“Ohh David bach, beth wyt ti wedi wneud?” Dwi jest yn
dychmygu’r sgrws. Distaw iawn fu David Cameron ers canlyniad y Refferendwm. Yn
ôl wefan The Week bu rhan health o’i
amser yn cael ei dreulio yn sgwennu ei hunangofiant gan faddau i Johnson ond
gan ddarnio Gove? Efallai fod y frawdgarwch Etonaidd mor gyrf a hynny felly.
Amseru fydd y peth nesa ynde. Pryd bydd cyhoeddi
hunangofiant o’r fath? Nid cyn Brexit mae’n debyg, ond wedyn fydd na byth amser
da i Michael Gove. Nid fy mod yn mynd i goli unrhyw gwsg os bydd Cameron yn
taflu goleuni llai na chymwynasol a’r Michael Gove. Sut bydd Cameron yn
cyfiawnhau galw refferendwm mor drychinebus a mor bell gyrrhaeddol o ran
effeithiau economaidd niweidiol? Fydda’i yn sicr ddim yn un fydd yn trafferthu
darllen.
Beth bynnag oedd addewidion (anelwig, tywyllodrus,
anghywir, afreal, amhosib) Brexit does neb bellach i weld yn smalio honni y
bydd unrhyw fanteision go iawn “The overwhelming opportunity for Brexit is over
the next 50 years” meddai Jacob Rees-Mogg ar Channel 4 News. Ar LBC dyma
Farrage yn cyhoeddi “I never promised it would be a success”. Yn well neu waeth
oleiaf bydd Sofreniaeth yn ôl gennym yw ateb Farrage.
Bydd Rees Mogg wedi hen adael y ddaear yma felly cyn gwybod
beth fydd canlyniadau Brexit go iawn. Rhywbeth hollol wahanol oedd gan Farrage
felly, nid ‘manteision’ economaidd honedig ond adfer rhyw synnwyr o ‘Britannia
Rules the Waves’ ymhlith y ‘Little Englanders’ a bydd popeth yn iawn. Nostalgia
am yr uncorn.
Yr hyn sydd yn ddiddorol efallai yw sylwi ar sut mae’r
naratif wedi newid dros y misoedd dwethaf ynglyn a Brexit. Wedi mynd yn ôl i’r
orsaf bwsiau mae’r bws mawr coch hefo’r holl addewidion. Hyd yn oed pan mae
lluniau o Johnson a Gove neu pwy bynnag o flaen y bws – mae mor hawdd iddynt
wadu, newid y sgwrs, camarwain.
Efallai mai gohebwyr a newyddiadurwyr Prydain, golygyddion
newyddion a phapurau newydd sydd wedi bod mwyaf cydsyniol yn y broses. Llawer
gormod ohonnynt yn sicr. Prin iawn yw’r
adegau lle mae’r holwyr yn mynnu ateb gan y gwleidyddion. Rhy aml mae Rees -Mogg,
Duncan Smith, Redwood, Leadsom ac yn y blaen yn rhoi ‘soundbites’ allan, un ar ôl
y llall gan osgoi unrhyw gynnig ar ateb.
A beth yn union yw’r busnes yma o gael gofyn un cwestiwn yn
unig i wleidyddion? Oleiaf fe gafodd Richard Madely y ‘guts’ i droi ar Gavin
Williamson. Ond meddyliwch am hyn - onid oedd gwylio Corbyn yn ail ateb yr un
cwestiwn bump gwaith yn boenus i’w wylio? Rho ateb. Atebolrwydd?
Heb os mae’r naratif wedi dechrau gwneud cylchoedd o
amgylch y goedwig. Roedd datganiad diweddaraf Andrea Jenkyns AS ‘Its better to
go down fighting and honouring the decision of our British people’ yn ymylu ar
y gwallgofrwydd. Rhethreg syth allan o gomic Ail Ryfel Byd. Beth ???? Gwell
colli’r cyfan, gwell suddo’r gwch na rhoi mewn i’r Undeb Ewropeaidd.
O lle ddiawl y daeth hyn i gyd? Doedd dim o hyn ar ochr y
bws nagoedd. Rhywsut mae’r Toriaid wedi colli unrhyw synnwyr o synnwyr
cyffredin. Does ’nelo Brexit ddim ôll a’r Ail Ryfel Byd mwy na’r Undeb
Sofietaidd yn ein carcharu ond mae’r rhethreg yn cynyddu, yn cynyddu mewn
afresymoldeb yn ddyddiol.
Wedi eu cymeryd allan o gyd-destun oedd datganiadau Hunt
mae’n debyg. OK dyna popeth yn iawn felly. Os yw’r naratif yn newid mae Trump
yn rhan o’r newid hinsawdd. Wrth reswm tydi Trump ddim yn credu mewn ‘newid
hinsawdd’ ond fe fydd ei weithredoedd yn uniongyrchol arwain at waethygu’r
hinsawdd – a Duw a’n helpo o ran unrhyw hinsawdd wleidyddol.
Pwy fydda wedi dychmygu, dyweder hyd yn oed mor ddiweddar a
thair – pedair mlynedd yn ôl byddai celwyddau noeth yn deillio o’r Tŷ Gwyn ar
raddfa dyddiol. Os yw Arlywydd yr Unol Daliaethau yn gallu palu nhw – wel, does
dim problem wedyn nagoes i gymeriadau fel Johnson a Gove wrth-ddweud eu hunnain
o un wythnos i’r llall.
Drwy ‘normaleiddio’ celwydd neu ‘normaleiddio’ camarwain
gwleidyddol heb wiro rydym yn creu cynsail ofnadwy o beryglus. Rhaid bod y Cyfryngau
a’r Wasg yn rhydd er mwyn gwiro yr hyn sydd yn cael ei ddweud gan wleidyddion.
Dyna’r ddelfryd. Y realiti wrthgwrs yw fod agendas gwleidyddol wedi bod ynghlwm
a’r Wasg a’r Cyfryngau ers y dechrau. Heddiw, 2018 mae’r angen am wiro yn fwy
nac erioed.
Dwi’n gweld hi yn ofnadwy o anodd sgwennu colofn fel hyn
heb ddechrau ‘rantio’. Os yw’r naratif wedi newid, onid felly yw hi’n amser i ail
edrych ar yr holl beth? Petae rhywun yn gofyn am restr syml iawn – rhowch i mi
dri fantais clir o ganlyniad i Brexit? Syml – fedra’i ddim hyn yn oed meddwl am
un. O ddifri rwan, yn amlwg roeddwn o blaid aros yn yr UE ond petae rhywun yn
gofyn i mi am un fantais heb son am dri o ganlyniad i Brexit fedrai ddim eu
rhestru.
Byddwn yn gofyn hyn i bobl Brychdyn, rhai oedd o blaid
Brexit – staff Airbus oedd o blaid Brexit – sut yn union mae Brexit yn
fanteisiol os yw yn bygwth eich swyddi yn Airbus? Pa ddarn o addewidion
Johnson, Farrage, Rees Mogg sydd yn gwneud colli swydd yn beth da – yn beth
werth pleidleisio drosto.
Rantio neu ddim. Trump yn Arlywydd – mae’n dweud gormod am
gyflwr y byd. Er fy holl dueddiadau anarchaidd doeddwn ddim yn disgwyl naratif
mor wallgof.