Wednesday 19 November 2014

Ffenestri Burne-Jones, Herald Gymraeg 19 Tachwedd 2014


 


 
 

 
Rwyf wedi sgwennu sawl gwaith am ffenestr hyfryd Burne-Jones yn eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan. Yr wyf wedi ymwled ag Eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan ddwsinau o weithiau i weld y ffenestr hyfryd yma. Rwyf wedi dysgu’r hanes o lyfr Matthew am stori’r lili a fod Duw yn edrych ar ȏl y rhai sydd angen.

Felly dipyn o “sioc” oedd darllen gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (stainedglass.llgc.org.uk) a gweld fod Martin Crampin (awdur y llyfr Stained Glass from Welsh Churches, gwasg y Lolfa) wedi nodi mae cynllun gan George Measures Parlby sydd i’r ffenestr hon a nid Burne-Jones.

Wedi ei chreu ym 1885 gan gwmni Ward & Hughes, does dim cysylltiad felly a Morris & Co na Burne-Jones. Mewn ffordd does dim gormod o ots, mae’n parhau i fod yn ffenestr drawiadol yng nghangell St Margaret’s ochr yn ochr a phedair ffenestr gan O’Connor ac un arall gan Ward & Hughes,  heb anghofio’r ffenestr ddywrieniol hyfryd gan O’Connor.

Ond roedd rhywun wedi amau yndoedd. Ar ȏl pob ymweliad, roedd rhyw fymryn mwy o amheuaeth, doedd y cartŵns fel y gelwir y lluniau, ddim yn rhai amlwg gyn-Raffaelaidd o ran eu harddyll. Rhywsut mae’n gysur mae ffenestr Ward & Hughes yw hon wedi’r cwbl. Byddaf yn parhau i ddychweld i’r Eglwys Famor, yn parhau i fwynhau, ond ddim yn disgwyl Burne-Jones yno byth eto.

Os am weld ffenestri Burne-Jones ar eu gorau yma yng ngogledd Cymru, efallai mae Eglwys Sant Deiniol ym Mhenarlag yw’r lle i fynd. Os amserwch eich hymweliad yn iawn cewch fynd drws nesa i Lyfrgell Gladstone am eich panad.

Oherwydd difrod yn ystod y Rhyfel Gartref, does dim ffenestri canoloesol wedi goroesi yn eglwys Sant Deiniol ond mae gennym chwech ffenestr gan Burne-Jones. Mae ffenestri eraill yma gan William Wailes yn dyddio i’r 1850au ac un arall gan Edward Frampton yn dangos Sant Gregory (1897).

Y cysylltiad ac Ewart Gladstone, prifweinidog,  a’i gyfeillgarwch a Burne-Jones sydd yn esbonio pam fod yr holl ffenestri  gan Burne-Jones yma. Roedd Burne-Jones yn ymwelydd cyson a Chastell Penarlag. Diddorol a dweud y gwir yw olrain hanes y byd creadigol yn y cyfnod Fictoriadd. Beirdd a llenorion ac arlunwyr yn troi yn yr un cylchoedd. Byd bach, pawb yn adnabod eu gilydd a cymeriadau fel William Morris a Dante Gabriel Rossetti yn gweithredu fel catalyddion yn dod a ‘r credigol at eu gilydd.

Oddifewn i Eglwys Sant Deiniol cawn weld cofeb Ewart Gladstone a’i wraig Catherine, er fod y ddau wedi eu claddu yn Abaty Westminster, yn ȏl y son, yr unig wleiddydd yno wedi ei gladdu gyda ei wraig. Ffenestri gan William Blake Richmond sydd yn y capel coffa i Gladstone.

Y ffenestr fawr ar wal orllewinol corff yr eglwys yw’r olaf i Burne-Jones ei gynllunio cyn ei farwolaeth ym 1898. Ffenestr goffa i Gladstone a’i wraig Catherine yw hon wedi ei roi i’r eglwys gan blant Gladstone.

Mae’r ffenestri eraill (o’r cyfnod 1907-13) yn gynlluniau Burne-Jones drwy gwmni Morris & Co sydd yn dyddio ar ȏl marwolaeth Burne-Jones. Fel nodai Crampin yn ei lyfr, mae hyn yn dangos pam mor boblogaidd oedd cynlluniau Burne-Jones hyd yn oed ar ol ei farwolaeth

Ond yr hyn sydd  yn hollol amlwg gyda’r chwech ffenestr ym Mhenarlag, sef y pedair ffenestr ochr a’r ddwy fawr – dwyreiniol a gorllewinol, yw fod y ffigyrau / cymeriadau yn rhai amlwg yn yr arddull cyn-Raffaelaidd. Dyma’r gwahaniaeth mawr gyda ffenestr Ward & Hughes ym Modelwyddan, does dim cymhariaeth go iawn.

Gyda cymeriadau a chynlluniau Burne-Jones cawn ein cludo i arall-fyd, mae’r lliwiau yn fwy arall fydol, llai real. Mae’r cartŵns yn debycach i gartŵns comic. Hawdd fyddai treulio oriau yn gwneud dim mwy na syllu ar pob un o’r ffenestri yma yn eu tro. Heb os mae rhain yn ddarnau o gelf, cystal a llun. Rwyf yn ffan mawr o waith JMW Turner a Richard Wilson (sef eu tirluniau Cymreig) ond er mor wahanol mae ffenestri Burne-Jones yr un mor bleserus i’w hastudio ac i fyfyrio o’u blaen.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi ymweld ag Eglwys Sant Deiniol. Nid dyma fydd y tro olaf. Y mwyaf o amser mae rhywun yn dreulio mewn hen adeilad, neu mewn eglwys, neu gyda gwaith celf, y mwyaf mae rhywun yn dod i werthfawrogi yr hyn sydd o’n blaen. Byddaf yn aml yn cymhauru hyn a dysgu Iaith newydd. Rhaid wrth “eirfa” os am gael gwerth eich harian. Rhaid ymdrechu i ddysgu er mwyn gwella’r profiad – a’r gwerthfawrogiad.

Rhywbeth arall rwyf wedi ei grwybwyll yn ddiweddar yw fod ceisio dadansoddi a gwerthfawrogi diwylliant Cymreig heb yr Iaith Gymraeg fel gwylio teledu du a gwyn. Hyd yn oed os am astudio ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag, siawns bydd yr Iaith Gymraeg o ddefnydd yn rhywle. Gyda’r Iaith Gymraeg mae gennym sgrin deledu HD yndoes – llun clir, darlun llawr, sgrin lydan, y modd i gael gwerth ein harian.

Rhywsut neu’i gilydd mae angen cyflwyno’r neges yma i’n cyfellion, cymdogion, cyd-weithwyr di-Gymraeg. Pa wrth teledu du a gwyn yn 2014? Ac er mor ddiflas yw’r ystrydeb fod disgwyl i bobl ddysgu Ffrangeg os am fyw yn Ffrainc, neu os am werthfawrogi bywyd Ffrengig – mae’n hollol, hollol amlwg yntydi.

Parhau i chwilota dow dow yr wyf am hanes y cyn-Raffaeliaid yng Nghymru. Dwi heb glywed am arlunydd Cymreig neu Gymraeg oedd yn rhan (hyd yn oed ymylol) o’r frawdolaeth cyntaf neu’r ailo’r cyn-Raffaeliaid. Does dim modd gor ganmol ffenestri Burne-Jones ym Mhenarlag.
 

 

 

No comments:

Post a Comment