Bore Sul fe ddeffrais gan wybod mai Dinas Emrys fydda fy nhaith
gerdded pnawn Sul. Yn aml iawn rwyf yn gadael fy ngreddf / teimlad mewnol
benderfynu lle dwi am fynd i gerdded. Does dim mapiau OS allan ar y bwrdd y
noson gynt nac unrhyw baratoi manwl, dwi jest yn codi ac yn gwybod lle dwi am
fynd. Lle dyliwn i fynd!
Peth rhyfedd yw hyn mewn ffordd ond y disgrifiad gorau yw
fod rhywun yn ‘gwrnado’ ar ei ‘deimladau’. Os di’r teimlad yn iawn dyna ni –
ffwrdd a ni. Wythnos yn ôl roeddwn yn llai sicr ond yn gwybod fod rhaid anelu
am Eifionydd. Dyma yrru yn y car i gyfeiriad Llangybi a phenderfynu munud olaf
y byddwn yn mynd draw at Ffynnon Gybi. Unwaith ro’ ni wrth y ffynnon dyma
benderfynu fod angen mwy o awyr iach a felly dyma fras gamu fyny at fryngaer
Oes yr Haearn, Garn Bentyrch.
Wythnos yn ôl roedd y gwynt yn gryf. Prin fod modd sefyll
ar gopa Garn Bentyrch a’r unig loches oedd yn y ffosydd rhwng y tri clawdd sydd
yn amgylchu’r gaer aml-gyfnod. Ond, roedd y golygfeydd dros Eifionydd yn gwneud
yr ymdrech yn un werth chweil. Does dim gwell nagoes, na sefyll ar gopa a gallu
gweld yn bell.
Castell tywysogion Gwynedd
Wrth deithio am Ddinas Emrys roedd y blodau melyn allan ar
y cennin Pedr. Welais i ddim ŵyn bach ond roedd na rhyw deimlad fod y Gwanwyn
ar droed. Roedd yr Haul allan yng Nghraflwyn. Y maes parcio yn weddol ddistaw.
Tynnais lun o arwydd ERDF yn cofnodi fod arian Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru
wedi ariannu’r arddangosfa tywysogion Gwynedd.
Rhai blynyddoedd yn ôl fe weithiais gyda staff
Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn ar gynllun Ein Treftdaeth yn dehongli
Dinas Emrys. Fel archaeolegydd llawrydd fe gefais waith pellach ar gynllun Ein
Treftadaeth gan Cadw a Chyngor Gwynedd. Meddyliwch cael ein talu i ddehongli
Hanes Cymru. Diolch i arian Ewrop. Wel mae hunna wedi mynd rwan yndo.
Mae mor anodd peidio bod yn flin hefo’r ‘Little Englanders Brecsitaidd’. Mae nhw di cael yr hawl i basport glas. Llongyfarchiadau. Dyna’r unig beth mae nhw yn mynd i gael. Ond mae o yn gwylltio rhywun pan mae rhywun yn sylweddoli fod rhan o incwm rhywun am ddiflannu am byth.
Fel nifer o bobl llawrydd rwyf yn gwenud gwaith tywys dros
yr Hâf. Rwyf wedi dilyn cwrs er mwyn derbyn Bathodyn Glas fel tywysydd Cymreig
a rhaid cyfaddef fod yr incwm da ni’n ennill drwy dywys Americanwyr o amgylch
cestyll Cymru dros yr Haf yn gwneud byd o wahanaieth. Siawns bydd yr Hâf yma yn
OK ond beth am 2021? Beth fydd sefyllfa tollau Caergybi erbyn 2021. A fydd y
llongau Cruise dal i ddod ar ôl Brexit?
Dwi’n gwybod bydd llawer yn ddrwgdybus am ‘werthfawrogi’ cestyll
Edward I ond hebddynt byddai economi gogledd Cymru llawer tlotach. Chydig iawn
o waith tywys sydd i’w gael gan Gymry Cymraeg, felly da ni’n ddiolchgar i’r
Americanwyr a’r Almaenwyr. Dyma’r pris os am gadw busnesau Cymraeg yn fyw. Di’o
ddim yn bris go iawn – dwi rioed wedi tywys neb o amgylch Caernarfon, Harlech,
Conwy na Biwmares heb grybwyll Llywelyn ab Iorwerth, ap Gruffudd a Glyndŵr.
Rhaid trafod y cyd-destun ehangach os am ddealltwriaeth o’r
Hanes – does dim Hanes Cymru heb ddeall Edward I. Ffaith – yn hynny o beth rwyf
yn cytuno hefo Kirsty Williams – mae hanesion Cymru yn plethu i greu yr Hanes
cyfan.
Gan fod y Cymry heb gael hanes Cymru yn yr ysgol – does dim
cymaint o ddiddordeb nagoes. Be fyddwn wedi ei alw yn ‘self-imposed stupidity’.
Ches i ddim gwersi gwylio adar na astronomeg yn yr ysgol ond dwi’n nabod y robin
goch a sêr Orion. Does dim rhwystr rhag darllen, darganfod, teithio, Google hyd
yn oed. Rhaid cael gwared a’r ‘victim culture’ os da ni am symud ymlaen. Pa ots
be mae cyflwynwriag Sky yn ddweud am yr iaith – da ni uwchlaw hynny.
Ofnaf y bydd Brexit yn niweidiol i’r gwaith tywys – cawn weld.
Heb os bydd Brexit yn niweidiol i’r maes treftadaeth ac archaeoleg. Ah wel,
oleiaf mae gennyf fy sioe radio ar nos Lun – fydda’i ddim yn y wyrcws fel fydda
nain yn deud. Ond Rhys bach – dyna’r targed nesa. Am ryw reswm mae’r Brexiters
wedi troi ar y BBC rwan. Os bydd y wasg boblogaidd adain-dde a’r cyfryngau yn
parhau a’r iaith ymosodol, y BBC fydd nesa ar ol yr UE - ar fai am bopeth, gan
gynnwys siap bananas. Does dim taw ar hyn.
Tydi Brexiters ddim yn poeni am sioe Huey ar fore Sadwn ar
BBC 6 Music mwy nac ydynt yn poeni am sioe Georgia ar nos Fawrth ar Radio
Cymru.Yn eu hatgasedd blin di-ddiwedd maent am wared a phopeth bron. Unrhywbeth
sydd yn rhoi pleser. Yn ogystal a chael gwared a gofalwyr a staff yr AIG mae
Priti am rwystro cerddorion ac artistiad rhag teithio a pherfformio.
Nid jest gadael sefydliad yr Undeb Ewropeaidd yw hyn, tydi
hynny ddim yn ddigon – mae nhw am rwystro ni rhag fwynhau cyngherddau
rhynglwadol yn y theatr a gwrando ar gerddoriaeth amgen ar y radio. Mae nhw yn
mynd yn fwy fwy blin.
Dwi’n mynd i gerdded er mwyn teimlo yn well. Dwi’n gweld
arwyddion ERDF ym mhobman – o Fryn Celli Ddu i Gastell Henllys ac yn cael fy
atgoffa fod Brexit yn ymosodiad ar ein ffordd o fyw ac ar ein cyfloedd i gael
mwynhad.