Eleni, rwyf wedi rhoi dros 25 sgwrs yn barod am wahanol agweddau o archaeoleg i wahanol gymdeithasau ledled gogledd Cymru. Amrywiau’r sgyrsiau yma o ganghennau Merched y Wawr i gymdeithasau hanes, llenyddol a chymdeithas capeli. Rwyf hyd yn oed wedi cael gwahoddiad i roi sgwrs yng Nghadeirlan Bangor ar hanes y gadeirlan a Sant Deiniol ym mis Medi.
Wrth deithio ar hyd llawr gwlad, o neuadd bentref i festri
capel, yr hyn sydd yn amlwg yw fod gan bobl ddiddordeb yn eu hanes, yn y
cyd-destyn ehangach archaeolegol a diwylliannol – a fod pobl yn mynychu
neuaddau pentref yn Llwyngwril neu Llanffestiniog ar nosweithiau tywyll, oer a
gwlyb ym mis Chwefror.
Byddaf yn gofyn yn aml, “faint ohonnoch sydd wedi gwylio
Time Team?” fel rhyw fan cychwyn. Oleiaf wedyn wrth ddangos lluniau o
archaeolegwyr yn crafu yn y pridd gyda’u trywal, mae gan y gynulleidfa ryw
syniad beth sydd yn mynd ymlaen. Prin iawn yw’r bobl sydd heb wylio ‘Time Team’
a phrinach byth yw’r rhai sydd ddim yn ei fwynhau. Beth bynnag yw gwendidau
Time Team fel rhaglen, does dim osgoi’r ffaith fod y rhaglen yma wedi gwneud
mwy na neb, na dim byd arall, i boblogeiddio archaeoleg dros y ddegawd dwetha.
Felly beth am honiad diweddar Carwyn Jones, mai’r Cymry yw’r
rhai a lleiaf o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am
hanes eu gwlad yng ngwledydd Ewrop? Ddigon posib, petae rhywun yn taflu
enwau cestyll fel Carndochan neu Ewloe atynt, faint fydda’n gwybod fod rhain yn
gestyll yn perthyn i dywysogion Gwynedd? Eto, beth bynnag mae rhywun yn feddwl
am sylwadau Carwyn, roedd yn braf gweld y drafodaeth yn dilyn. Y broblem fwyaf
efallai gyda sylwadau Carwyn yw fod angen newid y sefyllfa nid datgan yr amlwg.
Llynedd darlledwyd cyfres archaeolegol ar S4C, ‘Olion: Palu
am Hanes’, y gyfres gyntaf erioed dybiwn i, lle roedd y broses archaeoleg yn
cael sywl yn y Gymraeg. Dyma deimlo fod hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir, oleiaf
rwan roedd rhaglen archaeolegol yn y Gymraeg, nid anhebyg i Time Team o ran fod
y cynnwys yn deillio o gloddio ar safleoedd.
Efallai fod yn well i mi ddatgan diddordeb yma. Bu i mi
gyfrannu i ddwy rhaglen yn y gyfres ac roeddwn yn falch o’r gwahoddiad. Fe
gafwyd hyd i olion Rhufeinig yn Nyffryn Conwy fydda ddim wedi eu cloddio fel
arall – felly roedd hyn yn ddatblygiad ofnadwy
o bwysig. Ond cyfrannu ddwywaith neu ddim,
roeddwn wedi bod yn ‘dadlau’ / ‘mynegi barn’ ers rhai blynyddoedd fod y
Cyfryngau Cymraeg rhywsut yn colli cyfle drwy beidio rhoi sylw i’r maes
archaeoleg, felly roeddwn yn croesawu rhaglen o’r fath.
Dyna siom felly i glywed si na fydd ail gyfres o Olion yn
cael ei chomisiynnu gan S4C. Un cam ymlaen, dwy gam yn ol. Efallai y dyliwn roi
bloedd i Carwyn a’i atgoffa fod teledu yn gyfrwng ‘dylwanwadol’, felly dyma
golli cyfle i greu ymwybyddiaeth pellach o’n hanes cynnar yn sicr drwy gyfrwng
y Gymraeg. Sgwenna at S4C Carwyn!
Does dim syniad gennyf os oedd y rhaglen yn boblogaidd.
Cefais adborth positif ar y pryd, ond ella mai dim ond tri person oedd yn
gwylio. Un peth sy’n sicr, dydi un gyfres ddim yn ddigon i raglen o’r fath (neu
unrhyw gyfres) ennill ei phlwyf. Y cwestiwn amlwg, yw pwy sydd yn malio? Fel
dywedodd Paul Weller yn un o’i ganeuon ‘The people want what the people get”.
Yn amlwg dydi Carwyn ddim yn rhan o unrhyw drafodaeth
ehangach hefo S4C am wella ein hymwybyddiaeth hanesyddol. Efallai fod y
penderfyniad wedi ei wneud a dyna ni, ond os ydych yn malio, sgwennwch at S4C Parc Tŷ Glas Llanishen Cardiff CF14 5DU.
No comments:
Post a Comment