Saturday 24 June 2017

Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 21 Mehefin 2017




Dyma’r trydedd tymor o waith cloddio archaeolegol dan ofan Cadw yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Rwyf wedi bod yno dros y bythefnos yn bennaf gyfrifol am ymweliadau ysgolion. Braf yw gweld cannoedd o blant ysgolion cynradd Môn yn cael hwyl ac ychydig o antur wrth iddynt gael dod allan o’r dosbarth a gweld archaeolegwyr wrth eu gwaith a chael hwyl yn archwilio’r siambr gladdu.

Pwysleisiaf y gair hwyl. Wrth reswm bydd y disgyblion yn dysgu ond y peth pwysicaf yw eu bod yn cysylltu archaeoleg a Hanes Cymru gyda profiad pleserus a hwyliog. Fe fydd hynny yn creu diddordeb ynddynt.

Petae rhywun yn gofyn pa heneb cyn-hanesyddol yw’r enwocaf yng Nghymru, yr ateb, mae’n debyg, fyddai unai cromlech Pentre Ifan yn Sir Benfro neu Bryn Celli Ddu ym Môn. Tybiaf, neu yn sicr gobeithiaf, fod y rhan fwyaf o drigolion Gwynedd a Mȏn oleiaf yn gyfarwydd â’r enw Bryn Celli Ddu, hyd yn oed os nad ydynt wedi ymweld â’r feddrod Neolithig hwn ger pentref Llanddaniel-fab.

Fel yn achos siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Rhosneigr dyma engraifft o feddrod cyntedd, lle mae cyntedd hir a chul (7.5m o hyd ac 1 medr o led) yn arwain i mewn i’r siambr gladdu. Dyma feddrod amaethwyr cynnar y cyfnod Neolithig: mae ddyddiad wedi ei rhoi ar ei chyfer, sef oddeutu 3100 cyn Crist. Cromlech Dyffryn Ardudwy yw’r gynharaf yng Ngwynedd a Môn, yn dyddio i 3500 cyn Crist, ac o ran cymhariaeth mae Barclodiad y Gawres yn ddiweddarach wedyn, yn dyddio oddeutu 2500 cyn Crist.

 Mae’r traddodiad o gladdu’r meirw mewn cofadeiladau, yn draddodiad sy’n ymestyn dros fil o flynyddoedd yn ystod y cyfnod Neolithig (4000-2000 cyn Crist).           Efallai fod yr amaethwyr cynnar yma yn codi’r cofadeiladau er mwyn dynodi terfyn neu ffiniau tir ond yn sicr roeddynt yn mynd i ymdrech a thrafferth i gofio am y meirw a’u cyn-deidiau.

Cawn y cyfeiriad cyntaf at ‘Bryn Kelli Ddu’ yn y llyfr anhygoel a phwysig hwnnw Mona Antiqua Restaurata (1723), sef arolwg Henry Rowlands o henebion Mȏn, yr arolwg cyntaf o’r fath. Cawn lun o’r gromlech gan Rowlands sy’n awgrymu hyd yn oed bryd hynny fod y domen fyddai dros y gromlech wedi diflannu drwy ganlyniad i glirio amaethyddol.
           
Yr hyn sydd yn wirioneddol hynod am Bryn Celli Ddu yw fod y cyntedd wedi ei adeiladu ar linell codiad yr haul ar hirddyd haf – a fod hyn yn fwriadol felly gan yr adeiladwyr Neolithig oddeutu 3100 cyn Crist. Dim ond yn ddiweddar mae archaeolegwyr wedi derbyn fod hyn yn weithred fwriadol a phwrpasol.

Ar 12 Mehefin 2011, am 4.30 y bore, euthum i Fryn Celli Ddu yng nghwmni Ken Brassil o’r Amgueddfa Genedlaethol. A hithau dros wythnos cyn hirddydd haf, y bwriad oedd gweld a oedd effaith yr haul yn codi ac yn goleuo’r cyntedd a thu mewn i’r siambr yr un fath i bob pwrpas â’r hyn welir ar y 21 Mehefin..
            Roedd Steve Burrow o’r Amguedfa Genedlaethol eisoes wedi ffilmio’r digwyddiad yn 2005 ac wedi cyhoeddi papur yn awgrymu fod sail i ddamcanaiethau’r astrolegydd Sir Norman Lockyer fod cysylltiadau astronomegol â beddrodau. Dipyn o gymeriad oedd Lockyer (1836−1920) − bu’n ceisio profi ei ddamcaniaeth er 1901, ac yn 1907 bu iddo ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe er mwyn sefydlu cymdeithas o’r enw The Society for the Astronomical Study of Ancient Stone Monuments in Wales ond ychydig o gefnogaeth gafodd ei ddamcanaiethau gan archaeolegwyr y dydd.

Diddorol yw nodi na enwir Lockyer o gwbl yn adroddiad W.J. Hemp ar ei waith cloddio ym Mryn Celli Ddu, ac un rheswm sy’n cael ei awgrymu gan Burrow am hyn yw diffyg manylder neu amwyster Lockyer wrth iddo drafod beddrodau eraill lle nad oes cyfeiriad astronomegol neu linell amlwg iddynt.

 Cymaint oedd gwrthwynebiad y sefydliad archaeolegol i Lockyer, fe fynegodd Sir Henry Howarth, is-lywydd y Cambrians ei amheuon amdano yn 1914. Yn ȏl un adroddiad ar y pryd yn trafod sylwadau Howarth dyma sut pwysleiswyd ei amheuon, ‘he did not know anybody living except one great man who accepted Lockyer’s theories and that great man was Sir Norman Lockyer!’

 Ar ôl ymweld â’r beddrod ar doriad gwawr gyda Ken, rhaid i minnau hefyd gydnabod fod Lockyer yn llygad ei le. Roedd yn brofiad bythgofiadwy y bwyddwn yn argymell i bawb ei brofi. Mae fy nyled yn fawr i Ken Brassil am fy llusgo i Fryn Celli Ddu mor blygeiniol. Wrth i’r haul godi yn y dwyrain mae’r pelydrau’n ymestyn ar hyd y cyntedd ac yn taro un o’r meini sy’n ffurfio cefn y siambr gladdu. Does dim nodwedd amlwg i’r maen yma er bod Burrow yn cydnabod bod rhyw gymaint o garreg cwarts wen ynddo.

Bydd Cadw ac aelodau Urdd Derwyddon Môn yn cynnal defod ym Mryn Celli dros nos heno y 21ain / yn gynnar bore fory. Disgwylir i’r Haul godi oddeutu 4-30 y bore. Rwyf wedi mynychu’r digwyddiad ddwywaith dros y blynyddoedd diweddar ac yn sicr mae’n brofiad. Yn amlwg fel archaeolegydd rwyf yn derbyn nad y Derwyddon Celtaidd adeiladodd y siambr gladdu – roedd y siambr wedi ei chodi oleiaf 2500 o flynyddoedd cyn y Derwyddon ond does dim drwg yn y ddefod flynyddol bresennol. Mae’n hwyl ac yn rhoi parch i’r cofadail. Mae’n creu diddordeb a thrafodaeth. Mae’n dod a siambr gladdu Neolithig yn fyw yn 2017.



Dros y penwythnos mynychodd cannoedd ar gannoedd y Diwrnod Agored ym Mryn Celli sydd yn beth gwych.


No comments:

Post a Comment