Byddaf yn disgrifio fy hyn yn aml fel ‘anarchydd gwael’, oherwydd y ffaith fy mod yn pleidleisio yn hytrach nac yn ymwrthod yn llwyr a’r drefn wleidyddol sydd ohonni. Ystyr anarchiaeth yn ei ffurf mwyaf positif yw ffordd neu model arall o sut y gallwn drefnu cymdeithas heb heirarchaeth, heb wladwriaeth, heb lywodraeth. Damcanaieth wleidyddol amgen efallai, ond dim mor afresymol a hynny o ran yr egwyddorion sylfaenol o gydraddoldeb a thegwch tuag at ein cyd-ddyn.
Fe all rhywun ddadlau fod Comiwnyddiaeth yr un mor anghyrraeddadwy
yn yr oes sydd ohonni, ac eto dim ond ffwl fyddai yn gofyn pam fod eira yn wyn
ac yn fodlon di-ystyrru yr ochr orau o’r damcaniaeth/syniadau yma.Felly hefyd
gyda egwyddorion y Blaid Werdd, anodd anghytuno 9 gwaith allan o 10.
Ond gan ein bod yn byw yn y byd go iawn, dyma’r ‘anarchydd
gwael’, sydd yn byw yng Ngwynedd, yn peidleisio dros Plaid Cymru bob tro.
Pleidlais wag fyddai’r un i’r Blaid Werdd a Duw a’n helpo petae y Toriaid yn
fuddugolaethus, (mwy o beryg ar Ynys Mon er engraifft) felly pleidleisio
amdani.
Mae canlyniad y Refferendwm (ffôl a di-angen) ar y UE yn
brathu rhywun ar ei ben ôl – dyma syd yn digwydd pan mae’r werin yn cael eu
hudo gan yr asgell dde a wedyn yn rhoi croes ar bapur. Heb os, heb os, bydda’r
union bobl yma (yr anllythenog wleidyddol fel y galwais nhw yr wythnos dwetha)
yn pleidleisio dros atgyfodi crogi a dienyddio fel y gosb eithaf. Anodd bod yn
hollol siwr na fyddai gwrachod yn cael eu boddi hefyd o ystyried yr ofnau sydd
wedi eu chwipio i’r amlwg gan y Dde (eithafol).
Teimlais yn euog (braidd) wrth sgwennu wythnos yn ol yn
yr Herald a chyfeirio at punk fel dylanwad gwleidyddol positif ond dyma ni,
heddiw, 2016, diolch i Dave, George, Michael, Boris, Nigel, mae hiliaeth yn fyw
ac yn iach ar strydoedd y Deyrnas Doredig. Does ond rhaid dilyn y cyfryngau
cymdeithasol a gweld faint o ddoctoriaid, siopwyr, myfyrwyr sydd wedi deffro y
bore canlynol a’r anllythrenog wleidyddol yn gofyn iddynt ‘pam eu bod dal yma?
– rydym wedi pleidleisio i’ch gyrru adre’.
Cewch ddrwgdybio/chwerthin am punk ac anarchiaeth os
mynnwch ond oleiaf roedd grwpiau fel The Clash, Aswad, Misty in Roots, Sham 69
yn rhannu llwyfan ‘Rock Against Racism ym1979 ac yn cyrraedd yr anllythrenog
wleidyddol, y di-freintiedig, y tlawd, y di-waith. Roedd Strummer yn gallu
cyfathrebu. Methodd y National Front wneud cynnydd.
Os dysgodd punk unrhywbeth i ni, peidiwch ac ymddiried
mewn dyn hefo barf a sandalau (onibai am Che a Christ efallai), does dim dwy
waith fod rhaid i Corbyn fynd am y rheswm syml, ar yr awr dyngedfennol yma does
dim gwrthblaid cenedlaethol Brydeinig. Mae Sturgeon a’r SNP yn agosach na’r
Blaid Lafur. Efallai fod angen i’r SNP gymeryd y seddau yna drosodd unwaith
eto!
A beth am Gymru? Y diweddara yw fod Plaid Cymru am
awgrymu rhyw ffurff o Annibyniaeth drwy uno’r gwladwriaethau unigol ym Mhrydain
oddi fewn i Erwop. Eto, anodd anghytuno a’r sentiment. Ond, wrth dagu dros fy
mhaned, mae yna waith i’w wneud bois bach. Heblaw am Wynedd, Ceredigion,
Caerdydd, Bro Morgannwg a’r sir lleiaf ‘Cymreig’, Mynwy, mae’r gweddil wedi
ochri hefo Lloegr/Boris/UKIP a chymaint wedi mynd yn groes i’w haelodau
Seneddol a Chynulliad. Pob lwc.
Os medraf helpu, neu awgrymu fod angen i’r Byd Pop
Cymraeg ymateb rhywsut, byddai dechrau cyfres o gigs Rock Against Racism yn un
cam fach ymlaen. Beth bynnag arall gallwn ei gyflawni yn y tymor byr – mae’n
hollol bosib dechrau herio hiliaeth. Fel arall does fawr o arweiniad
gwleidyddol sydd yn fy argyhoeddi i roi’r gorau i fod yn anarchydd gwael.
No comments:
Post a Comment