodi pawb yn yr ystafell i ail feddwl am sut bu i’r Cymry gael eu portreadau gan deithwyr, ysgrifennwyr a’r Wasg yn hanesyddol. Nid “peasant” oedd pob Cymro felly !

Efallai beth oedd gan Powell hefyd oedd fod y portreadau hanesyddol bob amser wedi ei ysgrifennu gan ymwelwyr, y teithwyr, efallai fod angen i ni ail-feddianu mwy ar ein hanes, fod angen dehongliadau mwy Cymreig, eto pwyntiau diddorol sydd yn ein gorfodi i symud ymlaen o’r hanes gwasaidd traddodiadol.

Maes parcio bach iawn sydd ger y ganolfan. Cofiais fod yma y llynedd i roi darlith i gymdeithas Cymry’r Ucheldir ar Archaeoleg Ddyffryn Conwy  a finnau wedi cyrraedd o flaen pawb a llwyddo i gael y car i mewn yn daclus cyn i neb arall gyrraedd. Y tro yma penderfynais gael cinio sydun yn Caffi Moel Siabod a cherdded draw i’r Ganolfan.

Ar ochr y ffordd dyma sylwi ar un o gerrig filltir Thomas Telford, rhyfedd ynde faint mwy mae rhwyun yn ei weld drwy gerdded yn hytrach na gwybio mewn car ar hyd yr A5. Mae ffurf cyson i holl gerrig milltir Telford, sef y garreg lwyd, y plat du a’r ysgrifen wen. Yma cawn weld fod 40 milltir hyd at ddiwedd y daith yng Nghaergybi a fod 5 milltir i fynd hyd at Cernioge i’r De. Yn fuan wedyn rwyf yn cerdded heibio gwesty Cobdens, gwesty sydd yn enwog am fod yn gartref i ystlumod prin, y “Pips” sef y Pipistrelles sydd yn byw yn nenfwd y gwesty.

Rwyf yn siwr bydd fy nghyd-golofnydd Bethan Wyn Jones yn gallu ymhaelaethu llawer gwell na fi am hyn i gyd ond diddorol iawn oedd deall fod pobl sydd yn ymddiddori mewn ystlumod yn dod yma yn flynyddol ers 1995 i gadw cyfrif o faint o ystlumod sydd yma a fod y nifer wedi amrywio rhwng 900 a 1500 o ystlumod.

Enw gymharol Seisnig sydd i Cobdens wrthgwrs, allan o gymeriad mewn un ystyr a Chymreictod yr ardal hon ac eto o ystyried pwysigrwydd y gwestai ar hyd yr A5 a datblygiad Betws y Coed fel canolfan ymwelwyr o’r 1850au ymlaen dim syndod chwaith. Tan y Bwlch oedd yr enw gwreiddiool ar y gwesty ond mae hanes fod y di-Gymraeg wedi cam ddeall hyn fel Tan y Belch gan feddwl fod hyn yn gyfystyr a thori gwynt a fod hyn mewn rhyw ffordd yn adlewyrchu’n wael ar y bwyd oedd ar gael yn y gwesty

Ydi hon yn stori wir medd a chi ta di rhywun yn rwdlan yn llwyr ? Bydd angen i bobl Capel Curig ein helpu yma dwi’n credu. Ond dyna chi stori dda un ffordd neu’r llall. Fe ail fedyddwyd y gwesty yn Cobdens felly, ar ol y perchennog Frank Cobden, dyn oedd yn gricedwr o fri a mae son iddo guro tim Prifysgol Rhydychen ym 1870 drwy fowlio tri batiwr allan.

Dwi’n cofio sgwrsio hefo ymweldydd dros yr Haf, a mynd a fo a’i deulu am dro i Gastell Dolbadarn fel rhan o weithgareddau’r Amgueddfa Lechi a’r gwr yn dweud “we have nothing like this in Middlesborough” a finnau yn ei ateb drwy ddweud mae rhywbeth diddorol ym mhob man ond i ni ago rein llygaid. Cwta filltir oedd rhwng Caffi Moel Siabod a’r Ganolfan ond cymaint o bethau diddorol i’w gweld.

 

 

 

 

 

 

No comments:

Post a Comment