Thursday 17 August 2017

Celf Luned Rhys Parri, Herald Gymraeg 16 Awst 2017




Mae cymeriadau’r arlunydd Luned Rhys Parri yn symud. Er mai cymeriadau o bapur mache o fewn ffram ydynt mae yna yn sicr symudiad. O edrych ar y cymeriadau, mae rhywun yn gweld fod y bagiau llaw (handbags) bob amser yn yr awyr, yn cael eu chwifio neu gerfydd sgil gwynt y symudiad corfforol yn y llun. Rhyfeddol.

Symud hefyd mae’r coesau. Golwg o’r ochr gawn fel arfer o gymeriadau Luned. Does dim portread statig, dim portread o wyneb mewn ffram. Mae popeth ar frys rhywsut, mae yna le sydd angen ei gyrraedd, ond tyda ni fel y gynulleidfa byth yn ymwybodol o lle bydd diwedd y daith. Nid dyna sydd yn bwysig yma. Jest cyfleu y symud er mwyn creu y darlun.

Na, dwi ddim yn credu fod y daith yn holl bwysig o gwbl. Croesi Maes Caernarfon mae rhai o’r cymeriadau. Y bag llaw yn chwifio. Weithiau mae ci anwes ar y daith hefyd. Tro arall mae’r holl symud o fewn y gegin wrth i nain arllwys neu baratoi y banad o de. Oes mae prysurdeb o fath ond mae o yn brysurdeb hamddenol mewn oes heb ormod o brysurdeb. Prysur yn tywall y te.

Hawdd yw adnabod cymeriadau Luned Rhys Parri. Ar ei fwyaf syml mae rhywun yn gweld ‘nain’, y neiniau hynny oedd yn gwisgod ffedog a sgarffiau, sgarff am y pen er mwyn atal y gwynt. Perthyn i oes o’r blaen. Tydi’r cymeriadau yma ddim mor gyffredin bellach. Rhywsut mae colled ar eu hol. Dim ond Luned sydd yn cofnodi.

Rhain oedd yn glanhau’r stepan drws. Rhain oedd yn gwisgo ffedog i lanhau’r tŷ neu i wneud panad o de. Rhain oedd yn cael ‘ffag’ bach dirgel pan doedd neb yn edrych. Dim ond y neiniau fedrai dorri’r torth o fara mor dena – doedd ru’n taid yn gallu gwneud hynny – chwarelwr neu ddim. Stiwio’r te hefyd, nes fod hwnny yn driagl du, a oedd yn sicr yn amhosib i’w lyncu i ni lanciau yn ôl yn y dydd.

Dwi’n eu cofio yng Nghaernarfon yng nghaffis bach y dre. 1980au. 1990au. Yn smocio ac yn rhegi fel unrhyw foriwr. Y smocio oedd y peth mwyaf od. Cyn y gwaharddiad roedd y neiniau Cofi siwr o danio sigaret jest fel roedd Mr Mwyn yn bwyta ei ffa pob ar dost. Doedd dim byd gwaeth – mwg sigaret yn ymharu ar y ffa pob cynnes. Peth od ynde ond doedd fawr o Gymraeg rhwng y mwg a’r ‘baked beans’ rhywsut.

Rhaid cyfaddef, does dim geiriau y medraf eu pledu at bapur fel hyn sydd yn mynd i wneud cyfiawnder a gwaith celf Luned Rhys Parri. Rhaid gweld y gwaith celf yn y cnawd. Rhaid bod yn agos i weld wynebau crach y cymeriadau ac i fwynhau’r lliwiau. Kitsch ar ei ora. Nid kitsch i’w anwybyddu ond kitsh i’w fwynhau.Kitsh lliwgar a mae hynny yn beth da. Kitsh fel oedd ond yn bosib dyddiau cynnar teledu lliw.

Fe awgrymwyd unwaith fod yr arlunydd Christopher Williams heb gael y clod haeddiannol achos fod Ausgustus John a J D Innes yn rhy swnllyd, yn rhy or-uchel eu clochau. Heb weiddi creodd Williams campweithiau fel golygfa Coedwig Mametz neu’r portread hynod hwnnw o Hwfa Môn sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol.

Tydi Luned Rhys Parri ddim yn un i weiddi chwaith, mae hi yn creu yn dawel ac yn creu cymeriadau llawn cyffro a llawn cymeriad. Ond mae’r gwaith a’r cymeriadau yn wych ac efallai fod angen rhywun yn rhywle i weiddi ac i or-ganmol ychydig. Dyma fy mhregeth yr wythnos hon – dyma waith celf sydd yn gweiddi am fwy o sylw.


Bydd arddangosfa Luned Rhys Parri yn Oriel Ynys Môn hyd at y 10fed o Fedi.

No comments:

Post a Comment