Wednesday 18 October 2017

Gwalia a Gwales, Herald Gymraeg 18 Hydref 2017




Rwyf am sgwennu am lyfr, Gwales, rwyf am sgwennu am CD Gwalia, ond dwi am fynd ar daith bach geiriol cyn cyrraedd. ‘Rant’ fydda’r disgrifiad gora, ‘prygowtha’ geiriol. Maddeuwch i mi.

Dyma ni felly, dyma’r drefn/rota newydd, colofn pob yn ail wythnos. Hanner cyflog. Dyna’r realiti, ond oleiaf da ni dal yma. Tydi son am sgwennu ar-lein ddim yn gweithio yn y Gymraeg. Rwyf yn rhoi fy ngholofnau Herald Gymraeg i fyny ar-lein ar Blog Thoughts of Chairman Mwyn ond gyda darllenwyr yr Herald Gymraeg does dim modd curo papur wedi ei brintio.

Rhwng 100 a 400 sydd yn darllen y Blog yn wythnosol os yw’r ystadegau dwi’n weld yn gywir. Anodd cael dros 500 o ddarllenwyr ar-lein. Tebyg fod y rhan fwyaf sydd yn darllen y Blog una’i o’r de ac yn methu cael y Daily Post neu mae nhw o dan 40oed.
Ychydig iawn sydd yn ymateb ar safle y Blog go iawn. Dwi byth, byth, yn clywed gan bobl ifanc. Cofiwch dwi ddim yn clywed gan bobl ifanc mewn caffis neu ar y stryd chwaith nac ar y sioe radio. Beth fydd ymateb darllenwyr yr Herald medda fi i’r drefn newydd? Mae na ddipyn mwy na 500 yn darllen y papur inc.

Fel arfer ar nosweithiau Sul byddaf yn gwenud tipyn o waith ar Facebook a Trydar er mwyn hyrwyddo’r sioe Nos Lun ar Radio Cymru ond ar Sul 1af Hydref wrth wylio’r golygfeydd dychrynllyd o heddlu Sbaen yn waldio gwargedd mewn oed yng Nghatalonia fedrwn’i ddim medwl am wneud unrhywbeth mor ddibwys.

Ar y Nos Lun ganlynol fe soniais am hyn yn fyw ar y radio. Methais a meddwl am y geiriau addas a felly penderfynais chwarae cân o’r enw ‘Ewrop’ oddiar CD newydd Gai Toms. Weithiau mae’n well gadael i’r gerddoriaeth siarad – a mae Gai Toms yn fwy o fardd na fydda’i byth.

Dyma ni wedi bod yn dadlau yn gryf iawn yn erbyn Brexit a’r ‘an-llythrennog wleidyddol’ hynny gafodd eu hudo gan y Brexiteers ideolegol, ac eto - dyma’r union sefydliad rydym wedi ei bod yn amddiffyn, a gwlad sydd yn rhan flaenllaw o’r sefydliad honno, yn son am ‘proportionate response’. Anhygoel. Ysbryd Franco yn fyw ac iach – edrychwch ar fideo The Clash, ‘Spanish Bombs’ ar youtube. 1939/2017.

Da ni hefyd yn barod iawn i wawdio Trump. Yn ddiweddar fe aeth Trump i ddadl ffôl hefo’r NFL ynglyn a pheldroedwyr yn gwrthod sefyll i’r Star-Spangled Banner. Trump mor afresymol a chacwn mewn potel a’r peldroedwyr (croenddu yn bennaf) yn gwneud pwynt ddigon dilys am ddiffyg cyfartaledd cymdeithasol yn America (meddyliwch Black Lives Matter)

A lle da ni arni yma yng Nghymru, yda ni yn disgwyl i bawb sefyll ar gyfer Hen Wlad Fy Nhadau? Dyna chi gwestiwn diddorol, wrth i ni ddechrau gofyn cwestiynau ynglyn ac annibyniaeth i Gymru a chefnogi Catalonia. Sul le yn union fydd hynny? Cymru yn y dyfodol sydd yna hawlio dychymyg Catrin Dafydd yn Gwales.

Cofiwch ar y funud mae unrhyw son am annibyniaeth i Gymru chydig bach fel son am gyrraedd y lleuad heb gynllunio’r roced. Mae gormod o Gymry yn Brexiteers. Rhaid trawsnewid barn rheini gyntaf.

Sgwni sut fath o sgwrs fydd honno? Do mynychais Annibynwyl yng Nghaernarfon, yn bennaf er mwyn gweld perfformiad Lleuwen ond rwyf hefyd yn lled gefnogol. Fy mhroblem mwyaf i gyda Cymru yw fy mod yn ‘rhyw fath o anarchydd’, anarchydd gwael sydd yn pleidleisio Plaid Cymru – dwi’n cyfaddef hynny.

Dwi ddim yn siwr sut mae unrhyw fath o anarchiaeth yn ffitio mewn i’r dirwedd Gymreig? Pa groeso fydd (sydd) yna i annibyniaeth barn? Hyd yn oed fel anarchydd gwael dwi ddim yn ‘gwneud’ anthemau cenedlaethol na baneri. Nid dyna’r peth pwysig i mi. Heb Dduw, nac anthem, na banner – a dweud y gwir byddwn ddigon hapus heb basport hefyd – cawn fod yn ddinasyddion y Byd!




A thra mae Adam Pryce wrthi yn cwestiynu Llywodraeth Cymru / Cadw am pa faner mae nhw’n fodlon chwifio ar eu cestyll dwi’n sefyll yn y glaw yng Nghastell y Bere yn trio dod a Hanes Cymru yn fyw. Unwaith eto dwi’n gofyn yr un cwestiwn – yda’ni rhy brysur yn poeni am faneri i ymweld a’r cestyll Cymreig?

I fenthyg geiriau Alastair Campbell yng nghyd-destun yr hen Tony Blair, ‘I don’t do God’. Dwi hefo’r grwp Punk anarchaidd Crass ar hyn o beth, ‘Neither God nor Master’. Felly dim Duw na Arglwydd Penrhyn. Haws cofiwch bod yn ‘anarchydd gwael’, oleiaf wedyn mae rhywun yn gallu cwyno fod ‘nhw gyd yn ddiawled drwg’ pan mae hi yn dod i wleidyddion.

Os yw’r Byd yn mynd yn wallgof, mae’r Athro Brian Cox yn ein hatgoffa ar ei gyfrif trydar fod yr holl genedlaetholdeb (da a drwg) yn hollol ddibwys os yw’r Byd yn cael ei ddinistrio. Rhaid cadw golwg ar y darlun mawr. Yr amgylchedd. Ond a yw Cox yn deall y peth Cymreig neu y peth Catalonaidd? Hmmmm.

Does dim atebion gennyf. Jest ansicrwydd. Dwi rhy hen i ail wrando ar recordiau Crass go iawn a darganfod atebion na unrhyw gysur. Ond cefais rhywbeth yn ddiweddar o wrando ar y gân ‘Ewrop’ Gai Toms – gwrando ar y gân yn lle gorfod meddwl am y geiriau iawn / addas i gyfleu sut wyf yn teimlo.

A gyda nofel Catrin Dafydd – lle da ni yn mynd? Dyma’r ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ ar gyfer darllenwyr 2017. @ebost. Iaith newydd. Sgwennu newydd. Cyffrous. Mae yna feddylia mwy craff na fy un i allan yna – rwyf yn cael, llygedyn o obaith, mymryn o gysur o Gwales a Gwalia.  Gwrandewch, darllenwch a mwynhewch.



No comments:

Post a Comment