I’r de o Gaer, i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam, ydi pentref Holt hyd yn oed yng Nghymru? Ydi mae o, mae’n rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, ond faint o honnom sydd yn wirioneddol gyfarwydd a hanes Holt? Wrth i rhywun agaosau at y ffin rhwng Cymru a Lloegr mae yna dirwedd anweledig, bron fel tir neb, neb yn siwr lle mae’r ffin, perthyn i nunlle. Cofiwch mae’r trigolion lleol yn gwybod.
Wrth son am ardal y ffin, atgoffir rhywun o’r grwp
electronig Cymraeg, Brodyr (y Ffin) – ar un adeg yn byw yn Saltney, dyna chi le
sydd ar y ffin go iawn ac yn ochri a Afon Dyfrdwy unionsyth. Anodd credu fod unrhyw faner yn gallu chwifio
mewn lle mor ffiniol. Mor dir neb. Lle unig rhywsut.
Ond yn perthyn i Holt mae’r bont hyfryd ganol oesol
gyda’i wyth bwa dros Afon Dyfrdwy. Y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Farndon ar yr
ochr Seisnig a dau fwa sych ar yr ochr Gymreig. Gallwch gerdded drwy y bwa sych
yn Holt ac yn y caeau o’ch blaen wedyn roedd y safle gwenud teils yn y cyfnod
Rhufeinig. Lle pwysig.
Tywodfaen goch nodweddiadol o’r ardal yw adeiladwaith y
bont ond gan fod tywodfaen yn gwisgo mor hawdd, mae’n amlwg o wahanol gyflwr y
cerrig fod yma ganrifoedd o gynnal a chadw. Efallai fod y bont wreiddiol mor
gynnar a’r 15fed ganrif neu hyd yn oedd ddiwedd y14eg ganrif.
Castrum
Leonis neu Chastellion
yw’r enw a roddir ar Gastell Holt a adeiladwyd dan orchymyn Edward I rhwybryd
yn fuan ar ôl diwedd y rhyfel gyda Llywelyn ap Gruffudd. Os felly rydym yn son
am John de Warenne yn adeiladu o 1283 ymlaen tan tua 1311 wedi iddo ddrbyn y
tir gan Edward I. Roedd de Warenne hefyd bellach yn gyfrifol am Gastell Dinas
Bran, Llangollen, ond iddo ddewis adeiladu yn Holt yn agosach i’r mor ar lan
orllewinol Afon Dyfrdwy.
Erbyn heddiw dim ond muriau mewnol y castell sydd wedi
goroesi a hynny ar ffurf pump ochr (pentagon). Wedi hen ddiflannu drwy broses o
ail-gylchu dros y canrifoedd, ar gyfer adeiladu tai Holt fe dybiaf, mae’r mur
allannol a’i bump tŵr.
Drwy waith cloddio a chynal a chadw archaeolegol Stephen
Grenter o Gyngor Wrecsam mae Castell Holt yn llawer mwy deniadol i ymwelwyr
erbyn heddiw. Cyn y gwaith adfer roedd yr adfeilion yn dynfa i ieuenctyd yr
ardal oedd yn chwilio am fangre gysgodol i gael yfed dan oed ac i wneud y
pethau mae pobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi eu gwneud heb i oedolion a
rhieni gael gweld.
Bellach mae llwybr a grisiau yn tywys rhywun at du mewn y
castell. Mae concrit coch ru’n lliw a’r dywodfaen yn rhwystro y muriau rhag
disgyn, mae byrddau dehongli yn cyfleu yr hanes. Ern ad yw hwn yn un o gestyll
amlwg Edward I, mae’n rhannu rhan o’r un hanes – sef y concwest o Gymru ar ôl
cwymp Llywelyn 1282.
Nid yw’n gastell mor drawiadol a’r rhan fwyaf. Does dim tŵr
amlwg. Er hyn byddwn yn dadlau yn gryf fod yn werth ymweld a Holt. Mae’r
cyfuniad o’r castell, y bont, y groes hynafol yng nghanol y pentref, y pyllau
pysgod i’r gorllewin ôll yn gwneud pnawn bach diddorol ac hamddenol yn y gornel
fach yma o Gymru.
Bu’m yma yn ddiweddar yng nghwmni Cyngor Archaeoleg
Prydain / Cymru a dwi bron yn sicr mai y fi oedd yr unig siradwr Cymraeg
ymhlith y sawl dwsin ddaeth draw i Holt. Rwyf yn poeni am hyn, pam fod y Cymry
mor gyndyn o ymwneud a Hanes Cymru os yw’r hanes yna yn digwydd y tu allan i’r ffyrdd
neu leoliadau arferol.
No comments:
Post a Comment