Thursday 11 September 2014

@ArtFreedomWales Herald Gymraeg 10 Medi 2014.


 

Go brin fod angen unrhyw un, nac unrhyw gyfrwng i’n hatgoffa ein bod yn byw mewn lle cymhleth iawn, a gyda “lle” rwyf yn sȏn am Gymru wrthgwrs. Wedi ei rannu yn ddaearyddol – de / gogledd a’r darn yna yn y canol does neb yn sȏn amdano. (Steddfod yna flwyddyn nesa gyda llaw – yn ȏl i Meifod yng ngwyrddni Mwynder Maldwyn).

            Does dim modd osgoi y rhaniad ieithyddol, byd Kate Roberts a byd Dylan Thomas, iaith y wlad a’r gorllewin gwyllt ac iaith y cymmoedd a’r dinasoedd mawr - (esgob mawr dyna or-gyffredinoli).  Ond dwi’n siwr eich bod yn dallt be dwi’n drio ddweud neu yn weddol ymwybodol o hyn oll.

            Y rhaniad diweddaraf i’n heffeithio yng Nghymru, fel pob man arall, yw’r un sydd wedi ei greu gan dechnoleg – y rhai sydd yn gallu derbyn ebyst ac yn defnyddio ffȏn symudol – a’r rheini sydd yn ymwrthod, neu’n methu ymdopi a thechnoleg newydd. Rwyf yn adnabod ambell ‘Luddite’ Cymraeg eu hiaith sydd yn byw yn hapus heb na ffȏn symudol nac ebost a braf neu gwyn eu byd ddyweda’i. Ond ar y cyfan dyddiau yma, mae pawb i’w weld yn weddol hapus hefo ebyst a defnydd o’r we.

            Lle mae’r ffîn yn fwy amlwg, yw rhwng y rhai sydd yn fodlon ymuno yn y byd cyfryngau cymdeithasol ac y rhai sydd, am bob math o resymau, yn ymwrthod. Rwyf yn dilyn a defnyddio trydar, yn bennaf fel ffynhonnell wybodaeth a newyddion ac ar gyfer hysbysebu digwyddiadau a rhannu gwybodaeth. Yn ddyddiol, mae nifer o storiau archaeolegol yn ymddangos ar trydar, fyddai fel arall byth wedi dod i’m sylw, ac wrthgwrs mae trydar yn y Gymraeg yn fyw ac iach ac yn fwrlwm o wybodaeth a thrafodaeth.

            Y fantais fawr hefo trydar yw ein bod yn dewis pwy i’w ddilyn. Os ydynt yn ddiflas neu yn amherthnasol, hawdd iawn rhoi clic ar ‘Unfollow’. Ac os ydynt yn troi yn gâs neu yn annymunol – unwaith eto – digon hawdd eu dad-ddilyn. Fel arall, eto gan or-gyffredinoli, mae byd trydar yn gallu bod yn le difyr, yn ffynnhonnel bwysig o newyddion ac yn fodd o gadw mewn cysylltiad a’r byd gor-gyflym yma rydym yn byw ynddo.

Ychydig yn ȏl dyma safle newydd yn ymddangos ar trydar – un o’r enw ‘Art Freedom Wales’ (@ArtFreedomWales). Felly gyda diddordeb mawr dyma ddechrau eu dilyn. Hyd yma mae dwy sgwrs wedi eu ffilmio a’u gosod i fyny ar YouTube, un yn Saesneg ac un yn Gymraeg. Ffurf y sgwrs yw panel o bedwar yn trafod ‘mynegi barn yng Nghymru’  a’r rhyddid (neu ddim) a’r rhwystrau ynghlwm a hynny. Rydym yn son am fynegi barn am y byd celfyddydol Cymreig yn y cyd-destyn yma.

Y panelwyr ar gyfer y sgwrs gyntaf (Saesneg) yw Lisa Jen o’r grwp 9Bach, y dramodydd Tim Price, y ffotograffydd Leah Crossley a’r bardd a’r awdur Kathryn Gray. Tindroi o amgylch yr Iaith Gymraeg mae eu sgwrs. Rydym wedi clywed a thrafod hyn o’r blaen hyd at syrffed. Efallai mae’r ateb syml, ar un sydd byth yn cael ei ddweud yn blaen rhag pechu, yw fod angen i’r di-Gymraeg wneud llai o esgusion, magu mwy o hyder am eu Cymreigtod – a dysgu’r bali Iaith ! Does dim modd osgoi hyn, dim ond drwy ddysgu Cymraeg mae modd cyfoethogi’r profiad o fyw yng Nghymru.

Mae peidio dysgu Cymraeg a byw yng Nghymru chydig bach fel mynd am dro yn y car drwy Eryri a gwrthod edrych drwy’r ffenestr a gwerthfawrogi’r golygfeydd. Fel mynd i Cegin Bryn a a peidio bwyta - rwyf yn mawr obeithio bydd Art Freedom Wales yn ymestyn y drafodaeth.
Sgwrs 1

Sgwrs 2 

No comments:

Post a Comment