‘Ardent Eisteddfodwyr may disagree, but the Royal Welsh is the nation’s true cauldron’. Geiriau yr awdur a’r seico-ddaearyddwr Mike Parker yn ei lyfr Real Powys (2011). Nid fod hon i fod yn gystadleuaeth (rhwng y ddwy ŵyl) ond mae darllen sylwadau Parker, mewnfudwr sydd bellach yn Gymro, yn ysbrydoli rhywun i edrych ar y Sioe Frenhinol drwy sbectol wahanol.
Amlwg felly i Parker, sydd yn rhydd o’r rhagfarnau
ieithyddol mae’r gweddill ohonnom wedi eu hetifeddu, fod maes y Sioe Frenhinol
yn un lle, lle mae’r ddwy iaith yn cerdded llaw yn llaw. Dim ond
seico-ddaearyddwr ac awdur o dras amgen fel Parker all gyfeirio at
ddwy-ieithrwydd fel hyn: “the Welsh and
English languages collide and elide, slipping over one another like post-coital
lovers’.
Er mor farddol yw geiriau Parker, rwyf wedi colli’r
trywydd braidd o ran y rhyw ol-gytgnawdol, ond dyna ddawn yr awdur, plethu
geiriau, creu darluniau a thirwedd newydd (ar gyfer Powys) a siawns ……
ysbrydoli rhywun i grwydro …….
Defaid yw defaid a gwartheg yw gwartheg, tyfais fyny drws
nesa iddynt yn Llanfair Caerenion. Drwy’r drws ffrynt a cherdded y ffordd
darmac (ddim cweit yn stryd) i’r pentref, drwy’s drws cefn a dros gamfa i’r
caeau (o ddefaid a gwartheg). Ond rhyfeddais yn y Sioe ar y gwahanol liwiau.
Doedd dim defaid a gwlan melyn yn Llanfair Caereinion yn y 1970au mae hynny yn
sicr.
Gallwn fod wedi treulio gweddill y diwrnod yn trafod y
gwahanol fridau o ddefaid, yn hawdd. Pa well ffordd o ddysgu na chael sgwrs
hefo’r perchnogion balch, yn enwedig y rhai gyda’r rhosglwm Dosbarth 1af ar eu
brest, mor falch a buddugolaethus. Ond nid diwrnod felly oedd hi, roeddwn yno i
weithio, ac ar ben hynny roedd y teulu wedi dod hefo fi am dro. (Peth prin yw
cael hogiau yn eu harddegau i ddod am dro hefo ‘Dad’ dyddiau yma!).
Am 2-20 y pnawn roedd awyren Spitfire yn hedfan dros y
maes, a hynny sawl gwaith. Clywsom rhuthr yr injan rhai munudau cyn i ni gael
golwg ar yr awyren ei hyn – a dyma hi yn dod dros y bryniau i’r gogledd yn isel
ac yn gyflym cyn troi ar ei hochr ac amlygu’r arwydd targed cylchog RAF o dan
ei hadenydd. Dyma fi yn hogyn 10oed eto.
Am gyffrous, ac ar ben hynny roedd y ddau arddegyn wedi eu cyfareddu hefyd –
diolch byth am hynny – rhywbeth iddynt fwynhau.
Cafwyd gwledd a dweud y gwir, yn enwedig yn yr ymrysonfa
ganolig, gyda Cossacks o’r Iwcrain yn cyflawni campweithiau ar eu ceffylau a
thryciau anferth yn gyrru dros rhesi o geir gan eu malu’n rhacs i gyfeiliant cyflwynydd
yn herio’r dorf – “Yda chi’n barod am chydig o ddinistr?” Erbyn hyn roedd ‘Dad’
wedi adfer mymryn bach o hygrydedd – “ylwch hogia dydi gwaith ‘Dad’ ddim bob
amser yn ddiflas”.
Uchafbwynt arall, y tro yma ychydig fwy llythrennol, oedd
cael mynediad i falconi S4C, roeddwn yma i ffilmio hefo Heno/S4C. Roedd yr
arddegwyr yn falch o gael eistedd i lawr erbyn hyn a thra roedd ‘Dad yn
ffilmio’ fe gafo’ nhw ei sbwilio gan y gyflwynwraig Sian Thomas a oedd yn
gwneud yn siwr fod ganddynt gyflenwad barhaol o ddiod a biscedi. Chymerodd yr
un o’r ddau unrhyw sylw o’r ffilmio ond cafwyd cyfle i weld ceffylau yn neidio
a rasio a hynny o seddi ddigon moethus ar y balconi diolch i S4C. Braf cael
rhyw fân fantais weithiau yntydi!.
Er fod gwaith wedi hawlio rhan fwyaf o fy sylw, mwynheais
fy ymweliad yn fawr iawn.Os dychwelaf eto dwi am wneud yn siwr fy mod yn cael
dysgu mwy am y bridau defaid anhygoel melyn yna!