Cwestiwn gwirion efallai, ond beth yw pwrpas darllen llyfrau? Os am ddarllen nofelau y tebygrwydd yw fod y darllenydd yn awchu am saib bach o’r Byd go iawn, felly mae darllen nofel yn ddihangfa dros dro i rhyw arall fyd. Bydd darllenydd llyfrau ffeithiol yn disgwyl dysgu rhywbeth yn ogystal a mwynhau y profiad o ddarllen llyfr. Ond y trydydd peth gwerthfawr sydd i’w gael o ddarllen llyfrau yw cael eich hysbrydoli.
Edrychaf ar y bwrdd yn y parlwr acw ac yn aros amdanaf mae
‘The Old Straight Track’ gan Alfred Watkins (gyda rhagymadrodd gan y seren
newydd o sgwennu am yr awyr agored Robert Macfarlane). Son am ‘ley-lines’ oedd
Watkins, sef y llinellau lled ysbrydol hynny sydd yn cysylltu llefydd ar y map.
Edrychaf ymlaen i ddarllen hwn yn ei dro – fe ddylia fy ysbrydoli i fynd i
grwydro.
Ar ei hanner mae llyfr gwych Fiona MacCarthy ‘William Morris
A Life for Our Time’. Heb os mae’r llyfr yma yn fy ysbrydoli i ymweld ag
eglwysi, i fwynhau ffenestri Morris & Co a Burne-Jones, ond mae hefyd yn fy
ysbrydoli i boeni am gadwraeth hen adeiladau. Dwi’n dweud ar ei hanner, achos
mae hwn yn lyfr mor swmpus – does dim brys.
Anhreg Dolig oedd cofiant John Lydon ‘Anger is an Energy, My
Life Uncensored’ ond ar y funud tydi Mr Lydon ddim yn ysbrydoli. Does gennyf
ddim gronyn o ddiddordeb ymwneud a Lydon y dyddiau yma.
Y llyfr arall sydd yn disgwyl cael ei ddarllen yw ‘Sir
William Preece F.R.S Victorian Engineer Extraordinary’ gan E.C Baker. Preece wrthgwrs oedd un o
gefnogwyr Marconi a mae cysylltiadau cryf rhwng Preece a Chaernarfon a
Chaeathro. Edrychaf ymlaen at hwn.
Y llyfr rwyf newydd ei gwblhau yw ‘Ramblings of a
Patagonian’ gan Rene Griffiths drwy wasg Artisan Media Publishing. Cefais alwad
ffon gan Rene yn ddiweddar. Doeddwn rioed wedi ei gyfarfod. Roedd Rene wedi
deall fy mod yn rhoi sgwrs ar Hanes Canu Pop Amgen Cymraeg yng ngwyl Merthyr
Rising ddiwedd mis Mai ac am i mi ddarllen ei lyfr gyda’r bwriad y byddwn wedyn
yn ei gyfweld ar y llwyfan yn yr un wyl.
Rwyf wrth fy modd hefo pobl yn codi’r ffon ac yn gwneud
pethau ddigwydd. Felly dyma gytuno yn y fan a’r lle a dechrau pori drwy’r llyfr
er mwyn paratoi cwestiynau diddorol a threiddgar ar gyfer Rene a Merthyr
Rising. Wrthgwrs mae cant a hanner o flynyddoedd wedi mynd heibio ers Michael D
Jones a sefydlu’r ‘Wladfa’ ym Mhatagonia felly bydd y sgwrs hefo Rene yn
‘amserol’ fel mae nhw’n dweud.
A sut i ddisgrifio ‘Ramblings of a Patagonian’? Wel, petae
Jack Kerouac wedi ei eni yn Llanuwchllyn a wedyn wedi neidio ar dren a mudo i
Batagonia hefo gitar ar ei gefn yn gwrando ar CD ‘Fuzzy Logic’ gan y Super
Furry Animals ….. rhywbeth felly. A bod yn onest doeddwn ddim yn disgwyl llyfr
mor ddoniol, mor onest ac unwaith eto, llyfr sydd yn gallu ysbrydoli cymaint.
Heb os, mae Rene yn rhannu’r un math o ysbryd anturiaethus
a’r trwbadwrs neu’r crwydrwyr, dyma pam mae Meic Stevens a Gruff Rhys yn enwau
fydda yn cael eu defnyddio yn yr un gwynt. Llawlyfr i fyw bywyd yn llawn ac i’r
eithaf ac i fentro yw hwn. Llawlyfr i godi pac a chymeryd diddordeb mewn
diwylliant a diwylliannau eraill.
Dyma’r gwrthwenwyn ir “Prydeinwyr Bach” sydd yn ystyried
pleidleisio i UKIP, dyma’r meddygyniaeth i bobl sydd yn gwisgo slipars –
prynwch sgidia cerdded. Doeddwn rioed wedi disgwyl i Patagonia fod mor
ddiddorol – a hynny heb yr ystradebau arferol – mae Rene yn awdur disglair,
doniol, diddorol ac ydi wir yn ysbrydoli!
No comments:
Post a Comment