Yn ôl yn Haf 2015 fe ysgrifennais erthygl ar gyfer
cylchgrwan Y Casglwr (Rhif 114) ar gasglu fanzines.
Dyma sut y bu i mi ddiffinio a cheisio esbonio beth oedd fanzine yn yr erthygl honno: “Diffiniad ‘fanzine’ yw cylchgrawn wedi ei
sgwennu gan ddilynwyr brwd, sef y ‘ffan’ ac ychwanegir y gair ‘zine’ o’r gair magazine. Yn ystod 1976
ymddangosodd y fanzines Pync cyntaf, a rhain oedd, mewn amser, i sbarduno ac
ysbrydoli cyhoeddi cylchgronau tanddaearol tebyg yn y Gymraeg ar ddechrau’r
1980au. Daw’r disgrifiad ‘tanddaearol’ yn y cyd-destyn Cymraeg oherwydd natur
ac ysbryd amgen y cylchgronau yma a hefyd oherwydd eu safbwynt
gwrth-sefydliadol”.
Rwan ta roedd dau broblem sylfaenol gyda chyhoeddi’r erthygl
yna yn Y Casglwr. Yn gyntaf doedd gan (yn wir, does gan) ddarllenwyr Y Casglwr fawr
o ddiddordeb mewn cylchgronau tanddaearol yn trafod cerddoriaeth a
gwleidyddiaeth tanddaearol. Yn ail, ac yr un mor amlwg, dydi dilynwyr cerddoriaeth
tanddaearol ddim yn ymddiddori rhyw lawr mewn hen lyfrau Cymraeg a Chymreig.
A’i fi yw’r eithriad? Ddylia hi ddim bod felly.
Y rheswm dros gyhoeddi’r erthygl, a hynny gyda
brwdfrydedd llawn y golygydd, Mel Williams, Llanuwchllyn, oedd fod y ddau
ohonnom yn teimlo yn gryf fod angen gwthio ychydig ar y ffiniau o ran pa
ddeunydd Cymraeg sydd yn cael ei ystyried yn gasgliadwy. Felly dros y
blynyddoedd rwyf wedi cyhoeddi erthyglau yn Y Casglwr ar gasglu recordiau
feinyl Cymraeg, llyfrau sydd yn ymwneud a cherddoriaeth pop Cymraeg yn ogystal
ac erthyglau mwy traddodiadol am gasglu llyfrau Gwilym Cowlyd a beirdd Dyffryn
Conwy oedd a chysylltiad ac Arwest Glan Geirionydd.
Rhyw bythefnos yn ôl, ar fy rhaglen Nos Lun ar BBC Radio
Cymru, daeth cyfle arall i drafod fanzines
yng nghwmni Pat Morgan o’r grwp Datblygu ac Owain Meredith, archifydd gyda
HTV. Eto ein bwriad, mewn ffordd ddigon hwyliog, oedd ceisio dod i’r afael a
phwysigrwydd a chyfraniad diwylliannol y cylchgronau tanddaearol llun- copïedig
yma. Rhaid oedd cyfaddef (gan chwerthin) mae prin iawn oedd eu cylchrediad,
gwael iawn ar y cyfan oedd eu safon argraffu ac amrwd iawn oedd y cynnwys (a
dweud y lleiaf).
Pat Datblygu oedd golygydd y fanzine Yn Syth o’r Rhewgell ac un
canlyniad ddiddorol o’r trafodaethau yma yn Y Casglwr ac ar Radio Cymru oedd sylwi
fod cymaint o’r ‘golygyddion’ yn bobl sydd wedi dod i’r amlwg wedyn. Golygydd ‘Dyfodol
Dyddiol’ er engraifft oedd Gorwel Roberts (yn ddiweddarach aelod o’r grwp
Bob Delyn) ac wrth ddisgrifio ei gyhoeddiad yn fy erthygl yn Y Casgwr dyma oedd
fy argraffiadau wrth edrych yn ôl:
“a chawn gyfuniad
bler o erthyglau, rhai mewn llaw ysgrifen a’r lleill wedi eu teipio yn wael – a
phopeth wedi ei lungopio mor wael nes fod y darllen bron yn amhosib ar adegau.
Ond dyna oedd natur ffansins, mater o gyhoeddi barn mor sydun a mor rhad a
phosib. Cawn adolygiad o ‘Daith y Carcharorion’ gyda Geraint Jarman a Maffia Mr
Huws yn rhifyn Mai 1986 sydd yn byrlymu o farn di-flewyn ar dafod y golygydd.
Dyna’r pwynt”.
Fy mwriad yn Y Casglwr yn sicr, oedd ceisio dal ysbryd cyfnod
y ffansins ac i roi ar gôf a chadw ychydig o sylwadau am y cyfnod yma yn hanes
diwylliant amgen Cymraeg. Da ni ddim yn dda iawn fel Cenedl am fod yn ‘amgen’.
Mae’r duedd Methodistaidd i gydymffurfio yn parhau i fod yn gryf iawn.
Yn ystod cyfnod y ffansins, fe ehangodd y drafodaeth
Gymraeg i gynnwys pethau fel ‘Hawliau Anifeiliaid’. Roedd un ffansin penodol Profion Dirgel yn cael ei gyhoeddi gan
olygydd ifanc o’r enw Nigel Trow o Lanuwchllyn a Profion Dirgel yn fwy na unrhyw gyhoeddiad arall efallai lwyddodd
orau i wthio ffiniau’r drafodaeth Gymraeg. Tra roedd myfyrwyr Pantycelyn yn
gwrthdystio dros yr hawl i lenwi ffurflen arall yn y Gymraeg roedd Trow yn
dilyn llwybr grwpiau fel Crass a Poison Girls ac yn trawsblannu hyn i’r ardd
Gymraeg. Son am ddau fyd mor wahanol.
Anodd heddiw wrthgwrs amgyffred pam mor wrth-sefydliadol
roedd pawb yn y byd tanddaearol yn deimlo yn ystod yr 1980au. Ond y sefydliad
oedd y Byd Cymraeg. Roedd Trow yn cynnig gobaith i bobl ifanc di-Gymraeg ar
stryd fawr Corwen fod mymryn bach iawn o’r Byd Cymraeg yn gallu bod yn
berthnasol iddynt. Rwyf yn dal i adnabod rhai o’r bobl yna hyd heddiw, y rhai
oedd ddim am siarad Cymraeg yn Ysgol y Berwyn, ond fe ddangiswyd iddynt fod
popeth Cymraeg ddim ru’n fath. Dangoswyd (I’r rhai oedd ei angen) fod yn
‘amgen’ yn Gymraeg.
A heddiw, i rhywun fel fi, sydd yn ysgrifennu i’r Herald
Gymraeg, yn cyflwyno ar y BBC, yn beirniadu traethodau i’r Eisteddfod
Genedlaethol, anodd iawn yw hawlio fy mod dal yn ‘amgen’. Rwyf bellach yr un
mor hapus yn rhoi sgwrs i Ferched y Wawr ac y byddwn yn cynnal gig. Esblygiad
dros gyfnod o amser yw’r ffordd orau o esbonio hyn ond does gennyf fawr o
ddiddordeb mewn ail adrodd y bregeth danddaearol o 1985 er fod pwyntiau Trow am
fywddyrniad ac hawliau anifeiliaid yr un mor agos i fy nghalon heddiw ac yr
oedd pryd hynny.
Does gennyf ddim syniad bellach beth yw bod yn ‘amgen’ yn
y Byd Cymraeg yn 2016? Oes unrhywun yn amgen bellach? Oes angen i bobl fod yn amgen yn y cyd destyn
Cymreig bellach? Efallai fod rhywun yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol (ond heb
werthu allan). Yn sicr mae edrych yn ôl ar y ffansins yn rhoi cipolwg ddiddorol
iawn a’r safbwyntiau amgen iawn ar un cyfnod penodol yn ein hanes diwylliannol.
No comments:
Post a Comment