Thursday 20 December 2012

Y Lasynys Fawr Herald Gymraeg 19 Rhagfyr 2012


 

Un o uchafbwyntiau fy wythnos ar hyn o bryd yw cael ymweld a’r Lasynys Fawr ger Harlech bob bore Mawrth. Rwyf yno gyda criw sydd yn dilyn cwrs Coleg Harlech ar adnabod prif nodweddion, adeiladau, digwyddiadau a chymeriadau hanesyddol y ‘Pentref Cymreig’ a gan ein bod yn ardal Ardudwy rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar hanes yr ardal yn hytrach na chanolbwyntio ar bentref penodol. Rydym oll yn gwerthfawrogi’r ffaith fod dosbarth o’r fath yn cael ei gynnal mewn adeilad hynafol, Y Lasynys Fawr yw hen gartref Ellis Wynne, awdur ‘Gweledigaethau y Bardd Cwsg’. Fe all rhywun ddadlau mae does bosib cael gwell lleoliad i drafod hen adeiladau !

                Fel yn achos Cae’r Gors, a mae hyn siwr o godi gyda’r Ysgwrn yn y dyfodol, un o’r cwestiynau mawr yw sut mae cael pobl i ail-ymweld a safleoedd fel hyn ? Wrthreswm mae Cymdeithasau Capel a Merched y Wawr yn fwy na pharod i ymweld a’r llefydd yma, mae yma groeso a phanad bob amser (drwy drefniant wrth reswm rhag ofn fod y lle ar gau dros y Gaeaf) a does dim rhai dweud fod pawb yn gwerthfawrogi arwyddocad Kate Roberts neu Ellis Wynne o ran ein llenyddiaeth ac o ran hanes y Genedl, ond pam dod yn ol yr eilwaith ?

                Yr ateb efallai yw “dewch yn ol hefo rhywun arall, neu gyda ffrindiau o’r De neu deulu o Awstralia”. Neu, mae yna ddadl arall fod rhywun yn dysgu cymaint mwy yn ystod yr ail-ymweliad, ond o ran cynnal dosbarthiadau, efallai fod hyn hefyd yn un ffordd bach o gadw pethau i fynd, i roi yr hen adeiladau yn ol yng nghanol bywyd a bwrlwm cymunedol. Gobeithio wir.

                Cawsom ein tywys o amgylch y Lasynys Fawr gan y Swyddog Datblygu, Catrin Glyn,  roedd hynny yn angenrheidiol cyn i ni eistedd a dechrau trafod adeiladau eraill hynafol yn Ardudwy, ac er fod nifer sydd yn mynychu’r dosbarth hefyd yn aelodau o Gyfeillion Ellis Wynne, sylwais pam mor hapus oedd pawb i ail edrych ar ddrws neu gwpwrdd. Yn sicr ni fyddaf byth yn diflasu, mae rhywun yn gweld rhywbeth newydd bob tro, efallai oherwydd golau’r haul, neu drwy aros am eiliad ar y grisiau.

                Rydym yn cerdded drwy hen ystafell wely Ellis bob bore Mawrth ar ein ffordd i’r ‘Ystafell Werdd’ (sydd wedi ei beintio yn wyrdd fel yr oedd yn wreiddiol)  lle byddaf yn cynnal y dosbarth gan fynd heibio ei wely cudd a hen le tan (caeedig bellach) y lloft  (ger y grisiau newydd). Wrth i ni drafod cymeriadau hanesyddol Ardudwy, yr enw ddaeth i amlygrwydd oedd John Jones Maesygarnedd y gwr hynod hwnnw oedd ymhlith y rhai arwyddodd y warant marwolaeth y Brenin Siarl 1af ym 1649.

                Un peth sydd, efallai, yn amlwg o ddechrau pori dros hanes Maesygarnedd yw sylweddoli pam mor “blwyfol” rydym yn gallu bod o ran rhai agweddau o Hanes Cymru. Mae pawb yn gyfarwydd a’r prif gymeriadau, y Llywelyn’s, y Hywel’s Dda a Harris a phwy all osgoi Owain Glyndwr (O.G) mwy na alla’ni osgoi Lloyd George (LL.G), a dwi ddim am eilaid yn awgrymu na ddylid fod yn hollol gyfarwydd a rhain, ond o feddwl fod Cymro o Sir Feirionnydd wedi chwarae rhan mor allweddol yng nghyfnod Cromwell a Siarl 1af rhyw deimlo oeddwn fod cymaint mwy o gymeriadau hanesyddol Cymreig yn haeddu cael mwy o sylw.

                Rhaid teithio i ben pella Cwm Nantcol i ddod o hyd i Maesygarnedd. Os yw rhywun yn cerdded yn eu blaen mae rhwyun yn cerdded am Fwlch Drws Ardudwy rhwng y Rhiniogau, Fawr a Bach. Credaf hefyd, a rwyf mor euog a phawb arall, fod hanes Sir Feirionnydd rhywsut yn cael ei anwybyddu ar adegau, nid o reidrwydd yn fwriadol ond o drafod gyda’r criw yn y Lasynys buan iawn cefais fy atgoffa o gyfoeth hanesyddol yr ardal.

                Cefais fy hyn yn awchu i gael mynd i grwydro’r ardal wrth wrando ar y criw yn trafod enwau fel Gerddi Bluog, Uwchlaw’r Coed, Hendre Waelod a Thyddyn y Felin. Oll yn ddiethr i mi, bydd rhaid mynd i grwydro yn eu cwmni tymor nesa meddylias. Y peth arall amlwg o wenud gweithdai hanes fel hyn yw fy mod i fel tiwtor yn dysgu cymaint hefyd. Os oes gennyf fwy o gefndir archaeoleg, a rwyf wrth reswm yn gyfarwydd a chromlechi Cors y Gedol, Bron y Foel a Gwern Einion yn y rhan yma o’r Byd does dim dwy waith nawr fod ymweliad a Maesygarnedd yn uchel ar fy rhestr.

                Fel hogyn ysgol gynradd roedd gennyf ddiddordeb mawr yn Oliver Cromwell, peidiwch a gofyn pam, a fel oedolyn rwyf o hyd wedi bod a chryn embaras am hyn, doedd polisiau Cromwell yn Iwerddon ddim yn rhai y byddwn yn amlwg yn cytuno a hwy ond fel yn achos Lloyd George a rhannu Iwerddon yn ddiweddarach dydi ein barn wleidyddol heddiw ddim yn reswm dros beidio ymddiddori yn yr hanes nagdi ? Gyda llaw fe briododd John Jones chwaer Cromwell, sef Katherine, ym 1656 a mae stori arall fod Cromwell wedi aros noson ym Maes y Neuadd lle mae ystafell wedi enwi ar ei ol yn y gwesty heddiw.

                Mesur o gyfeillgawrch a pherthynas dda o fewn y dosbarth yw rhannu llyfrau a dyma gael benthyg copi o ‘Ardudwy a’i Gwron’ (1914) sef llyfr gan David Davies ar hanes Cyrnol John Jones a dyma ddarllen difir dros y dyddiau nesa. Braf iawn yw cael dysgu, darganfod pethau newydd a chael ychwanegu llefydd rwyf angen ymwled a nhw i fy rhestr. Braf iawn yw gwybod hefyd na ddaw rhywun byth i ben !

No comments:

Post a Comment