Wednesday 10 August 2016

Wastad ar y tu fas, Herald Gymraeg 10 Awst 2016





Rydym yn weddol gyfarwydd a’r syniad o ‘ddiwylliant Cymraeg’, ‘y Pethe’ i bob pwrpas, er byddai cytuno ar union hyd a lled hynny yn ddipyn o gamp. Siawns fod y gwahaniaeth rhwng ‘Cymraeg’ a ‘Chymreig’ yn ddigon amlwg, felly fe ddylia ni allu diffinio ‘diwylliant Cymraeg’ yn weddol hawdd.

Nid mor hawdd diffinio diwylliant Cymreig, y tri Thomas efallai, R.S, Gwyn a Dylan, neu’r Manic Street Preachers a Kyffin? Haws diffinio Seisnig (Llundain rhy aml) neu Americanaidd – ond mae grym, cyrhaeddiad  a dylanwad rhain yn anferth ac yn cynnwys popeth o Star Wars i’r Sex Pistols, o John Wayne i’r chwiorydd Bronte.

Yn ei holl amrywiaeth, bydd rhywun yn derbyn nad yw pob agwedd o ddiwylliant Cymraeg at ddant pawb. Dim ond y rhai a stumog gadarn fydd wir yn eistedd drwy’r Ŵyl Gerdd Dant, bydd dosbarth gweithiol trefol y de ddwyrain yn llai tebygol o ddarllen gwaith  T H Parry Williams a bydd canu pop Cymraeg yn ddiethr iawn os yw rhywun yn mynychu Ysgol Caergybi neu Aberhonddu (heddiw fel ddoe).

Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yr wythnos hon, yw edrych ar Gymry Cymraeg sydd efallai wedi ymwrthod a diwylliant Cymraeg, neu fod diwylliant Cymraeg erioed wedi eu cyffwrdd neu apelio go iawn iddynt. Rwyf am drafod Cymry Cymraeg sydd wedi ymddiddori mewn is-ddiwylliant, diwylliant pobl ifanc, diwylliant poblogaidd amgen – sef yr is-ddiwylliant hynny sydd wedi ei lywio a’i liwio gan ddatblygiadau yn America a/neu Loegr a wedyn wedi ei fabwysiadu gan Gymry Cymraeg.

Wrth reswm, petae ni yn edrych ddigon caled, fe gawn hyd i rhywun yn rhywle sydd yn hoffi Cerdd Dant a’r Small Faces a wedi bod yn Mod / Modette, ond prin iawn fydd yr engreifftiau yma dybiwn i. Bydd y mwyafrif (sydd yn cefnu ar yr amlwg ddiwylliant Cymraeg) yn byw eu bywyd yn ddigon naturiol yn y Gymraeg ond byth yn mynd i’r Steddfod, ddim yn darllen nofelau Cymraeg, yn ofni nad yw eu Cymraeg “ddigon da” a petae rhywun yn eu holi am gerddoriaeth pop Cymraeg does dim gobaith mul y byddant yn gallu enwi’r Crumblowers neu’r Blew. Bydd gobaith da ar y llaw arall y byddant yn gallu enwi Dafydd Iwan a Bryn Fôn.
Nid fy mwriad yw deall pam na beirniadu, fy unig ddiddordeb yma yw adnabod y Cymry Cymraeg hynny sydd wedi bod yn Teddy Boys, Mods, Rocyrs (reidio motorbeics) neu yn mynychu nosweithiau Northern Soul yn Wigan Casino. Pedwar is-ddiwylliant poblogaidd, dylanwadol, pwysig ond is-ddiwylliannau lle nad oes affliw o ddim byd Cymreig amdanynt a fawr ddim byd Cymraeg chwaith.

Yr unig beth Cymraeg cysylltiedig yw’r cymeriadau. Mae’r ffasiwn, y gwalltiau, y gerddoriaeth, y cyfryngau, y labeli recordio – i gyd yn hollol Seisnig neu Americanaidd - neu y cyfuniad rhyfedd hynny o’r ddau sydd yn esblygu dros amser wrth i’r dilynwyr ddewis a dethol y pethau gorau i’w mabwysiadu a’u harfer.




Felly mae’n taith yn dechrau drwy chwilio am y ‘Teddy Boys Cymraeg’, sef Teds sydd yn siarad Cymraeg. Mae nhw’n union fel bob Ted arall ond fod ganddynt ddefnydd o iaith y nefoedd. Fe ddadleuoedd ambell wag di-Gymraeg o’r de fod ‘Teds Cymraeg’ yn rhywbeth ‘amhosib’ -  ond eu diffyg dwyieithrwydd nhw yn unig all esbonio rhesymeg fel hyn, (neu eu hanwybodaeth / styfnigrwydd / rhagrarnau). Ond, oes wir, mae digon ar ôl, yn fyw ac yn iach ac os oes gwallt ar ôl ganddynt fe fydd hwnnw wedi ei siapio i’r DA a mi fydd y sideburns heb eu heillio.

Fe ysbrydolwyd yr ifanc gyda’r ffilmiau Blackboard Jungle a Rock Around the Clock a cherddoriaeth Bill Haley, Elvis, Carl Perkins, Little Richard, Eddy Cochran, Gene Vincent a Billy Fury fod rhywbeth ar gyfer eu cenhedlaeth nhw ar ôl i genhedlaeth eu rhieni ennill yr Ail Ryfel Byd. Gyda pres yn eu poced (am y tro cyntaf ers blynyddoedd) roedd modd cael recordiau, steil gwallt a brothel creepers a lordio hi o amgylch strydoedd trefi Cymru (yn ogystal a’r trefi mawrion).

Erbyn y 1960au roedd cenhedlaeth arall yn dyheu i fod yn fwy ‘modern’ na’r ‘Edwardiaid’ a dyma ddechrau ar y broses fod y genhedlaeth nesa yn disodli diwylliant y dwetha. Dyma agor y ‘generation gap’ a mae hyn wedi parhau yn weddol gyson hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif. Erbyn heddiw mae is-ddiwylliant yr ifanc yn gallu bod yn llai amlwg – mae’r holl beth fwy digidol a mae’r dirwedd wedi newid – nid er gwell neu er gwaeth – jest fod y dirwedd yn wahanol iawn bellach.

Os oedd y Mods yn fwy siarp ac ar eu sgwteri Vespa a Lambretta mae’r is-ddiwylliant Teds yn ei dro yn rhoi cyfle i rhai (nid pawb) drawsffurfio i fod yn Rocyrs ac i reidio mororbeics.Yn ôl y Daily Express ayyb dyma’r gelynion pennaf, y Mods a’r Rocyrs, ond go iawn, ar lawr cefn gwlad Cymru roedd pawb wedi mynd i’r un ysgol, yn byw yn yr un pentref – efallai fod ganddynt eu caffis a’u jiwcbocs o ddewis ond doedd dim cwffio ar strydoedd Caernarfon.
Tir niwlog sydd rhwng y Teds a’r Rocyrs, felly hefyd hefo’r Mods nath drawsffurfio i ddilyn Northern Soul. Fe arosodd rhai yr un fath hyd heddiw. Fe symudodd ac esblygodd  eraill hefo’r amseroedd.


Bydd cyfres newydd o’r enw ‘Wastad ar y tu fas’ yn dechrau am 6pm, 12 Awst  ar BBC Radio Cymru lle byddaf yn sgwrsio hefo Cymry Cymraeg fu’n rhan o’r is-ddiwylliannau yma, y Teds, y Mods, y Rocyrs a dilwynwyr Northern Soul.

No comments:

Post a Comment