“Da fod pethau fel hyn yn digwydd yng ngogledd Cymru”. Rhywbeth felly oedd geiriau’r artist Bedwyr Williams wrth iddo agor noson Nova, gwobr gelf newydd ar gyfer artistiaid o dan 35 oed yn yr RCA (Royal Cambrian Academy) yng Nghonwy. Yn ogystal a chyflwyno’r noson roedd Bedwyr yn gwneud ‘perfformiad celfyddydol byw’ a oedd yn ymwneud a llwy oedd yn sefyll yng nhganol llawr yr oriel wrth iddo ddarllen’darn’.
Hawliodd Bedwyr sylw pawb oedd yn bresennol, yn wir cyn
cychwyn ei ‘berfformiad’ cyhoeddodd fod
angen i’r band Piwb fod yn ddistaw tu cefn i’r llwyfan. Roedd y grwp ifanc Piwb
newydd berfformio set rock’n roll amgen, amrwd, llawn egni a oedd yn atgoffa
rhywun o berfformiadau cynnar y Velvet Underground (a’r Cymro o Garnant, John
Cale) yn un o ddigwyddiadau Andy Warhol.
Hefo Llyr PIWB
Fel mynegodd Bedwyr, da o beth yw gweld pethau fel hyn
yng ngogledd Cymru. Diwylliant. Diwylliant o fath gwahanol efallai, ond un
angenrheidiol os yw gogledd Cymru i brofi y math o aeddfedrwydd diwylliannol sydd
mor gyffredin, yn arferol hyd yn oed, mewn dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe neu
Lerpwl a Manceinion.
Bedwyr Wiliams (perfformiad)
Wrth drafod celf, fe ddyliwn grybwyll y rhaglen rhagorol
a ddarlledwyd yn ddiweddar ar Sky Arts yn dilyn teithiau JMW Turner i beintio
Castell Norham yn Northumberland. Rhan o gyfres ‘Tate Britain, Great British Walks’ gyda’r curadur a’r hanesydd
diwylliannol Gus Casely-Hayford oedd y rhaglen hon a’i gyd-deithiwr yn Norham
oedd Cerys Matthews.
Peintiodd Turner Castell Norham wrth i’r haul godi (mae’n
debygol yn y flwyddyn 1845) a dyma’r llun hyfryd hynny lle prin gallwch weld y
castell drwy’r tawch a’r golau llachar wrth i’r haul wawrio tu cefn i adfeilion
y castell. Prin fod angen datgan fod Cerys yn gyd-deithiwr brwdfrydig, deallus
a hynod ddiddorol. Fel dinesydd o Wynedd, ac er i mi fwynhau pob eiliad o’r
rhaglen, anodd iawn oedd peidio gweiddi “A beth am Gastell Dolbadarn?” at y
sgrin fach.
Gan fod y arlunudd a’r cerflunydd Andrew Logan yn
arddangos yng Ngŵyl Biwmares eleni penderfynais roi gwahoddiad iddo ymuno a ni
ar gyfer fy rhaglen radio Nos Lun ar BBC Radio Cymru. Dewisiodd Andrew ‘Je Ne
Regrettte Rien’ gan Edith Piaf, ‘La
Mer’, Charles Trenet, Strauss a Maria Callas. A dwweud y gwir mae Maria
Callas yn ychydig o obsesiwn gennyf ar y funud. Hi oedd hoff gantores fy mam a
chofiaf yn glir y recordiau Maria Callasoedd yn y tŷ wrth i ni dyfu fyny.
Maria Callas (Andrew Logan)
Cerfiodd a chreodd Logan gerflun anferth gwydr o Maria
Callas, mae’r darn yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Biwmares dros gyfnod Gŵyl
Biwmares ar wal y theatr / ystaflell berfformio. Gan fod cymaint o wydr clir ar
wyneb Maria mae rhywun yn gweld adlewyrchiad o’r theatr wrth edrych ar y
cerflun.
Drws nesa yn yr ystafell cegin i’r dde o’r cyntedd mae
blodau gwydr mewn potiau a cherflun hyfryd o’r actores Gymreig Siân Phillips. Y
cerflun o’i hwyneb yr un mor drawiadol a’i
wyneb trawiadol naturiol. ‘Esgyrn da’ mae nhw’n ddweud. Tydi oed ddim yn amharu
ar Siân boed yn naturiol neu mewn cerflun, mae hi’n bytholwyrdd-drawiadol.
Atgoffir rhywun o Caligula, y Rhufeiniaid a dadfeilio’n hardd, hardd-lances. Er
mor wych yw gwaith Logan mae elfen o ddafeilio’n hardd yn perthyn I bob darn.
Nid perffeithrwydd sydd yma ond rhyw arallfyd o harddwch sydd ar fin datgymlau.
Wrth grwydro Biwmares rhaid oedd taro i mewn i Amgueddfa
Deithiol Andrew Logan oedd wedi ei osod ar y ‘Green’, y darn hynny o dir sydd
wedi ei godi lle roedd unwaith y môr. Carafan yw’r Amgueddfa Deithiol. Bu’r
garafan yn Steddfod Meifod. Bach ond wedi ffurfio yn berffaith. Sobr o goch o
ran lliw tu mewn a sobor o wyn a streipiau du o’r tu allan.
Wrth sefyllian tu allan I’r Amgueddfa Deithiol cefais wahoddiad
i ymuno a’r awdur Jon Savage a Logan ei hyn dros baned o de camomil. Wrth
eistedd mewn ystafell a edrychai dros y ‘Green’ dyma Savage yn danos copi o
record hir cyntaf yr Anhrefn roedd newydd ei phrynnu am £3 mewn siop elusen.
Dyna chi – rydym ôll yn dadfeilio yn raddol. Genu wnaeth Logan – digon o waith
ei fod yn gyfarwydd a’r Anhrefn.
Esbonias fod y ddafad ar gefn skateboard ar glawr blaen y
record yn rhyw fath o ‘ddatganiad’ gan y grwp yn ôl yn 1987 er mwyn tanseilio’r
cyhuddiadau oedd yn dod o dy’r Saeson o hyd, ein bod fel cenedl yn hoffi cyfathrachu gyda
defaid. Gwell yw chwerthin am eu pennau na gwylltio – dyna’r ffordd orau o
danseilio agweddau nawddoglyd – chwerthin. Rydym yn yfei ein paned yn Victoria
Terrace, adeilad a gynllunwyd gan Joseph Hamson, y boi nath ddyfeisio’r ‘Hansom
Cab’.
Amgueddfa Deithiol Andrew Logan
Felly yn ogystal a diwylliant yn y Cambrian yng Nghonwy
mae yna ddiwylliant ym Miwmares dros gyfnod yr ŵyl. Da o beth heb os. Dwi’n trio gwneud synnwyr o’r pethau yma yn y
cyd-destun gogledd Cymru.
Rhaid teithio. Rhaid chwilio am wybodaeth. Rhaid bod yn
barod i fentro. Rhaid disgwyl yr anisgwyl. Rhaid cadw meddwl agored. Rhaid
cefnogi. Rhiad sgwennu adolygiadau fel hyn. Rhaid peidio gadael i’r pethau yma
ddigwydd mewn bybl – mae hynny rhy hawdd i bawb.
Dwi’n mwynhau y crwydro a’r teithio – dwi’n mwynhau y
celf a’r celfyddyd. Dwi’n mwynhau y cymeriadau ac yn mwynhau yr herio.
Dwi
hefyd yn credu fod angen i’r Gymraeg fod yn fwy allweddol. Rhaid i hyn ddod o’r
ddau gyfeiriad. Rhaid I ni hefyd, fel Cymry Cymraeg, fod eisiau gweld y dirwedd
ddiwylliannol yn ehangach peth na’r Steddfod nesa.