Wednesday 5 December 2012

Elihu Yale Herald Gymraeg 5 Rhagfyr 2012



Born in America, in Europe bred

In Africa travell’d and in Asia wed

Where long he liv’d and thriv’d, in London dead

Much good, some ill, he did

Rwyf wrth fy modd hefo carreg fedd Elihu Yale ym mynwernt Sant Silyn, Wrecsam. Mae hon bron cystal a chareg fedd John Ceiriog Hughes yn Llanwnog lle cofir am Ceiriog “Dyma ei lwch – a dim lol”.  Fedrith rhywun ond gobeithio ar ol i ni fynd fod rhywun yn cofio amdanom gyda geiriau mor addas a di-lol.

                Roeddwn wedi bod yn cynnal gweithdy Dynamo yng Ngholeg Ial, yn trafod ochr busnes y Diwydiant Cerddoriaeth ac yn wir wedi cael bore bendigedig hefo myfyrwyr yn eu harddegau hwyr, myfyrwyr oedd yn gwrtais, yn cymeryd sylw a diddordeb, a wedi bod yn fy holi am wahanol agweddau o’r Byd Pop Cymraeg a Chymreig am dros awr a hanner. Erbyn amser cinio roeddwn yn barod i fentro i mewn i dref Wrecsam i astudio rhywbeth hanesyddol. Bellach dwi ddim yn mynd i unrhywle heb drio gwneud yn siwr fod yna ymweliad hanesyddol yn rhan o raglen y dydd, amser yn caniatau wrthgwrs.

                Rwyf wedi ymweld ac Eglwys Sant Silyn neu St Giles o’r blaen ond yr hyn sydd yn braf o ail ymweliad yw fod rhywun yn gallu ychwanegu at eu gwybodaeth a dealltwriaeth. Y tro cyntaf mater o gael hyd i garreg fedd Elihu Yale oedd hi ond y tro yma rwyf yn gwybod lle i fynd a rwyf yn cael canolbwyntio ar ddarllen y gofeb.

                Bu i deulu  Elihu ymfudo i America yn ystod teyrnasiad Siarl 1af oherwydd y diffyg goddefgarwch i’r Piwritaniaid, hyn 17 mlynedd ar ol i’r Mayflower hwylio allan hefo’r criw cyntaf a ganwyd Elihu ym mlwyddyn dienyddu Siarl, 1649. Dychwelodd y teulu i Brydain yng nghyfnod Cromwell a mae’n debyg fod yr Elihu ifanc wedi bod yn  Llundain yn ystod cyfnod y Pla Mawr a Tan Llundain wedyn ym 1666.

                Gwnaeth ei gyfoeth yn India, gan ddechrau gweithio hefo’r East India Company a threulio amser fel arweinydd Fort St George . Un arall wnaeth gyfoeth ar yr un pryd oedd Robert Clive, hwnnw a chysylltiad a’r Amwythig a Chastell Powis. Treuliodd Yale yr ugain mlynedd olaf  o’i fywyd rhwng Plas Grono, ger Wrecsam a Sgwar y Frenhines yn Llundain, ond y rheswm pennaf rydym yn adnabod enw Yale wrthgwrs yw am ei gysylltiad a Choleg Connecticut.

                Ar yr 11 Fehefin 1718 roedd Yael wedi gyrru dwy gist o ddeunyddiau a thecstiliau i’r Coleg i gael eu gwerthu am elw. Roedd hefyd wedi rhoi  417 llyfr iddynt a llun olew o’r Brenin Sior Iaf. Amcangyfrifir ar y pryd fod hyn i gyd werth £1,162. Yn ddiweddarach ym 1721 gyrrodd mwy o bethau i’w gwerthu, y tro yma werth £562. Oherwydd ei garedigrwydd fe fabwysiadwyd yr enw Yale ar Goleg Connecticut.

                Rhoddodd arian hefyd i Eglwys y Plwyf yn Wrecsam. Dyma chi eglwys hyfryd i ymweld a hi. Wrth gyrraedd y fynwent o gyfeiriad Stryd yr Eglwys rydym yn wynebu giatiau haearn trawiadol Robert Davies, Croesfoel a adeiladwyd ym 1720. Adferwyd y gitatiau ym 1900 a mae llyfr agored ar ben y giat yn darllen “Go in peace and sin no more” – hynny wrth i rhywun gerdded allan o’r fynwent. Treulias awr yn y caffi ger y giataiau yn darllen y llyfrau tywys, yn mwynhau wy ar dost a pot o de gyda golygfa o’r twr a’i gerfuliau o’m mlaen.

                Yr hyn sydd yn amlwg wrth ymweld a hen eglwysi yw fod cymaint i’w weld, o bosib gormod mewn un ymweliad. Unwaith eto dyma’r fantais o gael ymweld dro ar ol tro,  a’r tro yma yr hyn sydd yn dwyn fy sylw yw’r hen luniau paent ar y wal o dan y nenfwd ar ochr ddwyreiniol corff yr Eglwys, hon yw’r wal yn rhannu corff yr eglwys o’r gangell.

                Darlun o Ddydd y Farn yn dyddio ‘r Unfed Ganrif ar Bymtheg sydd i’w weld yma gan gynnwys llun o frenin a dau esgob yn codi o’u  heirch i wynebu Crist, Mair a Sant Ioan. Yn anffodus mae wyneb Crist wedi hen ddiflannu ond mae modd gweld  Sant Pedr  yn croesawu rhai i’r Nefoedd ar ochr chwith y llun er fod y rhan yma mewn cyflwr gwael a wedi colli dipyn o’i liw. Ar ochr dde y llun gwelir erall, llai ffodus yn cael eu llosgi yn Uffern ! Ail-ddarganfuwyd y llun ym 1867.

                Un o’r nodweddion mwyaf hynafol yn yr Eglwys yw’r cerflun o ‘Keneverike ap Hovel’ yn y Lladin a tybiaf mae Cyneurig ap Hywel fydda hyn yn y Gymraeg. Daethpwyd o hyd i’r cerflun o dan y ddaear yn y fynwent yn nechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg wrth dyllu seiliau ar gyfer ail osod giatiau Robert Davies.

                Nodwedd arall hyniod ddiddorol yw’r ‘sedilia’, sef  y seddau ar gyfer  yr offeiriad ar wal dde-ddwyreiniol y gangell. Mae sedilia tebyg i’w gweld yn Eglwys Clynnog Fawr. A wedyn tu gefn i’r allor mae’r reredos gyda cerfluniau, y reredos yw’r sgrin tu cefn i’r allor.

                Mae’n debyg mae’r ddadl yma yw fod yn werth caniatau ychydig o amser i ymweld ag Eglwys Sant Silyn, hynny yw y tro nesa mae rhywun yma yn siopa ar y Sadwrn neu yn ymweld a gem Peldreod yn Wrecsam. Mae modd ymgolli yma, ymgolli yng nghanol yr holl hanes, yr holl nodweddion bach diddorol hanesyddol, y ffenestri lliw, y pensaerniaieth.

                O’r tu allan, mae’r twr wrthgwrs yn hynod drawiadol. Wedi eu adeiladu yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg yn y dull perpendiciwlar ac yn codi i uchder o 45 medr. Yn anffodus mae ol y tywydd i’w weld bellach gyda nifer o’r cerfluniau yn dechrau colli eu ffurff. Gellir gweld cerfluniau o Sant Iago Fawr, Sant Silyn (Giles) gyda Harri VIII ar un ochr iddo a Sant Ioan Fedyddwr ar yr ochr arall.

                Ar waelod  wal orllewinol y twr mae carreg a roddwyd yn y wal gan Goleg Ial ym 1918 i gymeryd lle carreg a gludwyd drosodd i’r America. Yn ddiddorol iawn, Giles neu Silyn oedd nawdd sant pobl ac anableddau symud.
 

No comments:

Post a Comment