Wednesday 22 April 2015

Fort Belan a'r Criccieth Castle, Herald Gymraeg 22 Ebrill 2015


http://www.delfrynpublications.co.uk/

Adeiladwyd ‘Fort Belan’ yn y blynyddoedd yn arwain at 1776 gan Thomas Wynn, Glynllifon, ychydig cyn iddo gael ei urddo yn Arglwydd Niwbwrch. Fel y chwaer gaer, Fort Wiiliamsburg, roedd y dynion a amddiffynai’r gaer yn rhan o Wirfoddolwyr Niwbwrch, y ‘Loyal Newborough Volunteer Infantry’ ac yn cael eu talu a’u cynnal gan Arglwydd Niwbwrch ar gost ei hyn.


Er mwyn cyrraedd y gaer heddiw rhaid dilyn lon breifat ar hyd cyrion maes awyr Caernarfon am tua dwy filltir. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol am y gaer yw’r holl ganonau / gynnau mawr o amgylch y lle. Dyma chi engraifft o gaer o’r cyfnod Napoleonaidd, sydd yn unigryw fel yr unig gaer i’w hadeiladu rhag ymosodiad gan yr Americanwyr yn ystod y Chwyldro Americanaidd. Yn ddiweddarch yn amlwg, roedd y gaer hefyd ar ddefnydd er mwyn atal unrhyw ymosodiad gan y Ffrancwyr.



Ond rheswm arall oedd yn fy nenu yno ar bnawn Sul diweddar, gan fod Cathy Woodhead yn rhoi sgwrs ar llongddrylliad y ‘Criccieth Castle’ ym 1912. Dyma chi stori a hanner a mae Woodhead wedi gwneud gwaith ymchwil tylwyr ar hanes y ‘Criccieth Castle’. Roedd ei mam, Jocelyn Greenway, wedi sgwennu erthygl am hyn yn ol yn y 1950au. Y ffaith i Woodhead ail-ddarganfod erthygl ei mam daniodd dychymyg Woodhead yn ddiweddar i ail-afael yn y stori ac i wneud gwaith ymchwil pellach.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yma yng ngogledd Cymru yw’r cysylltiad lleol, gan fod capten y llong, Robert Thomas, o Gricieth a’i wraig Catherine, o Langybi yn Eifionydd. Anodd credu heddiw wrth ymweld a thref Cricieth, y bwrlwm morwrol oedd yno hyd at ddechrau’r Ugeinfed Ganrif, a mae stori’r ‘Criccieth Castle’ yn perthyn i’r cyfnod yma cyn y Rhyfel Mawr pan oedd pobl LLyn ac Eifionydd yn ‘mynd i’r mor’.

Oherwydd gwaith ymchwil Woodhead, mae’r holl stori, neu rhan go dda o’r stori yn sicr, bellach ar gof a chadw fel llyfr wedi ei gyhoeddi  gan gyhoeddiadau Delfryn. Dwi ddim am darfu ar y stori, a dweud y gwir, y peth gorau i’w wneud os oes gennych unrhyw ddiddordeb yn hyn oll yw cael gafael ar lyfr Woodhead ‘The Loss of the Criccieth Castle, A True Account of Heroism and Survival’.

Dyma chi stori antur teuluol, stori o ddewder ac arwriaeth Capten Robert Thomas, a stori am fam a’i phlentyn yn yn llwyddo i fyw er gwaetha ymdrechion natur a’r mor a hynny yng nghanol Gaeaf yn un o’r llefydd peryclaf yn y Byd. Ym 1912 roedd y teulu cyfan, Catherine a’u plentyn ifanc Bobby ar ffwrdd y llong ‘Criccieth Castle’ gyda Robert yn mynd heibio Cape Horn pan aeth y llong i drafferthion.

Bu rhaid i bawb adael y llong a threulio dros wythnos ar un o’r cychod achub (heb fwyd) gyda mymryn o ddwr nes iddynt gyrraedd dir sych Ynysoedd y Falklands / Malvinas. Gwyrthiol iddynt fyw ac i gadw fynd. Roedd dros 200 milltir rhwng y llongddrylliad a’r ynysoedd.

Rhywbeth diddorol amlinellodd Woodhead yn ystod ei sgwrs yw fod y diffiniad ‘llongddrylliad’ o bosib yn anghywir gan fod hyn yn golygu llong yn taro creigiau neu dir mawr – felly “colli” y Criccieth Castle sydd yn cael ei drafod yma, ac efallai sydd yn ddisgrifiad fwy manwl gywir.

Felly fe achbwyd Thomas a’i deulu yn y diwedd yn Cape Pembroke ond nid dyna ddiwedd y stori o bell ffordd gan i Robert a’r mab Bobby ddychwelyd i’r mor ar gyfer mwy o anturiaethau yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gadewaf ddiwedd y stori ar gyfer llyfr Woodhead ond wrth wrando arni yn rhoi ei sgwrs dyma feddwl ‘Argian dan mi fydda’r stori yma yn gwneud ffilm dda’.







No comments:

Post a Comment