Wednesday 17 September 2014

STOP DOLBEBIN Herald Gymraeg 17 Medi 2014.


 

Yn y de mae nhw ’di clirio cymaint o’r tomenni glo, fe allwch yrru heibio Merthyr bellach heb sylweddoli beth oedd cefndir diwydiannol y dref o ran yr hyn sydd ar ȏl yn y dirwedd. Wrth gwrs yn dilyn trychineb Aberfan, mae rhywun hefyd yn deall pam fod rhaid clirio tomenni glo mewn rhai sefyllfeydd.

Sefyllfa ddipyn gwahanol sydd yng ngogledd Cymru. Blaenau Ffestiniog wedi ei neilltuo o’r Parc Cenedlaethol, trefi Llanberis a Bethesda felly hefyd – gormod o domenni llechi. Ond siawns nad oes harddwch i’r tomenni. Byddaf wrth fy modd gyda’r modd mae tomenni Dinorwig yn ymestyn fel petalau blodyn tua Nant Peris a’r siapiau hyfryd sydd i’w gweld ar lethrau Moel Tryfan wrth i’r llechi lonyddu ar yr ongl naturiol hynny sydd i’w gael gyda unrhyw sgri.

Ond yn ogystal a’r harddwch artistig sydd i’r ‘gwastraff’, y 90% oedd yn anaddas ar gyfer llechi tȏ, mae arwyddocad arall sydd yn llawer fwy pell gyrrhaeddol i’r hen domenni yma. Fel gyda unrhyw safle archaeolegol arall – dyma ein cysylltiad a’r gorffennol a’r ‘hen bobl’. Neu i fod yn fwy manwl gywir wrth drafod chwareli llechi Eryri – dyma gysylltiad a’n cyn dadau neu deidiau.

Yn wir i nifer fawr ohonnom – dyma gysylltiad a’r teidiau – gan fod ein taid neu teidiau yn llythrennol wedi gweithio yn y chwareli llechi. Petae rhywun yn awgrymu troi y dirwedd yn ȏl i’w ffurf naturiol mynyddig gwreiddiol, mae’n debyg byddai’r archaeolegydd ynddof yn gwrthwynebu’r fath syniad.

Dyma archaeoleg diwydiannol – y tyllau chwarel, y tomenni llechi, y gwalia a’r siediau, yr inclêns ac unrhywbeth arall gafodd ei adael ar ȏl gan y chwarelwrs. Harddwch welaf i wrth yrru i mewn i dref Blaenau Ffestiniog neu wrth yrru i lawr Nant Peris. Balchder rwyf yn deimlo wrth yrru drwy’r dirwedd yma – balchder o fod yn ‘perthyn’ a hefyd ymwybyddiaeth fod y bobl yma, disgynyddion y chwarelwrs hefyd yn bobl balch – hyd yn oed os yn dlawd a difreintedig a di-waith ac yn parhau i ddioddef sgil effeithiau Mrs Thatcher yr holl flynyddoedd yn ȏl.

A dyma fi, ychydig ddyddiau yn ȏl ar noswyl hyfryd o Fedi yn sefyll ar ben tomen Chwarel Dolbebin, Dyffryn Nantlle. Edrychaf i lawr ar stad cyngor Bro Sulyn. Edrychaf draw wedyn am chwarel Pen yr Orsedd ac i fyny am Mynydd Mawr a’r Wyddfa bell. Dyma chi le heddychlon, awyr iach, fawr o sŵn y byd heblaw am ieuenctyd Bro Sulyn yn cicio pel yn y maes chwarae i lawr wrth droed y domen. Dyma chi braf.

Ardal Gymraeg yw Dyffryn Nantlle, ardal o harddwch naturiol – ac wrthgwrs fod yr harddwch yna yn ‘eithriadol’ hefyd – does dim angen label ar y dyffryn yma. Rydym yn ardal Kate Roberts i bob pwrpas – dros Moel Tryfan a dyma chi yng Nghae’r Gors, tafliad carreg fel mae nhw’n dweud. Rydym mewn ardal a chysylltiad a’r Mabinogi. Rydym yn agos i un o lysoedd tywysogion Gwynedd – rhywle ochrau Baladeulyn o bosib.

Ar ben y domen mae olion oleiaf tri os nad pedwar o’r hen ‘gwalia’, y cytiau tair ochr oedd yn rhoi lloches i’r chwarelwrs wrth iddynt hollti llechi. Eto dyma archaeoleg diwydiannol. Rwyf wrth fy modd yn tynnu lluniau ac yn dychmygu pwy oedd yn gweithio yma a sut fywyd oedd ganddynt, yn ȏl yn y dydd.
 

Rwyf yma mewn cwmni da. Rwyf yma i ddysgu. Rwyf yng nghwmni aelodau o’r ymgyrch i atal chwalu’r domen. Mae cynllun ger bron Cyngor Gwynedd i gael gwared a’r domen ac i ddefnyddio’r llechi fel cerrig mân, Ar yr olwg gyntaf, byddai’r dyn cyffredin yn meddwl, dim o’i le a hynny – mae hyn wedi digwydd yn barod ar ochr orllewinnol Mynydd Cilgwyn – tomen gyfan wedi diflannu. Y mynydd yn ȏl fel yr oedd.

Ond i’r archaeolegydd diwydiannol fe ddylia hyn fod yn fater o bryder. Rydym yn son yma am gael gwared a thystiolaeth archaeolegol, am gael gwared a rhan o’n treftadaeth. Wrthgwrs mae digon o domenni eraill o gwmpas y lle, mae digon o engreifftiau o ‘gwalia’ i’w cael. Eto mae gwaith yn chwarel pen yr Orsedd yn brysur ddinistrio’r archaeoleg – ond mae’n creu gwaith – mae’n beth da i’r economi leol – yntydi ?

Dydi’r ddadl yma ddim yn gweithio cystal yn Dolbebin. Ger llaw mae canolfan marchogaeth, yn sicr mae hwn yn dafliad carreg go iawn i’r hen domen. Ger llaw mae canolfan breswyl i gerddwyr – mae hon yn edrych draw dros y domen. Islaw, eto tafliad carreg mae Bro Sulyn – hynny yw cartrefi pobl. Islaw mae’r cae chwarae – dyna lle clywais swn y plant yn chwarae, dyna lle roedd y plant yn cicio eu pel.

Canlyniad clirio tomen Dolbebin fydd creu ychydig swyddi gan ddinistrio swyddi sydd yn bodoli yn barod – pa obaith wedyn i’r ganolfan marchogaeth neu’r ganolfan breswyl. Bydd y llechi yn cael eu malu ar y safle – bydd y llwch yn ddigon i fygu unrhyw gerddwr neu geffyl. Bydd y llwch yn ddigon i ymharu ar yr olygfa hyfryd honno draw ar hyd ddyffryn Nantlle am yr Wyddfa.

Ond yn waeth na hynny bydd yr holl loriau yn trawsnewid Talysarn o fod yn bentref gwledig ol-ddiwydiannol i fod yn safle gwaith llychlyd a swnllyd – loriau mawr yn cario llechi fydd ond yn gallu mynd allan o’r dyffryn drwy bentref cul Penygroes.

Ond yn waeth na hyn oll, o golli’r archaeoleg, o ymharu ar yr harddwch a’r tawelwch – oes unrhywun wedi meddwl am y plant bach yna a’u cae chwarae? Oes unrhywun wedi meddwl am oblygiagau’r llwch ar eu heichyd? Gwybodaeth ar y we ‘Stop Dolbebin’.
 
 

No comments:

Post a Comment