Saturday 1 November 2014

Cofio John Peel Herald Gymraeg 29 Hydref 2014


 

Felly mae hi’n ddeng mlynedd ers marwoleth John Peel, neu John Robert Parker Ravenscroft o ran ei enw go iawn. Troellwr recordiau, DJ, cyflwynydd radio ar BBC Radio 1, BBC Radio 4, a llawer mwy wrthgrws, ond fel cyflwynydd y John Peel Show yn hwyr y nos bydd y ran fwyaf ohonnom yn ei gofio.

            Yn wir mae cenhedlaeth gyfan ohonnom oedd, ar un adeg, yn gwrando ar Peel bob nos, roedd ei raglen mor hanfodol a hynny. Dyma lle roedd rhwyun yn clywed caneuon newydd gan grwpiau newydd, dyma oedd ein haddysg cerddorol (hyn a’r NME). Fe holwyd mi yn ddiweddar ar rhaglen Eleri Sion ar BBC Radio Wales “beth fydda fy swydd ddelfrydol?” Am eiliad fedrwn i ddim ateb, wedi’r cyfan rwyf yn gwenud yr union beth rwyf yn ddymuno, yn cael sgwennu, yn ymwneud ar byd archaeolegol Cymreig, yn cael gweithio hefo artistiaid a cherddorion.

            Ond, ar ȏl eiliad i feddwl, dyma ateb, efallai gwneud yr un peth a John Peel, yr ateb roddais oedd dychmygwch fod y cyntaf i chwarae ‘Love Will Tear Us Apart’ gan Joy Division ar y radio. Does fawr all guro hunna. Bu i mi gyfarfod Peel sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fyddwn’i ddim yn disgrifio’r berthynas fel cyfeillgarwch, doedd Peel ddim yn un am agosau atoch ormod, efallai effaith ysgol fonedd, ond roedd y ddau ohonnom yn deall beth oedd yn digwydd. Dyma gerddoriaeth tanddaearol Cymraeg, Mr Peel.

            Y tro cyntaf i John Peel ffonio’r tŷ, fy nhad atebodd y ffȏn a gweiddi arnaf, “mae John Peel ar y ffȏn i ti”. Hyn tua 1982, a finnau yn meddwl mae rhywun o’r Coleg oedd yn tynnu coes. Ond doedd dim modd peidio adnabod llais Peel, fo oedd o, yn barod i chwarae cân Gymraeg ac angen cyngor ar sut i ynganu’r gair cyn mynd ar yr awyr. Bu hyn yn alwad ffȏn rheolaidd am flynyddoedd wedyn.

            Tua 11-15pm, ffȏn yn canu,  “how do you say LLwybr Llaethog?”, fydda na ddim “hello, its John here”, doedd dim amser i hynny, bydda’i Peel jest yn gofyn “how do you say ……..” a wedyn yn ynganu’r gair bron yn berffaith ar Radio 1, o flaen cynnulleidfa o filoedd. Dim ond fi a Gorwel Owen oedd yn gwybod hyn, byddai Gorwel yn cael galwadau tebyg yn y cyfnod yma.

            Ond beth oedd arwyddocad hyn i grwpiau Cymraeg? Bu cyfnod yn ystod yr 1980au pan roedd grwpiau fel Datblygu, Elfyn Presli, Tynal Tywyll, Y Fflaps, Plant Bach Ofnus yn cael eu chwarae yn rheolaidd gan John Peel. Y “myth” yw fod Radio Cymru yn gwrthod chwarae y grwpiau newydd tanddaearol Cymraeg. Roedd mymryn o wir yn hyn, yn bennaf oherwydd un cynhyrchydd oedd yn credu fod rhaid i grwpiau swnio fel The Eagles i gyrraedd y safon angenrheidiol i gael eu darlledu.

            Dwi’n dweud “myth” achos roedd grwpiau fel Anhrefn, Cyrff a Tynal Tywyll yn cael eu chware ar Radio Cymru ond yn sicr bu amharodrwydd i dderbyn y grwpiau mwy arbrofol fel Datblygu a’r Fflaps gan gynhyrchwyr BBC Radio Cymru. Ond, yn fwy diddorol byth, beth waneth Peel drwy roi y fath sylw i’r grwpiau tanddaearol Cymraeg oedd dod a nhw i sylw cynulleidfa newydd a chynulleidfa ehangach.

            Yn sydun iawn doedd cael eich chwarae ar Radio Cymru ddim mor bwysig a hynny. A dweud y gwir nid dyna cynulleidfa Datblygu neu’r Fflaps ac i raddau helaeth nid dyna oedd cynulleidfa’r Anhrefn a’r Cyrff chwaith. Wrth ddechrau canu o flaen cynulleidfaoedd di-Gymraeg led led Cymru, o Fae Colwyn i Gasnewydd dyma sylweddoli fod mwy i hyn na gigs yn y Steddod ac ambell raglen ar S4C. Roedd y cyfnod yma yn un o gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaeodd Cymoedd y De, y trefi ȏl-ddiwydiannol yn y Rhondda, yng Ngwm Nedd ac yn Abertawe. Heb John Peel, fydda neb yn Porth neu Treorci wedi clywed am yr Anhrefn neu’r Cyrff.

            Felly roedd cael eich chwarae gan John Peel yn beth mawr, roedd cael ei sel bendith yn beth mawr, ond roedd y cyrrhaeddiad yn newid popeth. Cofiaf yn iawn sut roedd cynulleidfaoedd Newcastle neu Bryste neu Birmingham yn trio eu gorau i ganu hefo ni, “we heard you on John Peel” oedd hi bob tro, “we love that song about Moscow” neu beth bynnag. Doniol. Diddorol.

            O ran ‘Y Greal Sanctaidd’, y peth mwya, y sêl bendith mwya, oedd cael recordio sesiwn i rhaglen John Peel, “Peel Session”, fel roeddynt yn cael eu galw. Hefo hyn, y cynhyrchydd John Walters oedd yn ffonio. Munud bydda rhywun yn clywed llais Walters ar y ffȏn bydda rhywun yn gwybod – dyma ni, Peel Session arall i rhywun.

            Fe recordiais dri ohonnynt yn stiwdios  Maida Vale hefo’r Anhrefn, fe fu’r Fflaps a Plant Bach Ofnus lawr i recordio sesiwn, Llwybr Llaethog sawl gwaith a Datblygu fwy na neb. Yn ddiweddarch yn y 1990au cafwyd cefnogaeth pellach gan John Peel i grwpiau fel Topper a Melys.

            Anodd credu heddiw, yn oes soundcloud, BBC 6 Music a’r holl raglenni sydd ar C2 fod dylanwad un troellwr yn gallu bod mor bell gyrrhaeddol. Y fantais pryd hynny mae’n debyg oedd fod llai o ddewis rhaglenni felly mwy o ffocws ar rhaglen John Peel. Heddiw mae grwpiau Cymreig yn cael eu chwarae yn rheolaidd ar 6 Music ond does dim yr un ffocws.

            Anodd credu heddiw, fod BBC Radio 1 wedi rhoi mwy o sesiynau i grwpiau fel Datblygu na wnaeth Radio Cymru erioed. Oes arall ………

No comments:

Post a Comment