Wrth reswm mae yna ddadl fod cymaint angen ei wneud yma yng
Nghymru mai anghyfrifol yw gwastraffu geiriau yn trin a thrafod rhywbeth dros
Glawdd Offa. Ar y llaw arall, mae dadl, yr un mor ddilys, fod angen ehangu
gorwelion, edrych allan a chael golwg Byd eang ar bethe (y Pethe) Cymraeg a
Chymreig. Beth bynnag yw’r dadleuon, dros Glawdd Offa amdani yr wythnos hon.
Fe sgwennais yn yr Herald Gymraeg (18 Mawrth 2015) am luniau Frank Green o strydoedd Lerpwl, y
strydoedd a adeiladwyd gan Gymry Llyn a Mon. Rhywbeth chafodd ddim ei drafod yn
y golofn am Frank Green oedd y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn
Lerpwl. Rwan, da ni gyd yn gwybod nad yw hyn am ddigwydd. Ond, os oes unrhyw werth
o gwbl crybwyll y “syniad”, a’r syniad yn unig fydd o, y gwerth hyd y gwelaf i
fyddai i herio ychydig ar y Cenedlaetholdeb cul fyddai yn gresynu at y fath
syniad. Mae angen herio.
Beth bynnag yw Lerpwl, nid yw yn dref Seisnig yn yr ystyr
traddodiadol, myn rhai ei bod y dref Geltaidd ei naws, ond yn sicr dyma chi
ddinas sydd wedi arloesi ac arwain yn ddiwylliannol. O’r Beatles i’r Mighty
Wah. O Frankie Goes To Holywood i Echo and the Bunnymen. Dinas sydd yn falch
o’i cherddorion.
Nid cerddoriaeth sydd wedi fy nenu yma y tro yma, er mor hoff
wyf o’r Mighty Wah a Pete Wylie. Rwyf yma ar drywydd Edward Burne-Jones a
William Morris, a mae’r trywydd yn arwain at Allerton ac Eglwys All Hallows.
Eglwys yn null y Gothic Fictoraidd Hwyr, tywodfaen coch tywyll, coed o’u
amgylch. Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1872. Agorwyd yr eglwys peidair mlynedd
yn ddiweddarach.
Wrth i mi gyrraedd yr eglwys yn gymharol blygeiniol (tua 10
y bore) mae’r drysau wedi cau. Ond gallaf weld goleadau tu mewn. Cerddais o
amgylch yr eglwys gan drio pob drws cloedig. Dim lwc. Dyma weld gwr yn cerdded
tuag at yr eglwys a hwnnw yn carrio bag plastig Tescos hefo ‘neges’. Ella fod y
gwr yma yn gwybod rhywbeth felly dyma ofyn os yw’r eglwys ar agor o gwbl ar y
Sadwrn?
“Dewch gyda mi”, meddai’r gwr cyfeillgar a dyma guro ar un
o’r drysau ochrog ac o fewn eiliad mewn a ni wrth i wraig oedranus agos y drws
o’r tu mewn. A dyma lwyth o wragedd yn
trefnu blodau ar gyfer y Pasg, y drws ar glo rhag i ieuenctyd Lerpwl darfu ar
eu heddwch. Ymddieheurais o flaen llaw
nad oeddwn yno i gynorthwyo gyda’r trefnu blodau.
“You seem like a man who knows” medda fi wrth fy nghyfaill
newydd cymwynasgar. “I’m the vicar” oedd ei ateb. Ha, heb ei goler wen, pwy
oedd i wybod, a dyma fo yn ei ‘casuals’ fore Sadwrn ac yn fwy na hapus i mi dreulio
yr awr nesa yn rhyfeddu ar y 14 ffenestr lliw wedi eu cynllunio gan Burne-Jones
a wedi eu gwneud gan gwmni Morris & Co.
Dim ond un ffenestr arall sydd yn yr eglwys sydd ddim yn
gynllun Burne-Jones a hynny oherwydd i Burne Jones wrthod ei chynllunio. Roedd
John Bibby noddwr yr eglwys am gael ffenestr goffa i’w feibion Saul a Jonathan
a fu farw yn ifanc a’r rheswm a roddwyd gan Burne-Jones dros wrthod cais Bibby
oedd fod yr holl beth rhy llwm a thrist ac oherwydd hynny yn ‘gelf drwg’.
Gwraig Bibby oedd merch i Jesse Hartley, y periannydd adeiladodd Doc Albert a
agorwyd ym 1840 ac er cof iddi hi yr adeiladodd Bibby yr eglwys yma.
Rwyf wedi cyfeirio dro yn ol yn yr Herald at Eglwys Sant
Deiniol, Penarlag lle mae rhai o ffenestri gorau Burne-Jones yng ngogledd
Cymru, a’r peth pwysicaf efallai am eglwys Sant Deiniol yw mai yno mae comisiwn
olaf Burne-Jones, ffenestr a gomisiynwyd gan ei ffrind Gladstone. Efallai mai’r
peth pwysicaf am eglwys All Hallows yw mai yma mae’r ffnenestr sydd, ym marn
Burne-Jones ei hyn, y ffenestr orau iddo erioed ei chynllunio.
Hon yw’r ffenestr ddywreiniol yn y gangell. Ffenestr yn
llythrennol heb ei hail, achos am unwaith mae’r cynllun yn unigryw. Fel arfer
gyda cynlluniau (cartwns) Burne-Jones a chynlluniau Morris & Co roedd hi’n
arferol iawn i ail-adrodd ac ail-ddefnyddio’r un cynlluniau mewn gwahanol
eglwysi. Wrth edrych ar y ffenestr orllewinnol yn All Hallows gwelwn ffrwythau
William Morris sydd bron yn union yr un fath a’r ffenestr ffrwythau yn Eglwys
Sant Cybi yng Nghaergybi – engraifft gwych o’r ail-adrodd / ail-ddefnydd yma.
Anodd anghytuno a Burne-Jones, mae’r ffenestr ddywrieniol yn
drawidaol, gyda’r pedair afon yn llifo drwy’r gwydr yn ganolig a’r anifeiliaid diethr,
bygythiol, adeiniog, bron yn fytholegol,
yn teyrnasu dros y delweddau. Cawn ffenestri hyfryd wedyn ar yr adain
ogleddol a ddeheuol, yn uchel ac wyth ffenestr llai, wedi eu rhannu yn bedair
nail ochr i gorff yr eglwys.
Dewlweddau cyn-Raffaelaidd heb os, yn lliwgar a hyfryd. Cawn
Crist yn cael ei fedyddio, yn swpera gyda’r gwr cyfoethog, y croeshoeli a’r
atgyfodiad. Un o fy hoff ffenestri yma yw’r angylion yn amlygu eu hunnain i’r
bugeiliaid. Eto mae’r naws cyn-Raffaelaidd yna yn hyfryd. Dyma chi waith celf,
yn ysbrydoli ac yn rhoi mwynhad.
Os yw eglwys Sant Deiniol ym Mhenarlag yn fendigedig ac
werth ei hymweld, mae All Hallows yn siop fferins o gymhariaeth i unrhyw
ddilynwyr o gelf Burne-Jones. Undegpedwar ffenestr hynod, bendigedig, hyfryd,
hyfryd, hyfryd. Dyma Burne-Jones yn agosach at y Nefoedd nac erioed.