Dros y penwythnos roeddwn yn rhoi sgwrs ar ‘Hanes Canu
Pop Cymraeg’ yn y MOSTYN, Llandudno. Dyma un o fy hoff orielau celf. Rwyf yn
hoff o’r pensaerniaeth concrit garw (Brutalist) mewnol, rwyf yn hoff o’r caffi
a rwyf yn hoff o’r celf a’r arddangosfeydd heriol. Rwyf yn hoff o’r ffaith fod
y MOSTYN yn Llandudno, creadigaeth Fictoraidd, Seisnig ei naws, (heblaw am
siopwyr Cymraeg).
Flynyddoedd maith yn ôl, yn yr 1980au, ymwelais ar oriel am
y tro cyntaf ar bnawn Dydd Sadwrn llwm gaeafol i weld arddangosfa o luniau o’r
cylchgrawn diwylliannol THE FACE. Pryd hynny roedd rhywbeth, (unrhywbeth)
‘diwylliannol’ yn ymwneud a diwylliant pop yn rhywbeth pwysig iawn yma yng
ngogledd Cymru. Roedd yn cynnig gobaith yn ogystal ac ysbrydoliaeth. Welais i
neb arall yno ar y pnawn Sadwrn hynny, yn sicr neb oedd yn siarad Cymraeg.
O beth fedra’i gofio roedd Siouxie yn un o’r delweddau yn
yr arddangosfa a Pamela Stephenson noeth (Not the Nine o’Clock News) a siawns
fod Weller yna yn rhywle. Y noson cyn i mi ymweld, sef yn y ‘parti lansio’
roedd y grwp Offspring o Fethesda wedi perfformio yno yn y MOSTYN gyda Hefin
Huws (Maffia Mr Huws) yn canu’r prif lais.
Arhosodd yr atgof yma o’r ymweliad cyntaf hefo mi ers
hynny.Enillodd y MOSTYN gornel fechan o fy nghalon fel rhyw hen gariad o
ddyddiau ysgol. Felly fe ddyliwn fod yn defnyddio ansoddeiriau neu eiriau fel ‘braint’,
‘anrhydedd’, mewn cyswllt a’r gwahoddiad i roi sgwrs yn y MOSTYN fel rhan o
weithgareddau arddangosfa yn seiledig ar siop gerdd Wagstaff. Rhan o gyfres ‘Hanes’
yn y MOSTYN.
Yn sicr roeddwn yn gwerthfawrogi’r gwahoddiad. Fel rhan o
fy sgwrs fe chwaraeais recordiau Cymraeg. Chwaraeais ‘Maes B’ gan Y Blew fel y
record roc Cymraeg cyntaf – a hynny o 1967. Pan fyddaf yn chwarae’r Blew ar fy
sioe Nos Lun ar Radio Cymru rwyf yn tueddu i ddweud yr un peth am y Blew – “dal
i swnio’n dda”, ond dyna’r ffiath – mae’r record yma o 1967 yn swnio’n
rhyfeddol o ffres a hanfodol 50 mlynedd yn ddiweddarach.
Chwaraeais ‘N.C.B.’ gan Y Llygod Ffyrnig fel y record
‘punk’ cyntaf i’w rhyddhau yn y Gymraeg, ac o bosib y record mwyaf amrwd erioed
yn yr Iiaith Gymraeg. Pwysleisiaf y positif yma wrth ddefnyddio’r disgrifiad
‘amrwd’. Esboniais sut roedd N.C.B yn adlewyrchiad cerddorol o dirwedd ôl-ddiwydiannol
Llanelli yn 1978. Gyda’r diwydiant tin (Tinopolis) wedi dod i ben ymateb y
canwr Dafydd Rhys wrth geisio dyfalu beth fyddai’r dyfodol yn gynnig iddo oedd “sai’n
gwbod medda fi”.
Chwaraeais ‘Angela’ gan y Trwynau Coch, oddiar y record
feinyl 12” coch. Dyma gyfle i drafod rhyw, yr elfen holl bwysig honno mewn
diwylliant pop cyfoes. Pwy oedd ddim yn ffansio Angela Rippon? A dangosais y
llun enwog hynno o Angela yn dangos ei choesau ar rhaglen Morcambe and Wise.
Fel rhywbeth o oes o’r blaen.
Nid mor hawdd (heddiw/2017) trafod sengl gyntaf y Trwynau
Coch ‘Merched dan 15’. Yn y dirwedd ôl-Saville tydi’r geiriau ddim cweit mor
ddiniwed, ac eto fel disgyblion ysgol yn 1977 dwi ddim yn credu i’r record
ymddangos fel fawr mwy na chydig o hwyl heriol / rhywiol. Gwahanol iawn yw’r
awyrgylch heddiw a peth anodd yw trafod record fel ‘Merched dan 15’. Dyna pam
dwi’n ei gynnwys mewn sgyrsiau fel hyn – rhaid ni wynebu a thrafod – nid osgoi
ac anwybyddu.
Chwaraeais ‘Lebanon’ gan Y Cyrff, un o recordiau cyntaf Y
Cyrff o Lanrwst. Eto record amrwd ond llawn angerdd ac wrth ddatblygu’r sgwrs
wrthgwrs mae rhywun yn cyrraedd rhyw fath o ddiweddglo gyda Mark a Paul o’r
Cyrff yn cael llwyddiant rhyngwladol gyda’r grwp Catatonia. Y diweddglo
diweddara yw fod Mark Cyrff yn recordio hefo Dave Datblygu a John Llwybr
Llaethog dan yr enw Messrs a mae’r record newydd cystal ac unrhywbeth ac eto yn
record hanfodol.
Dewisiais ‘Casserole Efeilliaid’ gan Datblygu fel hoff gân
John Peel, efallai, ond dwi’n amau fod yr hen Peel yn hoff o’r gân yma achos
mai hon oedd yr unig un oedd modd ei ynganu ar Radio One yn ddi-drafferth.
Rhoddodd hyn gyfle i mi adrodd y stori am John Peel yn fy ffonio yn hwyr y nos
yn aml i ofyn sut roedd ynganu Llwybr Llaethog neu rhyw grwp arall Cymraeg cyn
darlledu ar yr awyr.
Rhaid oedd hefyd, fel rhan o’r wers hanes, cynnwys y gân ‘’Dyddiau
Braf (Rap Cymraeg)’ gan Llwybr Llaethog, o bosib, os nad yn weddol sicr, y
record rap /hip-hop cyntaf yn yr Iaith Gymraeg. Edmygaf John a Kevs Llwybr Llaethog
am ddal ati dros yr holl flynyddoedd, heb eu hurddo, heb fawr o dâl, heb hanner
digon o sylw a dim ond parch gan y gwybodusion a dim hanner digon o
gydnabyddiaeth gan y diwylliant canol y ffordd Cymraeg.
Cefais gynulleidfa Cymraeg a di-Gymraeg felly roedd y
sgwrs yn un dwy-ieithog ond hamddenol felly. Yr unig record Saesneg i mi
chwarae oedd Offspring ‘One More Night’ er mwyn gwneud y cysylltiad a’r
arddangosfa The Face.
Braf oedd cyfarfod criw Blog Sôn am y Sîn sydd yn gwneud
gwaith da hefo’r blog yn trafod y byd pop Cymraeg a braf oedd cyfarfod ambell
un arall sydd yn ddilynwyr o’r sioe radio. Braf hefyd oedd gweld cymaint o bobl
di-Gymraeg yn mynychu ac efallai yn darganfod cerddoriaeth yn y Gymraeg am y
tro cyntaf. Dwi ddim yn siwr faint yn yr ystafell oedd yn gyfarwydd a’r Blew?
Pa well fordd o dreulio pnawn Sadwrn na chwarae recordiau
Cymraeg mewn oriel gelf? Diolch am y gwahoddiad MOSTYN.
No comments:
Post a Comment