“Wyt ti’n gwybod lle ti’n mynd?” medda’r dyn bach wrth fynedfa’r Steddfod. “Dwi di treulio fy holl fywyd ddim yn gwybod lle dwi’n mynd” oedd fy ymateb gan chwerthin yn uchel. Wrthgwrs mae gennyf syniad a chyfeiriad ond mae yna rhywbeth am lwybr bywyd yndoes. Tydi’r arwyddbyst ddim o hyd ar gael, ddim o hyd yn cyfeirio rhywun ar y llwybr cywir. Crwydro ydi’r gair mae’n debyg.
Crwydro. Dilyn fy nhrwyn. Crwydro yn reddfol.
Seico-ddaearyddiaeth fel cwrs bywyd.Treulais rhan helaeth o wythnos y Steddfod
yn Y LLe Hanes. Treulias rhan helaeth o’r amser hynny yn sgwrsio hefo pobl gan
gadw nodiadau am olchfeydd defaid, tai cwrdd cynnar Methodistaidd, bwyeill Neolithig
ac Oes Efydd, hyn a llall archaeolegol o Lŷn ac Eifionydd i fwynder Maldwyn a
Dyffryn Cowny.
Gofynnodd sawl un pryd fydd y gyfres nesa archaeolegol ‘Olion’
ar S4C? Oes wir mae yna ddiddordeb mewn hanes ac archaeoleg ymhlith y werin
Steddfodol. Ar un adeg byddwn yn ymateb drwy awgrymu fod pobl yn sgwennu at S4C
yn gofyn am gyfres arall. Bellach dwi jest yn gwenu ac yn dweud S4C. Oes unrhyw
bwynt sgwennu atynt dwedwch? Gyda chyn llied o hanes ac archaeoleg ar ein unig
sianel Gymraeg rwyf yn ofni fy mod bron byth yn gwylio’r sianel bellach.
Holwyd Y Blew yn y Babell Lên, a hynny 50 mlynedd ers
rhyddhau y sengl ‘Maes B’. Methais a chyrraedd oherwydd y gwaith. Wedi dweud
hynny, petae Griff Lynch, yr holwr, heb fy atgoffa mae’n debyg na fyddwn wedi
gwybod am y digwyddiad. O feddwl am bwysigrwydd Y Blew o ran Hanes Pop Cymraeg
mae’n syndod i rhywun fel fi fod hwn yn ddigwyddiad mor ‘ddistaw’. Bron yn
danddaearol onibai am y Babell Lên.
Synnais rhywsut nad oedd neb o’r trefnwyr wedi cysylltu a’n
sioe radio Nos Lun ar Radio Cymru. Byddwn wedi rhoi sylw iddynt. Byddwn wedi
dod draw i recordio pwt. Cydweithio? Hyrwyddo? Dwi ddim yn dallt hyn. Ella fod
y Babell Lên yn orlawn ta beth a doedd dim angen mwy o hyrwyddo. Mae’r Blew yn
haeddu gwell, yn haeddu mwy o sylw – does dim modd rhoi gormod o sylw iddynt.
Tydi’r @Blew ddim yn trydar.
Ymwelais ar Lle Celf. Diddorol, achos doedd fawr o Sêr
Pop Cymraeg yn yr agoriad swyddogol. Credaf (erioed neu oleiaf ers 1979) fod angen mwy o ryngweithio rhwng y
digyblaethau celfyddydol Cymreig. Credaf fod angen chwalu ffiniau celfyddydol ond
yr hyn sydd yn boenus o amlwg yw fod y celfyddydau Cymraeg yn bodoli rhy aml o
lawer yn eu swigod unigol.
Christine Mills
Do fe lwyddodd Christine Mills am yr eil-waith i greu
darn syfrdanol o waith o ddarn o wlan – syfrdanol!. Atgoffir rhywun bron o
gadair-drydan Gary Gilmore, a anfarwolwyd gan The Adverts ar y sengl ‘Gary Gilmore’s Eyes’. Saif gwaith
Christine Mills pen a chynffon uwch y mwyafrif o ddarnau yn y Lle Celf. O wlan
Yr Ysgwrn, union 100 mlynedd ar ôl y ffaith, ac yn awgrymu fod angen i bawb ohonnom
fod chydig bach mwy am ein pethau os am osgoi mwy o Trumps.
Gosodiad Manon Awst tu allan y LLe Celf hoeliodd yr
archaeolegydd ynof. Gan gynnwys botaneg, daeareg ac archaeoleg llwyddodd Awst i
bonito cyfnodau a disgyblaethau. Hi efallai, gyda Christine Mills, sydd yn
arloesi go iawn yma. Gwhaoddwyd Ffion Reynolds (Cadw) a minnau i wneud ychydig
o waith cloddio archaeolegol yn y gosodiad gan Manon.
Mewn sawl ffordd dyma oedd uchafbwyt y Steddfod i mi.
Rhaid cyfaddef fod cael cloddio yn baw yn gwneud hen punk 55 oed yn ddigon
bodlon. Wrth drafod ein ‘ymyraerh celfyddydol’ hefo Ffion a Manon gofynais a’i dyma’r
tro cyntaf i osodiad / gwaith celf gael ei gloddio yn archaeolegol?
Manon Awst
Rhaid rhoi canmoliaeth hefyd i osodiad Lindsey Colbourne
a Lisa Santana yn seiliedig / wedi ei ysbrydoli gan Mynydd Parys. Marblis a
cherddoriaeth. Lindsey wedi dysgu Cymraeg – does na ddim gair o Saesneg
rhynddom bellach. Addas. Braf iawn ar y Maes.
Felly roedd ambell ddarn yn Y LLe Celf wirioneddol yn
rhagori ond mae yna deimlad ym mer fy esgyrn fod angen rhywun ifanc i roi
ysgytawd go iawn i’r Byd Celf Cymreig. Rhy fach. Rhy glud. Rhy gyfforddus. Rhy
ynysig. Angen Punk Rock.
Uchafbwynt arall oedd cyfarfod Nigel o’r grwp Half Man
Half Biscuit. Nigel wedi dysgu Cymraeg a finnau wedyn yn gofyn y cwestiwn twp
iddo. Pam? Ateb Nigel oedd Gorky’s Zygotic Mynci (a’r Anhrefn). Cofiaf Half Man
Half Biscuit ar John Peel. Arwyr Cilgwri. Ond unwaitheto, dim gair o Saesneg,
dim angen. Rhyfeddol.
Gan fod Nigel wedi colli ei wallt, go brin byddai fawr o’r
Eisteddfodwyr wedi ei adnabod. Hyd yn oed yn anterth Half Man Half Biscuit
fydda’r rhan fwyf ddim callach. Dyma rhywbeth arall sydd yn poeni rhywun braidd
am y Byd Cymraeg. Roedd sgwrs Casi Wyn a genod Adwaith am ffeministiaeth yn Y
LLe Celf yn wefreiddiol ac heriol. Heriol o ran hyder y pedair ifanc. Rhy
hyderus i dderbyn label.
Roedd gigs Twinfield, Ani Glass a HMS Morris yn dangos pa
mor bell da ni wedi crwydro ers dyddiau’r triawdau a’r pedwarawdau acwstig. Ond,
roedd y mwyafrif yn rhy brysur yn bwyta ‘fish and chips’ i gyfeiliant canol y ffordd
i sylwi, i fynychu, i ymddiddori. Os caiff unrhywun o’r artistiaid rhain lwyddiant yn Saesneg bydd pawb yn honni
fod nhw yno yn Caffi Maes B, Steddfod Mon, 2017 fel yn achos y Free Trade Hall,
Manceinion gyda’r Sex Pistols.
Ani Glass
Fell, pethau da, pethau rhagorol ond dwi dal ddim yn credu
byddai’r Clash wedi canu o flaen pobl yn bwyta eu ‘fish and chips’. Mae angen
mwy o barch!
No comments:
Post a Comment