Rwyf am geisio troedio llinell denau yr wythnos yma. Rwyf
am droedio a chroesi a drysu’r ffiniau ond dwi ddim yn siwr eto ar gychwyn
sgwennu’r golofn os wyf yn mynd i lwyddo. Efallai mai colofn o sgwennu ‘creadigol’
fydd hi yr wythynos hon neu ymdrech fregus i roi fy meddylia ar bapur – cawn weld.
Beth am ddechrau gyda ambell ddyfyniad felly. Steve Jones
gitarydd y Sex Pistols ddwedodd mewn cyfweliad cynnar iawn “we’re not into
music, we’re into chaos”. Rwan beth bynnag oedd Steve yn feddwl go iawn, achos
roedd yn amlwg fod y boi yn gerddor, yn gitarydd o fri ac ei fod yn angerddol
am ei gerddoriaeth, dyma chi ddyfyniad oedd yn gosod yr agenda, yn gosod her.
Bendigedig.
O edrych yn ôl ar hanes y Sex Pistols mae rhywun yn amau
fod eu rheolwr Malcolm McLaren, os nad wedi rhoi’r geiriau yng ngheg Jones,
oleiaf wedi bod yn annog tueddiadau Jones i herio. Fel darn o ‘gelf’, fel darn
o ‘farddoniaeth’ mae hon wedi’r cyfan yn ddyfyniad o berffeithrwydd,
iconoclastig, heriol, doniol, hanfodol.
Weithiau mae angen yr elfen yna – o herio heb falio. Dyfyniad
o linach “you have to destroy in order to create” oedd llinell Jones heb os. Yr
artist Francis Bacon sydd yn cael ei gydnabod fel awdur “rhaid chwalu er mwyn
creu”. Ddigon posib. Fe fabwysiadwyd y dyfyniad gan Malcolm McLaren a daeth
llinell iconoclastig Bacon yn rhan o naratif y Sex Pistols a Punk Rock yn
gyffredinol.
Yn ei hanfod, roedd damcanaieth Bacon a phawb arall yn un hollol
gywir. Rhaid chwalu er mwyn creu, rhaid herio ac arloesi hefyd achos y tueddiad
yw fod yr hen drefn, y sefydliad, y traddoidiadol, y saff, y derbyniol yna fel
bwystfil di-symud yn rhywstro datblygiad gyda styfnigrwydd blin.
Dyfyniad arall hanfodol sydd bellach yn rhan o’r naratif
chwyldroadol yng Nghymru yw’r un gan David R Edwards o’r grwp Datblygu,’Mae byw
yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”. Cymru yw’r bwystfil blin di-symud. Ond
rydym yn caru Cymru, y lle, y dirwedd, y wlad, y bobl. y traddodiad, yr hanes,
(yr archaeoleg), y diwylliant, llenyddiaeth a’r beirdd a’r cantorion. Wrthgrws
ein bod ni. Da ni gyd yn sicr iawn o hynny.
Ond, a dyma’r cwestiwn anodd, y cwestiwn ar y ffin – pryd mae’r
cariad a’r angerdd yna yn cael ei dros yn rwystredigaeth? Does dim ateb gennyf
go iawn – peidiwch a disgwyl hynny. Dwi ddim yn ei ddalt o fy hyn, dwi ddim yn credu
i mi rioed ei ddallt o.
Rhywbryd yn fy arddegau hwyr, dyddiau olaf yr ysgol
Uwchradd mae’n debyg, trodd fy ansicrwydd naturiol a fy nryswch a chymlethtodau
arddegau naturiol yn rhywbeth arall dwfn ac angerddol. Os darllenwch fy
hunangofiant rwyf wedi esbonio hyn fel fy ymateb i bwlis yn yr ysgol a chael
acne / plorod.
O leiaf roedd hwnna yn ateb ‘syml’ ar gyfer y llyfr. Ac
oedd, roedd elfen o wirionedd yn hynny. Bwlis ac acne drodd fi at y Sex Pistols
– dwi’n weddol sicr am hynny, ond mae hunna yn esboniad rhy syml. Efallai mai’r
Sex Pistols wedyn lusgodd fi ar lwybr mwdlyd a gwelltog cefn-gwald tuag at y
casgliad – ‘mae angen hyn yn y Gymraeg’. Efallai. Efallai wir.
Y llinell anodda i’w throedio yw’r un rhwng angerdd ac anobaith.
Eto dwi ddim yn dallt hyn. Yr agosa efallai i wneud unrhyw synnwyr i mi oedd
dyfyniad Tony Wilson (Anthony H Wilson) Factory Records wrth i Wilson drafod
Punk gan awgrymu fod pawb yn gwieddi ac yn herio pawb a phopeth ac awgrymodd
Wilson mai Joy Division oedd y grwp drodd yr holl beth ar ei ben drwy gyfaddef
mai y nhw oedd y grwp cyntaf lle roedd hi ‘wedi canu arny’ nhw’.
Efallai i Wilson ddefnyddio geiriau ychydig fwy lliwgar na ‘wedi
canu’ ond roedd ei neges yn amlwg. O anobaith llwyr y Manceinion
ol-ddiwydiannol, llwyd, glawog gogleddol – dyma greu darnau o gerddoriaeth
ymhlith y prydferthaf erioed; ‘Atmosphere’, ‘Love Will Tear Us Apart’, ‘Shadowplay’,
‘New Dawn Fades’. Felly tra dwi’n chael hi’n anodd cael y geiriau cywir i fynegi
yr hyn dwi’n gesio ddweud – dwi’n rhoi ‘Atmosphere’ ymlaen yn y cefndir ar YouTube
a dyna fo, mewn cerddoriaeth, fe gaf roi’r gorau i sgwennu’r golofn hon – jest gwrandewch
ar ‘Atmosphere’.
Lwcus ydi’r gair. I gael y bwlis a’r acne jest fel roedd
Joy Division yn rhyddhau ‘Love Will Tear Us Apart’. Roedd naratif o gysur yn
bodoli yn y gerddoriaeth. Achubiaeth. Achub bywyd rhywun go iawn, nid fod
rhywun yn son am ddiweddu bywyd ond roedd darganfod naratif a llwybr yn bwysicach
na bywyd rhywsut – a hwnna sydd wedi aros hefo rhywun.
O ddydd i ddydd dwi ddim yn gwrando ar Joy Division,
peidiwch cam-ddallt mwy na dwi’n gwrando yn ddyddiol ar Datblygu onibai fy mod
yn paratoi ar gyfer y sioe radio ar Nos Lun. Y naratif, y mainiffestos sydd
wedi aros hefo rhywun. Dyma fy meibl i. Dyma air o gysur rhag tywyllwch y
bwystfil di-symud.
Wrth sgwennu rwyf yn osgoi wynebu yr hyn sydd yn amlwg. Trof
yr angerdd yn arf yn erbyn unrhyw anobaith.A hynny yn ddyddiol. Dwi ddim mor
flin bellach. Tydi mantra Lydon “anger is an energy” prin yn fy nghyffwrdd
mwyach. Dwi ddim mor flin. Dwi’n weddol sicr o hynny. Fe newidodd hynny wrth
fabwysiadu’r hogia.
Angerdd? Beth yn union ydi angerdd? Yn absenoldeb Ian
Curtis a Tony Wilson dwi angen darganfod y bardd sydd yn gallu esbonio hyn i
mi. Efallai bod albym newydd ar y gweill gan Datblygu?