Y geiriau y byddaf yn eu cysylltu a’r cyfle i gloddio
archaeolegol ar safleoedd neu henebion yng Nghymru yw ‘braint’ a
’gwerthfawrogi’. Dau air ddigon syml, ond mae hi yn fraint cael cloddio ar y
safleoedd yma, dyma gyfel i gyffwrdd ar gorffennol, yr agosa y gallan fod at
ein cyn-deidiau, yr hen bobl. A’r rheswm am yr ail air, yw fy mod o hyd yn
gwerthfawrogi y cyfle yma.
Felly dychmygwch sut mae rhywun yn teimlo yn cael y cyfle
dros y bythefnos ddwetha i gyd weithio gyda Cadw yn cloddio yn y dirwedd o
amgylch Bryn Celli Ddu yn ceisio gweld os oedd defnydd o’r dirwedd yma o
amgylch y siambr gladdu yn ystod y cyfnod Neolithig (Oes y Cerrig).
Er fod ambell adroddiad yn y wasg wedi awgrymu ein bod yn
cloddio yn y siambr, y gwir amdani yw fod y siambr gladdu ei hyn wedi ei
restru, felly go brin bydd unrhywun yn cael caniatad i dyllu oddifewn i
ffiniau’r cofadail ond mae’r caeau o amgylch yn bosib. Bwriad y cloddio felly
yw ceisio deall mwy am y dirwedd Neolithig, beth efallai oedd yn digwydd o
amgylch y siambr gladdu?
Dyma beth yw gwefr. Disgrifias y profiad ar Trydar fel un
cyfatebol i berfformio yn Neuadd Albert, Llundain petae rhywun yn ganwr. Anodd
curo hyn. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli
Ddu yw’r graig enfawr naturiol yn y cae drws nesa, rhyw 200 llath i’r
gogledd-orllewin o’r cofadail.
Ar ben y graig yma mae nifer o gafn-nodau. Cafn –nodau yw
tyllau bach crwn rhyw ddwy fodfedd ar draws sydd wedi cael eu creu gan ddyn yn
y graig. Y broses oedd eu curo gyda cerrig eraill, weithiau y crystal ‘quartz’,
er mwyn creu twll bach crwn. Yn Saesneg, mae’r dechneg yma yn cael ei disgrifio
fel ‘pecking’. Dychmygwch garreg yn cael ei defnyddio bron fel pig aderyn yn
cnocio dro ar ol tro nes fod ffurf y cylch yn datblygu yn raddol ar y graig.
Gwaith y bore cyntaf oedd glanhau y baw defaid, y mwsogl ac
unrhyw laswellt oedd wedi tyfu ar ben y graig gan guddio’r cafn-nodau. Dyma’r
tro cyntaf erioed i waith o’r fath gael ei wneud. Fedra’i ddim cyfleu mewn geiriau
pam mor wirioneddol wefreiddiol oedd hyn, son am fod yn agosach i’r nefoedd –
roeddwn drwy’r drws ac i fewn !
Rydym wedi cael hyd i rhwng hanner dwsin a dwsin o’r
cafn-nodau yma ar ben y graig a’r cam nesa oedd defnyddio peiriant sganio
laser, LeicaP40, i dynnu lluniau o’r graig rhag fod mwy o gerfiadau yno efallai
nad oedd yn amlwg i’r llygaid noeth. Rydym hefyd yn amau fod rhan helaeth o’r
graig wedi ei chwalu rhywbryd ar ol y cyfnod Canoloesol fel chwarael gerrig.
Felly pwy a wyr faint o gafn-nodau gollwyd dros y blynyddoedd?
Does neb yn siwr iawn beth yw pwrpas y cafn-nodau yma. Fe
welir 110 ohonnynt er engraifft ar gapfaen cromlech Bachwen yng Nghlynnog, mae
un arall ar un o feini siambr gladdu Dyffryn Ardudwy tra mae carreg arall hefo
dwsin neu fwy ohonnynt ar fferm Penllech yn Mhen Llyn. Cerfiadau yw rhain ond
cwestiwn da beth yw’r arwyddocad? Rhaid fod mwy o ystyr iddynt na ‘celf’ yn
unig.
Ac wrth son am gelf, mae Ffion Reynolds o Cadw, sydd yn
cyfarwyddo’r gwaith cloddio, wedi sicrhau fod gennym artist preswyl yn
bresennol drwy gyfnod y cloddio. Dyma un o’r pethau cyffrous iawn am archaeoleg
y dyddiau yma, sef fod yr hen ffiniau, hen ffasiwn, cul ac ysgolheigaidd yn
cael eu chwalu’n rhacs. Dyma faes sydd nawr yn aml-gyfryngol, yn ceisio cyrraedd
y werin bobl – ac yn hwyl.
O Wrecsam daw’r artist Angela Davies a mae Angela eisoes
wedi gwneud gwaith preswyl mewn canolfannau hanesyddol fel y gadeirlan yn
Llanelwy a Chastel y Waun. Gwych o beth yw gweld artist fel Angela yn edrych ar
y gofadail drwy lygaid creadigol, dyma ail-ddehongi os nad ail-ddiffinio’r
lleoliad. Eto peth da, chwalu ffiniau, creu posibiliadau, ysbrydoli ……..
Ffion ac Angela
Diweddglo (nid diwedd y stori chwaith) ond diweddglo y
bythefnos o gloddio fydd Diwrnod Agored ym Mryn Celli ar yr 20fed o Fehefin,
sef y Dydd Sadwrn. Dewch draw, bydd teithiau tywys (gan Mr Mwyn), bydd
arddangosfeydd, bydd yna ddipyn o archaeoleg arbrofol a chyfle i greu potiau
pridd ac efallai yn bwysicach byth cyfle i drafod Bryn Celli Ddu gyda eraill a
diddordeb yn y safle.
Ar fore hirddydd-haf, (Mehefin 21) oddeutu 4-30 y bore bydd
yr haul yn dod i mewn drwy’r cyntedd ac i fewn i’r siambr gladdu. Rydym yn
argyhoeddedig bellach mai dyma bwriad yr adeiladwyr Neolithig, dros 5,000 o
flynyddoedd yn ol, wrth godi a chynllunio’r feddrod. Bydd Derwyddon Mon yno i
gynnal defod.
Eto, dyma engraifft gwych o sut mae agweddau wedi newid o
fewn y byd archaeolegol, fod Cadw a Derwyddon Mon yn cyd-weithio ac yn rhannu’r
profiad. Ar ol sgwennu am ddefod Derwyddon Mon ar y diwrnod byrraf (Rhagfyr
21ain) ym Mryn Celli ar dudalennau’r Herald Gymraeg cefais wahoddiad gan y BBC
i gyfweld a’r Derwyddon.
Gwrthod y cyfle wnaeth y Derwyddon. Roeddwn wedi edrych
ymlaen i sgwrsio a nhw, i geisio deall ychydig mwy am eu defodau ond dyna fo,
rhaid eu bod wedi rhagweld fy mod yn mynd i roi amser rhy galed iddynt, sydd yn
siomedig os nad yn awgrymu nad ydynt am fod o dan ormod o chwyddwydr. Dewch
draw ar yr 20fed.
Atodiad: newydd gyfarfod a chydweithio gyda Kris Hughes (Urdd Derwyddon Mon) a fel bydda rhywun yn disgwyl da ni wedi gyrru ymlaen yn dda !
No comments:
Post a Comment