Un diddorol yw’r cysylltiad Tuduraidd ac Ynys Môn. Rydym
yn ymwybodol fod y cartref teuluol ym Mhenmynydd ond sut mae’r Cymry yn teimlo
am y llinach Gymreig i deulu Brenhinol Lloegr? Oes modd awgrymu yma fod hanes
ar ei ora, ar ei fwyaf diddorol pan fod elfen o anghyfforddusrwydd, elfen
heriol, elfen sydd yn gwneud i ni orfod penderfynu.
Nid fod pawb yn gorfod penderfynu. Go brin fod trigolion
yr Ynys yn poeni rhyw lawer am dras Harri VII a hithau yn gyfnod etholiad
cyffredinol sydd yn debygol o gael effeithiau pell-gyrrhaeddol a hir-dymor ar y
mwyafrif (sydd ddim yn filiwnyddion). Go brin fod y mwyafrif yn poeni rhyw
lawer am Harri VII wrth i ni wynebu gwallgofrwydd Brexit, ac eto dyma rhywbeth
sydd yn rhan allweddol o hanes yr Ynys.
A hithau newydd fod yn wythnos Eisteddfod yr Urdd a finnau
newydd fod yn tywys criw o Lansannan o amgylch Plas Penmynydd, fedrwn’i ddim
osgoi y gymhariaeth amlwg rhwng yr holl famau (neu rienni) ar flaen eu seddau
yn cyd-ganu a chyd-adrodd gyda Mererid neu Llinos fach ac yn mynny’r rhiban
gyntaf am eu perfformiad a’r fam frenhinol Margaret Beaufort yn sicrhau fod
Harri yn cael y goron, Coron Lloegr.
Margaret Beaufort oedd mam Harri Tudur / Harri VII a
gwraig Edmwnd Tudur o linach Penmynydd. Yn ei dro, Edmwnd oedd mab Owen Tudur,
Penmynydd a frwydrodd gyda chlod ochr yn ochr a Harri V. Ac yntau yn lanc
golygus, yn ôl y son, fe ennillodd Owen galon Catherine de Valois, gweddw Harri
V, a dyma mewn ffordd o ran llinach brenhinol sydd yn arwain at y Tuduriaid yn
hawlio Coron Lloegr. A’r ffaith fod Edmwnd yn hanner brawd i Harri VI.
Efallai nad oes cymhariaeth mewn gwirionedd gyda’r mamau
Urdd, ond mae rhywun yn dychmygu fod Magaret
Beaufort yn ddynes benderfynnol. Bu farw Edmwnd yn fuan ar ôl genedigaeth Harri
yng Nghastell Penfro a mae son fod ei frawd Jasper a Margaret wedi bod yn agos
iawn er hynny. Bu i Margaret briodi pedair gwaith er ddim gyda Jasper Tudur.
Erbyn Brwydr Bosworth 1485 mae’r cysylltias gyda Ynys Môn
wedi lleihau, doedd Margaret na Harri VII yn byw ym Mhenmynydd, (does dim
sicrwydd iddynt fod yno hyd yn oed?). Ail godwyd rhan o Blas Penmynydd gan
Richard Tudur yn 1576 gan greu tŷ daulawr yn hytrach na neuadd un llawr ganol
oesol. Mae awgrym weddol amlwg yn wal ogleddol y tŷ o ddau gwrs gwahanol o
gerrig adeiladu.
Efallai mai rhywbryd yn y cyfnod yma y gosodwyd
arfbeisiau Ednyfed Fychan a’r Tuduriaid naill ochr i’r prif- ddrws (gogleddol).
Ednyfed Fychan gafodd y tir yma am wasanaethu Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn
Fawr). Felly beth bynnag ein barn am deulu brenhinol Lloegr mae’r llinach
Tuduraidd yn mynd yn ôl i un o weision mwyaf teyrngar Llywelyn Fawr. Dyna chi
beth ydi hanes. Cymhleth.
Efallai mai y fi sydd yn gwneud ati hefo’r holl gyfyng-gyngor
‘brenhinol’. Doedd dim ond gwen ar
wynebau yr ymwelwyr o Lansannan. Does dim byd gwell na chael gweld cartrefi a
gerddi pobl nagoes. Dwi’n siwr fod ni gyd yn mwynhau hynny – cael busnesu ’chydig,
ond heb os, er fod Penmynydd yn dŷ hynafol diddorol tu hwnt, mae’r cysylltiad a’r
teulu Tudur yn gwneud unrhyw ymweliad yno yn ‘sbesial’.
Rhaid canmol y perchennog Richard Cuthbertson am fod mor
groesawgar bob tro rwyf yn trefnu ymweliadau. Gyda drysau agored di-amod bron
anodd curo ei groeso a’i frwdfrydedd tuag at hanes y plasdy.
Yr unig gwestiwn sydd gennyf, yw hyn. Pa mor bwysig yw’r
cysylltiad Tuduraidd i ni yma yn y Gymru heddiw, 2017?
Yn gwisgo fy het hanesydd mae’r hanes yma mor ddiddorol,
mor bwysig a dwi heb ddecharu son am
gorffddelw Goronwy Tudur yn Eglwys Sant Gredifael.
No comments:
Post a Comment