Dafydd Wigley yn agor sioe Cefyn Burgess
‘Crefftwr’, dyna sut cyfeiriodd Cefyn Burgess at ei hyn, neu yn sicr wrth drafod cyd-destyn yr hyn mae yn ei wneud, wrth agor ei sioe gelf ddiweddaraf ‘Perthyn’ yn Galeri, Caernarfon dros y penwythnos. A dweud y gwir, nid ‘crefftwr’ dddefnyddiodd Cefyn go iawn, ond y gair ‘artisan’, gan fod gofyn iddo gyflwyno ei sgwrs yn ddwyieithog. Er fod ‘crefftwr’ yn fanwl gywir am rhywun sydd yn creu crefft, mae rhywun hefyd yn deall yn iawn fod Cefyn yn ‘artist’ yn ogystal ac ‘arlunydd’.
Rhyfedd ynde sut mae’r gair Cymraeg yn yr achos yma yn
ein gadael i lawr. Un peth ydi bod yn fanwl gywir ond rhywbeth arall yn hollol
yw gallu cyfleu’r teimlad neu’r ysbryd. Wrth wrando ar Burgess yn trafod ei
waith diweddaraf, sydd yn seilieidig ar Gapeli’r Wladfa ym Mhatagonia, roedd yn
hollol amlwg wrth iddo drafod yr artisan,
fod Burgess yn perthyn i’r
traddodiad amlwg hynny o Gelf a Chrefft yn nhraddodiad William Morris, Edwin
Lutyens, Walter Crane ac eraill.
Fe all y crudd a’r saer coed fod yn grefftwyr, ond mae’r
arlunydd / artist / artisan yn cynnig
rhywbeth ychwanegol i’r manyldeb a chywirdeb – a dyna’r celf. Rhyfedd wrth
drafod geiriau a disgrifiadau, rwyf wedi dechrau cyfeirio at Gaernarfon fel Gweriniaeth Cofiland. Daw’r syniad o Cofiland yn uniongyrchol o
un o ganeuon The Clash ‘Garageland’, a’r llinell anfarwol honno, “We come from Garaegland”. Ac wrthgwrs y
Cofis yw trigolion Caernarfon.
A pham ‘Gweriniaeth’ felly? Wel, achos fy mod wrth fy
modd a’r syniad o ddatganoli, o annibyniaeth, o ryddid ,,,, yn sicr o ran
creadigrwydd a’r celfyddydau. Eto daw’r dylanwad / ysbrydoliaeth yn
uniongyrchol o eiriau (yr anfarwol) Tony Wilson, sydd yn gorwedd mewn hedd
bellach. Anthony H. Wilson sefydlodd y Label Recordiau ‘Factory’ ac a gododd dau
fys mor huawdl ar Lundain. Huwadl o ran defnydd o ddau air amlwg, cruno ac i’r
pwynt.
Ond Wilson hefyd efelychodd Manceinion ym mhon sgwrs a
gyda phob gweithred, bu agwedd Wilson yn ffactor bwysig yn y broses o wyrdroi y
ddinas ôl-ddiwylliannol llwm a gwlyb i’r un hyderus, fodern, Ewropeaidd y
gwelwn heddiw.Beth bynnag oedd cyfraniad Detroit i gerddoriaeth ‘tecno’, dadl
Wilson oedd fod clwb nos yr Hacienda yn allweddol. Doedd neb am ddadlau yn ei
erbyn.
‘Gweriniaeth’ neu ddim, mae angen parhau i godi ysbryd a
thrawsffurfio Caernarfon. Mae Galeri ac arddangosfa Perthyn yn adlewyrchiad o’r
hyder a’r aeddfedrwydd newydd, (fel mae Pontio ym Mangor) ac yn sicr gŵyl fel
Gŵyl Arall sydd yn dod ac amrywiaeth eang o ddiwylliant creadigol i strydoedd Cofiland. Mae pethau yn gallu digwydd tu
allan i Gaerdydd.
Fel gyda Manceinion, gallwn adnabod hiwmor a rhinweddau’r
bobl leol, y Cofis. Wrth redeg o
amgylch cyrion Caernarfon diwrnod neu ddau yn ôl, ar ddiwrnod cynnes os nad
poeth, dyma’r floedd yn dod gan Gofi ifanc – “Dos am beint” – dim ond yng
Nghaernarfon!
Does dim o’r drafodaeth hyd yma yn gwneud cyfiawnder a
gwaith arbennig Cefyn Burgess. O edrych ar y ‘lluniau’ o’r capeli byddai rhywun
yn taeru fod Burgess wedi eu peintio, ond o edrych yn agos mae rhain ôll wedi
eu gwnio. Anhygoel. Yn ystod ei sgwrs, soniodd Burgess fel roedd angen cyfleu
ehangder di-ddiwedd y dirwedd o amgylch y capeli bach unig yma. Disgrifiodd sut
bu rhaid iddo greu awyr arall-fydol o las gyda cymylau gor-hir, gan mai dyma
sut y gwelodd o bethau yn Y Wladfa.
Rhaid canmol Burgess am ei gyflwyniad yn Galeri, achos fe
llwyddodd i ddod ar pethau yn fwy byw. Mae’r celf yn siarad ta beth ond roedd
esboniadau Cefyn yn rhoi mymryn mwy o liw i bethau hynod liwgar yn barod os
di’r fath beth yn bosib. Ewch i weld arddangosfa ‘Perthyn’ yn Galeri tan 23ain
Medi.
No comments:
Post a Comment