Dwi ’di bod yn trio cofio beth yn union yr oeddwn yn ei
wneud yn 2005. A hynny bellach dros ddeng mlynedd yn ôl, nid mor hawdd yw cofio
heb fynd i bori drwy hen ddyddiaduron. Y gwir yw, fy mod yng nghanol fy
nghyfnod yn rheoli artistiaid a grwpiau pop ac yn cwblhau fy hunangofiant (a oedd
yn bennaf yn ymdrin a fy nghyfnod yn y Byd Pop).
Felly dyma chi gwestiwn da, sut yn y byd bu i mi golli
cyhoeddi y gyfrol hynod ‘Fflamau Jamaica’
(2005), Gwasg Carreg Gwalch, gan Elwyn Evans o Bwllheli? Dyma lyfr a fyddai
wedi bod o ddiddordeb mawr i mi fel Cymro sydd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac
yn sicr fel Cymro sydd wedi tyfu fyny ar punk a reggae gyda unrhywbeth o’r
Slits i Steel Pulse, heb son am ‘Guns of Brixtion’ a ‘Buffalo Soldiers’, wedi
bod yn gyfeiliant i fy ieuenctyd (ddim mor) ffôl.
Dyma chi rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi, sut mae’r
holl beth diwylliannol yma yn gweithio yng Nghymru? Efallai fod y peth mor syml
a hyn, rhywsut yn fy mhrysurdeb collais unrhyw sylw y cafodd y gyfrol. Od iawn
cofiwch, na fyddai rhywun, un o fy nghyfoedion gyda pen reggae, wedi cyfeirio
at y gyfrol? Ond mae’r pethau yma yn digwydd. Mae pethau da yn cael eu cyhoeddi
a neb yn cymeryd sylw. A’i felly oedd hi gyda ‘Fflamau Jamaica’?
Beth am roi ‘Fflamau
Jamaica’ i mewn i Google a gweld beth ddigwyddith? Dim syndod gweld fod copiau ar werth ar
Amazon. Dyna’r peth cyntaf ymddangosodd ar restr Google. Cawn gyfeiriad arall,
ac adolygiad, ar safle gwales.com a chawn wybod mai llyfr gan Elwyn Evans yw’r
gyfrol ar Wikipedia. Ond fel arall, prin iwan yw’r wybodaeth am y llyfr.
Yr unig ddarn o ‘newyddion’ y cefais hyd iddo oedd ar
safle we Newyddion y BBC yn adrodd fod parti lansio’r gyfrol wedi cael ei
gynnal yng ngardd Gwestyu’r Plu yn Llanystumdwy (syniad ardderchog). Y cwestiwn
amlwg felly oedd, beth ddigwyddodd i whaoddiad colofnwyr yr Herald Gymraeg?
Gyda sicrwydd o adolygiad gor-ganmoliaethus gan Mwyn yn sicr, fe gollwyd cyfle
yndo?
Chefais i ddim mwy o wybodaeth ar Google a rho’s y gorau i
chwilota ar dudalen 3 achos dim on cyfeiriadau at Jamaica y wlad oedd yn
ymddangos wedyn. Yn y gobaith fod y Cyfryngau Cymraeg wedi ymateb i’r gyfrol ar
y pryd, efallai na phostiwyd llawer ar y we, rhaid cofio fod hyn cyn dyfodiad
trydar (lansiwyd 2006) a phoblogrwydd go iawn Facebook (lansiwyd 2004).
Ond, os na chafwyd sylw i’r gyfrol ar y pryd, ydi hyn yn
awgrym o gyfyngu ar ffiniau ‘diwylliant’ yn y Gymru Gymraeg boed hynny yn
fwriadol, yn anfwriadol neu drwy rhyw ddiymadferthrwydd diwylliannol? Dim ein pethau
(Pethe) ni yw hyn. Hynny yw, rhywsut, fod hwn yn rhywbeth anghyfarwydd, ddim yr
arferol, ddim yn rhan o’r lleisiau arferol, a felly wedi syrthio rhwng craciau
yn y llawr i rhyw selar dywyll lle doedd neb yn cadw gwin a felly byth yn ei
thywyllu?
Fel arfer, wrth son am ein dylanwadau diwylliannol, mae
disgwyl i ni enwi T.H, Kate, Saunders, Waldo, Jarman a Dave Datblygu hyd yn oed
(yn sicr gan y trydarati), ac yn aml mae hynny yn digwydd. Ond, mae rhyw
ffwdanu diwylliannol yn gysylltiedig a’r Gymru Cymraeg yn fy marn i. Mae hi ’di
cymeryd dros 30 mlynedd i David R Edwards a Pat Datblygu cael rhyw fath o ‘barch
haeddiannol’ gan fwy na hoelion wyth amlwg y lleiafrif tanddaearol.
Yr hyn sydd yn poeni rhywun yw fod y naratif Cymraeg rhy
gyfyng. Wrthgwrs, mae pethau wedi newid ac yn parhau i newid er gwell ond i ddyfynu
geiriau Dave Datblygu, “Mae byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”. Oes
ganddo bwynt, hyd yn oed heddiw? Hyd yn oed 30 mlynedd yn ddiweddarach? Ara deg
mae dal iâr, medda nhw, ond efallai fod ara deg rhy ara deg, mae angen brasgamu
o ran y naratif.
Dwni’m os byddai cerddoriaeth Cymraeg erioed wedi cydio
yn Mr Mwyn yn ei arddegau onibai am ganeuon reggae fel ‘Rocers’ ac ‘SOS yn Galw
Gari Tryfan’. Roedd y wefr o chwarae LP feinyl ‘Gwesty Cymru’ ochr yn ochr a
rhywbeth fel ‘White Man in Hammersmith Palais’ yn ddigon i gadarnhau i mi fod
gobaith. Gobaith fod stwff Cymraeg nid yn unig yn ‘cŵl’ ond yn sefyll ochr yn ochr
hyd yn oed a recordiau Strummer a’r Clash.
Dyna ddigon o ddamcaniaethu. Hoffwn glywed os bu unrhyw
gyhoeddusrwydd i’r llyfr yn 2005? Hoffwn wybod na anwybyddwyd y peth yn llwyr.
Gobeithiaf mae y fi oedd yn rhy brysur a mae arnaf i oedd y bai am fod a fy
llygaid wedi cau. Mae angen llyfrau fel hyn yn y Gymraeg achos beth mae Elwyn
wedi ei gyflanwi yw trawsblannu profiadau rhywun o Ben Llŷn i stryddoedd hynod
beryglus Kingston a mae hynny yn gwneud darlen hanfodol.
Llwyddodd Elwyn i ddod ar holl brofiad o ymweld a Jamaica
yn fyw. Wrth ddarllen mae rhywun yn clywed y synnau, yn arogli’r aroglau ac yn
rhan o’r cyffro a’r wefr. Cawn lyfr o amryliw a haenau fel y paentiad gorau gan
J.M.W. Turner. Cawn ein trawsblannu gyda Elwyn i’r siopau recordiau a’r
stiwdios recordio a’r nosweithiau Sound System a bron fod rhywun yn ‘clwyed’ y
trac sain.
Gan fod copiau ar werth ar y we, ewch amdani archebwch
eich copi a mwynhewch y darllen, neu hyd yn oed gofynnwch yn eich siop lyfrau
lleol iddynt chwilota yn yr hen focsus yna o 2005!
Dyma gyfweliad gyda Elwyn gan Tudur Huws Jones ar ran yr Herald Gymraeg 0 2005:
Dyma gyfweliad gyda Elwyn gan Tudur Huws Jones ar ran yr Herald Gymraeg 0 2005:
Cariad yn drech nag ofn ar strydoedd gwaedlyd
Kingston
Mae’n un o ddinasoedd perycla’r byd, ond bu
Tudur Huws Jones yn sgwrsio â Chymro sy’n cael croeso mawr yno bob tro
‘ROEDD Mam wastad yn dweud bo fi ddim yn gall,”
meddai. “Ond gwirion faswn i’n ddweud ydw i.”
Gwirion fasa’r rhan fwyaf ohonom yn galw dyn
gwyn sy’n fodlon mentro ar ei ben ei hun i ganol un o ddinasoedd perycla’r
byd – Kingston, Jamaica .
Mae’r newyddion teledu a’r papurau newydd yn
llawn adroddiadau am bobl yn cael eu saethu, eu trywanu neu’i curo i
farwolaeth – a hynny’n ddyddiol.
Mae Jamaica yn ail yn y byd yn
nhermau nifer o lofruddiaethau. Colombia sydd â’r fraint amheus o fod ar y
brig.
Y llynedd llofruddiwyd 1,327 o ddinasyddion
Jamaica – 0.5% o’r boblogaeth, ac yn Kingston y digwyddodd 80%
o’r rheiny. Tasa cyfradd llofruddiaeth gwledydd Prydain yr un fath â
Jamaica , byddai 34,500 o drigolion yn cael eu mwrdro bob blwyddyn. Fel
mae hi, tua 1,000 o lofruddiaethau sy’n cael eu cofnodi yma’n flynyddol.
Beth sy’n gyrru dyn o Bentre Poeth, Pwllheli
i’r fath uffern o le?
Cariad. Be arall.
Cariad at gerddoriaeth a diwylliant
Jamaica , sy’n berwi yng ngwaed Elwyn Efans ers pan oedd o’n llefnyn yn
ei arddegau.
Mae cariad yn cuddio pob pechod, meddan nhw, ac
mae Elwyn yn gwrthod rhedeg ar y ddinas a’i phobl.
“Tasa chitha mor dlawd a difreintiedig â’r rhan
fwyaf o bobl Jamaica , fe wnaech chi unrhywbeth bron i wella eich
bywyd. Dyna ydi gwraidd y rhan fwyaf o’r problemau,” meddai.
Ac yn groes i gyngor pawb bron, mentrodd i dân
poeth Kingston i ddiwallu ei chwant am recordiau a chael cyfle i flasu
diwylliant unigryw’r ynys.
Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw yn 2000, mae o
wedi dychwelyd yno bedair gwaith gan aros am dair wythnos ar y tro. A bellach
mae o wedi defnyddio’r ymweliadau a’r obsesiwn efo cerddoriaeth reggae, a’i
ffurf ddiweddaraf – dancehall – yn sail i lyfr am ei brofiadau.
“Roeddwn i wedi bod isio mynd i Jamaica ,
a Kingston yn enwedig ers blynyddoedd,” meddai Elwyn.
“Pan o’n i tua 11 neu 12 oed roedd gen i
obsesiwn efo’r Mods – eu dillad a’u miwsig, ac mae’r holl beth wedi dechrau
yn fan’no,” meddai.
Bum mlynedd yn ôl oedd hi, ac Elwyn yn methu
maddau mwyach i’r ysfa i fynd draw yno.
Roedd o newydd dderbyn tâl diswyddiad
gwirfoddol gan gwmni Manweb, felly roedd ganddo “lwmp swm” i wireddu ei
freuddwyd.
Am yr wythnos gyntaf bu ef a’i wraig Ann yn
aros mewn pentref gyda’r enw hudolus Treasure Beach, ymhell o sn a thrais y
ddinas ddrwg.
Wedi hynny roedd Ann yn dychwelyd i Gymru, ac
Elwyn yn treulio’r pythefnos nesaf yn Kingston.
Roedd y trefniadau wedi ei gwneud cyn gadael
Cymru.
Ers blynyddoedd mae Elwyn wedi dod yn ffrindiau
efo criw siop recordiau Dub Vendor, yn Llundain, ac roeddan nhw wedi trefnu i
rhywun ei gyfarfod yn Kingston.
“Bob tro oeddwn i’n dweud beth oedd fy mwriad,
ro’n i’n cael fy rhybuddio i beidio mynd yn agos i’r lle.
“Roedd ’na un neu ddau o fois o Kingston yn
cadw’u pennau’n isel yn Treasure Beach, wedi gwneud gelynion yn y ddinas, ac
roeddan nhw’n dweud wrtha’i na faswn i’n para diwrnod yno.
“Roeddwn i’n gweld y newyddion a darllen y
papurau am y pethau oedd yn mynd ymlaen yno, ond ro’n i’n dal yn benderfynol
o fynd.”
Wedi ffarwelio â’i wraig ddagreuol, roedd y
dydd wedi dod.
Dyn tacsi yr oedd wedi dod i’w adnabod aeth a
fo i Kingston, ac roedd hwnnw ofn am ei fywyd.
“Roedd o bron a marw o ofn yno. Roeddwn innau’n
teimlo’n ddigon pryderus. Ro’n i’n teimlo reit anghyfforddus ar brydiau, yn
meddwl be os fasa’r boi ddim yn cysylltu efo fi, be dwi’n mynd i wneud
wedyn?”
Roedd rhaid iddo oroesi noson yn y ddinas cyn
hynny.
Y bore wedyn, ac yntau heb glywed gan Zack, y
dyn oedd i fod i’w gyfarfod, cafodd alwad ffôn gan ei gyfaill o’r siop
recordiau. Rhoddodd hwnnw rif ffôn iddo ac o’r diwedd roedd pethau’n edrych
yn well.
Does dim angen dweud wrth Gymro am bwysigrwydd
parchu diwylliant pobl eraill, ac nid yn unig y mae Elwyn yn caru
cerddoriaeth Jamaica , mae o hefyd wedi meistroli’r iaith.
Daeth hynny’n handi ar sawl achlysur.
“Dw i’m yn lecio’i galw hi’n patois – dw i’n
gweld hwnnw’n air amharchus. Mae’r iaith Jamaicaidd yn gymysgedd cymhleth a
diddorol o Arawac – iaith y trigolion brodorol cyntaf – Sbaeneg, Saesneg,
Portiwgaeg, geiriau Affricanaidd a geiriau wedi’i gwneud i fyny eu hunain.”
Mae’r darn canlynol o’i lyfr – “Fflamau
Jamaica” – yn egluro ychydig ar feddylfryd Elwyn, a’i gariad tuag at
ddiwylliant yr ynys:
“Dieithryn ar ei ymweliad cyntaf â dinas estron
hanner ffordd ar draws y byd. Ond doeddwn i ddim yn teimlo fel ymwelydd o
gwbwl. Roeddwn yn teimlo’n berffaith gartrefol. Plantation Heights, Tower
Hill, red Gal Ring, Cassava Piece, Barbican, Liguanea, Meadowland, Pembroke
Hall a Patrick City... roedd yr enwau ar yr arwyddion ffyrdd i gyd yn hysbys
imi. Ward Theatre, Devon House, Up Park Camp, y Gun Court, Parade, y National
Arena ... ac arwyddnodau’r dref i gyd yn gwbwl adnabyddus.
“Roedd y mwyafrif helaeth o’r wynebau a welwn
ar y teledu – yn wleidyddion, actorion, beirdd, awduron, digrifwyr,
pêl-droedwyr, ac ati – yn gyfarwydd imi hefyd. A bwydydd, diwylliant, hanes,
llên gwerin, moesau a defodau’r wlad. Ffasiynau’i thrigolion, eu hiaith a’u
diarhebion, a’u myrdd o grefyddau gwahanol.”
Does bosib na theimlodd fymryn lleiaf o
ysgytwad diwylliannol, holodd un o’i gyfeillion ar ôl iddo ddod adref?
“Naddo. Dim owns. Theimlais i’r un iod ohono
trwy gydol fy arhosiad.”
Yn ystod ei ymweliadau mae Elwyn wedi cael
cyfle i ymweld â stiwdios recordio enwoca’r ddinas, cwrdd â nifer o sêr
presennol a gorffennol cerddoriaeth ska, , rocksteady, reggae a dancehall, a
chyfle i ychwanegu at ei gasgliad anhygoel o recordiau, ond bu hefyd yn
ddigon mentrus i fynd i ddawnsfeydd a chyngherddau, a gwyliau miwsig enfawr.
Ac wrth gwrs, yn anorfod mewn dinas mor
dreisgar, daeth sawl eiliad anghyfforddus iawn i’w ran – nid efo’r brodorion
duon bob tro chwaith.
Mewn gwyl ddiwylliannol Rastaffaraidd – y Rebel
Salute – anwybyddodd Elwyn gyngor Zack i aros yn y car, a chafodd ei
amgylchynu gan griw o lafnau, a ddygodd bopeth oedd ganddo o’i bocedi.
Llwyddodd Elwyn i ddal un ohonynt, a pherswadiodd Zack y llanc i roi popeth
yn ôl i’w gwr o Bwllheli. Ond sylweddolodd yn ddiweddarach ei fod wedi colli
ei gamera drud.
Dro arall daliodd dihiryn gyllell i’w asennau,
ond wnaeth y digwyddiadau hynny bylu dim ar ei chwilfrydedd i brofi pob math
o brofiadau. Bu’n gwylio gêm bêl droed ar ei ben ei hun bach, yn un o
ardaloedd perycla’r ddinas, ac am sbel ar ôl y gêm, roedd o mewn cryn bicil
am ei fod wedi anghofio trefnu i’r tacsi a’i danfonodd yno, i ddod i’w nôl
wedyn.
Mae profiadau o’r fath yn britho’r gyfrol, ac
yn ogystal ag Elwyn ei hun – sy’n gymeriad a hanner – cawn gyfarfod â phob
math o adar brith – rhai pur amheus, ond y mwyafrif yn bobl clên, a
chymwynasgar. Ond hyd yn oed wedyn, o ddarllen ei hanesion a’i anturiaethau,
fedr rhywun ddim peidio a meddwl bod ei fam yn eitha agos i’w lle.
Fflamau Jamaica; Elwyn Efans; Gwasg
Carreg Gwalch; £7.50
|