Diwylliant, mynegiant creadigol a syniadau pobl. I mi, mae diwylliant yn gyfystyr a goleudigrwydd, fod pobl yn gwella eu dealltwriaeth o’r Byd, yn ehangu eu gorwelion, yn ymestyn y drafodaeth ac yn gwthio’r ffiniau. Dros benwythnos Gŵyl Arall cafwyd digon o hynny.
Ar y nos Wener roedd DJ’s reggae yn ystafell lloft y Pendeitsh,
Caernarfon. Treuliais y diwrnod yn gwylio adar ar Ynys Lawd gyda criw o’r
Almaen, diwrnod hir, ac erbyn 9pm roeddwn yn barod am synnau dub a reggae, yn
barod i ymlacio a chael gwared a phwysau gwaith y dydd. Nid fod gwylio’r fran
goesgoch ar Ynys Lawd yn unrhywbeth ond pleser cofiwch ond roedd bod yn
gyfrifol am 25 o Almaenwyr ers 7 y bore wedi dweud arnaf erbyn gyda’r nos.
Ar lawr isaf y Pendeitsh roedd hi’n fyd arall, dim byd i’w
wneud a Gŵyl Arall. Carioci. ‘Africa’ gan Toto ar y jukebox. Dau ddiwylliant.
Fyny grisiau, pobl oedd i mewn i’w reggae. Neb yma wedi pleidleisio dros
Brexit. Lawr grisia, amheuaeth am y ‘weirdos’ fyny grisiau. Daeth ambell un i erdrych.
Tynnu trwyn a throi ar eu sodlau. Dwi’n bod braidd yn llym efallai. Mymryn yn
anheg.
Ond roedd Toto yn canu ‘Africa’ yn ormod i mi.
Cerddoriaeth ar gyfer pobl sydd ddim yn hoffi cerddoriaeth. Fel Coldplay ac Ed
Sheeran. Fel ambell i artist poblogaidd Cymraeg. Sgwni sut pleidleisiodd y werin
bobl lawr grisia os o gwbl? Do, mae Brexit wedi newid pethau. Dwi’n dal i ofni
fod yr an-llythrennog wleidyddol wedi pleidleisio i fod yn dlotach, fel yr
an-llythrennog wleidyddol ddosbarth gweithiol rheini sydd yn credu bydd y
Toriaid yn cofio amdanynt.
Peidiwch a’n galw yn wirion medd y Brexiteers. OK medda
fi, beth am b**** gwirion ta? Diwylliant yw’r arwyddbost. Gwrandewch ar reggae,
ar Jarman yn canu be ddudodd Marley a bydd hiliaeth yn wrthyn am byth. Byddai
pleidleisio dros Brexit yn amlwg yn gam gwag.
Cefais wahoddiad i gyfweld a’r awdur Jon Gower fel rhan o
Ŵyl Arall, ar y pnawn Sul yng ngerddi’r Emporiwm (gardd gefn Palas Print). Dyma
wrando ar ‘Lazarus’ y gân honno roedd Bowie wedi ei chyfansoddi gan wybod y
bydda ni, y gwrandawyr, yn ei chlywed ar ôl ei farwolaeth. Iasol. Cês ydi Gower,
un da, wedi sgwennu cyfrol o storiau byrion ‘Rebel Rebel’, a sawl pennod yn
cynnwys / crybwyll Bowie.
Does dim pall ar ei siarad, sydd yn amlwg yn gwneud fy
joban i yn un hawdd, ond does dim chwaith gwastraff geiriau na rwdlan. Mae popeth
ganddo werth ei ddweud, werth ei glywed. Felly hefyd gyda Ani Glass (Ani
Saunders) oedd yn cael ei holi gan Lisa Gwilym BBC Radio Cymru.
Roedd gwrando ar Ani Glass yn hanfodol. Ta beth oedd y
cwestiwn gan Lisa roedd Ani yn datblygu’r sgwrs, fel mynd a ni am dro ar lôn
fach wledig ac yna ar y gyffordd y gallu i gymeryd y ddwy ffordd ar yr un pryd.
Athrylith heb son am gyfansoddwr o ganeuon pop perffaith. Caneuon fel ‘Y Ddawns’
a ‘Dal i Droi’, caneuon sydd yn gwneud I’r dydd fod yn fwy gola, yr Haul yn fwy
cynnes, y gwynt yn fwy mwyn, y caeau yn fwy gwyrdd a’r mynyddoedd mawr yn fwy
ac yn aros yn hirach.
Gwledd o ddiwylliant a hynny ar strydoedd cul y dref
gaerog, Gweriniaeth Cofiland fyddaf yn ddefnyddio yn rhy aml. Ond mae gweriniaeth
yn awgrym o oleudigaeth a goleudigrwydd. Gall yr an-llythrennog ddechrau
darllen. Yn oes Brexit mae angen ychydig o oleuni. Awgrymodd Gower fod y
weithred o sgwennu yn gam fechan yn y frwydr o wrthsefyll yn erbyn twpdra Trump.
Siwr fod pawb arall wedi mwynhau hefyd – fi sydd yn
tueddu i or-ddadansoddi pethau!
No comments:
Post a Comment