Wrth bendroni ychydig ar y cwestiwn mawr ynglyn a’r nifer o
siaradwyr Cymraeg dyma ddechrau gofyn pam nad oes mwy o’r di-Gymraeg yn
ymdrechu i ddysgu’r iaith? Yn amlwg mae trio dysgu’r iaith pan mae rhywun yn 35
neu 55 oed yn ddipyn o waith.
Mae cymaint o ffactorau. Lleoliad. Ardal. Cefndir. Cefndir
addysgol. Mewnfudwyr neu ddim. Fel arbrawf
dwi’n rhoi gwersi Cymraeg yn Llandrindod i mewn i Google a gweld beth sydd yn
digwydd. A dyna chi be di hawdd. Gwefan learnwelshinmidwales.org a mae cyrsiau
yn Llandrindod ddigon hawdd i’w ffendio.
Dim byd yn erbyn Llandrindod, dwi jest yn trio meddwl am
rhywle weddol ‘anodd’. Fydda rhywun ddim yn disgwyl cymaint a hynny o Gymraeg
ar strydoedd Fictoraidd Llandrindod. Tref Spa Fictoraidd ydi hi wedi’r cyfan,
nid tref gynhenid Gymreig. Ond mae’r cyfle i ddysgu yna. Beth wedyn? Dyna’r
cwestiwn hir dymor.
Sut gyfleoedd sydd i gymdeithasu yn y Gymraeg yn
Llandrindod? Ar ôl ymdrechu i ddysgu mae angen ymarfer a chymdeithasu. Prin
iawn yw’r gigs Cymraeg yn Llandrindod. Hyd yn oed yn nyddiau’r Anhrefn naethom
ni ddim llwyddo i ganu erioed yn Llandrindod. Llanidleos do (yn y Clwb Rygbi),
Llandrindod naddo.
Cwestiwn arall bosib yw pa werth dysgu’r Gymraeg yn Llandrindod
os nad oes cyfle i’w defnyddio wedyn ar lawr gwlad? Ateb syml i hynny yw fod
manteision diwylliannol amlwg i fedru siarad yr iaith sydd uwchlaw lleoliad
daearyddol. Gallwch ddarllen cerddi T.H Parry Williams yn unrhywle yn y Byd
(hyd yn oed yn Llandrindod). Siawns fod yr un peth yn wir am wylio S4C neu
wrando ar Radio Cymru (signals yn caniatau / DAB / SKY / y we).
Tydi rhywun ddim yn gaeth i Landrindod chwaith (siawns),
felly mae digwyddiadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod / Maes B neu hyd yn oed
pethau Cymraeg yn Theatr Hafren yn y Drenwydd (ddim mor bell a hynny). Ac os
oes yna ddysgwyr yn Llandrindod, rhag ein cywilydd ni fel pobl y Pethe /
diwylliant pop / diwylliant cyfoes am beidio ymdrechu i wneud rhywbeth yno.
Unrhywbeth Cymraeg.
Haws dysgu yn yr ysgol, does dim dadl am hynny a does dim dwy
waith mai’r ffordd o gyrraedd y mliwn o siaradwyr yw drwy sicrhau fod pob
disgybl ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru yn dysgu’r iath – cyn iddynt gyrraedd
7/8 oed. Awgryn sydd siwr o blesio Julian Ruck/ Newsnight – what’s the point of
the Welsh language exactly? Peidiwch.
Soniais yn ddiweddar am y gynhadledd ar gyfer tiwtoriaid
Cymraeg a gynhaliwyd ym Machynlleth, ac yn sicr roedd pwyslais yno ar sicrhau
cyfleoedd i siarad ar ôl dysgu. Parhau y broses. Iawn os ydynt wedi dechrau’r
broses.
Ond mae miloedd ar filoedd o Gymry sydd ddim yn dysgu’r
iaith. Rhaid newid pethau yn yr ysgolion cynradd ar frys gan sicrhau nad oes
unrhyw blentyn yn gadael ysgol gynradd yng Nghymru heb fod yn ddwy-ieithog.
Neges i Carwyn. Ond beth am rheini sydd wedi gadael yr ysgol?
Dim ond y dewr sydd ym mynd ati i ddysgu iaith ar ôl gadael
ysgol. I’r rhan fwyaf o bobl mae trio gwneud bywoliaeth, magu teulu,
diddordebau arall, Eastenders ar y teli yn mynd i fod yn ormod o gystadleuaeth.
“I wish I could speak Welsh” neu “I wish I’d learnt the language in school”
fydd hi. Neu gyda’r cymal “but I went to school in Pembroke Dock”. Ddim mor
hawdd wedyn.
Soniais wythnos dwetha am Nigel o’r grwp pop Half Man Half
Biscuit o Gaergwrli yn dysgu’r Gymraeg am ei fod yn ffan o gerddoriaeth Gorky’s
Zygotic Mynci. Dyma lle mae angen i ni fod yn fwy siarp. Os oes cyfleodd i
ddysgu yn Llandrindod mae angen i ni gyd gynnig fwy o resyma iddynt dros wneud
yr ymdrech.