Un o bleserau bywyd yw cael cloddio gyda criw o
archaeolegwyr ym Meillionydd, Llŷn. Dyma bleser sydd bellach yn digwydd yn
flynyddol, a dwi wedi cael y fraint o ymuno a chriw Prifysgol Bangor dan
oruwchwyliaeth yr Athro Raimund Karl ers saith mlynedd bellach. Edrych ar ôl yr
ymweliadau ysgol yw fy joban i yn swyddogol, ond os oes dim ysgol caf y cyfle i
gael y trwyal allan a gwneud ddipyn o ‘archaeoleg go iawn’.
Safle cylchfur dwbl yw Meillionydd, yn dyddio oddeutu 800
cyn Crist tan tua 300 cyn Crist. Yr un dyddiadau sydd i’r safle cyfagos,
Castell Odo. Yr hyn a olygir gan safle cylchfur dwbl yw un sydd wedi ei
amgylchu gan ddau glawdd a ffos ar yr ochr allan. Rhan o bwrpas y gwaith
cloddio blynyddol yw i geisio dehongli datblygiad y safle.
Rydym yn weddol ffyddiog fod yma nifer o gytiau crynion
heb eu hamgylchu lle roedd pobl yn byw ac yn amaethu tua ddiwedd yr Oes Efydd
(800/700 cyn Crist) a fod y safle, sydd yn eistedd ar ben bryn isel, wedi ei
amgylchu wedyn gan balisad pren a ffos. Datblygiad diweddarach oedd y cylchfur
dwbl.
Yr her archaeolegol yw ceisio rhoi trefn a dyddiadau
pendant (neu weddol bendant) ar ddatblygiad y safle. Gan fod hon yn safle sydd
wedi gweld defnydd efallai dros gyfnod o 500 mlynedd fe fyddai rhywun yn
disgwyl i’r stratigraffeg fod yn un cymhleth. Mae pobl wedi codi ac ail-godi
adeiladau ar yr un safle, yn aml yn yr union ru’n lle, dros y cyfnod hynny.
Wrth gloddio yn systematig, gobaith yr Athro Karl yw
cwblhau cloddio un hanner cyfan o’r safle o fewn y 3-4 mlynedd nesa – a felly
bydd hanner cyfan Meillionydd wedi ei gloddio yn ofalus. Y gobaith wedyn yw fod
y patrymau a’r cyfnodau yn fwy amlwg ar gyfer eu dehongli gan archaeolegwyr
heddiw.
Fy nisgrifiad i o Meillionydd bob amser yw’r lle yna “sydd
yn agosach i’r nefoedd”. Rhaid cyfaddef fod Llŷn yn le sydd yn agosach i’r
nefoedd am sawl rheswm ond yn achos Meillionydd yn benodol rydym yn gweld Enlli
o gopa’r bryn, rydym ar lethrau Mynydd Rhiw a’i gloddfeydd bwyeill Neolithig. Ydan
wir, rydym yn agosach at y nefoedd.
Tybiaf mai safle amaethyddol yn ei hanfod oedd
Meillionydd. Efallai fod y trigolion o statws uwch neu o gymuned arbenig a wedi
diffinio’r gymuned drwy godi’r cylchfur dwbl o amgylch y ‘pentref’. Ond
ffarmwrs Llŷn oedda nhw. Ffarmio oedd yr economi pryd hynny. Bron mi ddweud fel
heddiw, sydd yn rhannol wir ond fod y diwydiant ymwelwyr / twristiaeth wedi
cymeryd ei le bellach ochr yn ochr ac amaethyddiaeth.
Newydd ei gyhoeddi mae’r llyfr Hillforts of Cardigan Bay (2016) gan Toby Driver o’r Comisiwn
Brenhinol. Rwan ta, mae Driver efallai yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn
darganfod safloedd drwy awyrluniau, ond mae’r llyfr yma yn rhoi crynodeb a
chydestun da iawn o ran beth a pham yn union oedd y bryngaerau.
Er mai Ceredigion sydd yn hawlio sylw Driver, yr un yw’r
patrymau a’r un yw’r egwyddorion mewn rhannau eraill o Gymru. Does fawr o
wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng Sir Benfro a Llŷn yn ystod yr Oes Haearn. Saif
yr holl fryngaerau yn weddol agaos i’r mor – hynny yw does nunlle yn bell iawn
o’r mor ar Ben Llŷn nac Sir Benfro. Yr arfordir gorllewinnol yma oedd y
draffordd, y llwybr cyfnewid ar gyfer pobl, nwyddau, syniadau a’r ffasiwn
diweddara.
Un agwedd ddiddorol o fryngaerau sydd yn cael sylw
teilwng gan Driver yw’r pwyslais ar adeiladu mynedfeydd trawiadol. Ar gyfer
creu argraff efallai yn fwy nac amddiffyn? Cwestiynau, cwestiynau. Mae mwy
ohonnynt nac atebion yn sicr.
No comments:
Post a Comment