Tuesday 12 August 2014

Peter Lord @ Plas Glyn y Weddw. Herald Gymraeg 13 Awst 2014


Dr Robyn Lewis yn trafod Meini Pemprys.

Os cofiwch i mi sȏn yn gynharach eleni am y Mostyn yn Llandudno, fe awgrymais fod yr awyrgylch yn fwy “Ewropeaidd” bron, nid fod hynny yn beth drwg o reidrwydd / o bell ffordd, ond os am oriel lle does dim amheuaeth o gwbl o ran y naws am le – ewch am oriel Plas Glyn y Weddw.    

Dyma ni, ‘Cymreig’ heb os, Llanbedrog, Pen Llŷn, Meini Pemprys, Elsi Eldridge, llestri Nantgarw, pawb yn siarad Cymraeg yn y caffi (rhagorol) – dwi ddim yn amau mae hwn di’r lle am banad a chelf ar bnawn Dydd Sul. A dyma ni yno Sul dwetha ar gyfer sgwrs gan Peter Lord fel rhan o gyfres o sgyrsiau ‘Y Darlun Mawr’.

Rwan Peter Lord yw “Mr Hanes Celf yng Nghymru” neu “Mr Hanes Celf Cymreig” – dyma chi ddyn fydda ni yn ei ddisgrifio fel rhywun sydd yn “gwbod i stwff”. Cawn awr fyrlymys gan Lord yn olrhain hanes y derwydd a’r bardd mewn lluniau a does dim dwy waith fod y cyd- destyn ehangach gwleidyddol yn chwarae rhan bwysig yn ymddangosiadau’r derwydd / bardd.
 

O ran arwyddocad, efallai mae’r derwydd / bardd yw’r “cysylltiad” gyda’r brodorion gwreiddiol ar Ynys Prydain – cyn y Sacsoniaid / Normaniaid  / Saeson bellach, (nid fod y fath beth a brodorion go iawn yma ym Mhrydain gan fod pawb yn fewnfudwyr ar ȏl Oes yr Iâ chwedl Dr Eurwyn William). Neu efallai y dyliwn ofyn brodorion ers pryd? – fod rhai yma o flaen y lleill – di’r ots?

Mae Lord yn crybwyll yr angen yma dros y blynyddoedd i gysylltu ac oes well a fu, yn sicr felly yn y cyfnod ‘Rhamantaidd’ lle mae cawlach o ddelweddau gan artistiaid y cyfnod yn cynnwys Cȏr y Cewri a’r derwyddon heb unrhyw grybwyll o’r cyfnodau archaeolegol perthnasol. Mae’r angen yn dal hefo ni.

Mae Iolo Morganwg yn cael ei drafod, oes modd ei osgoi gofynnwn, a mae delwedd Henry Rowlands o’r drewydd (Mona Antiqua Restaurata 1723) yn gwneud ymddangosiad ac am y tro cyntaf rwyf yn clywed o ble cafodd Rowlands fenthyg ei ddelwedd cyn ychwanegu’r sandals !
 
 




 
 

Ac wrthgwrs mae hanes y bardd olaf yn lladd ei hyn rhag i filwyr Edward I ei ddal yn allweddol yn hyn ȏll. Boed hon yn stori wir neu ddim, dyma sail i lun Thomas Jones ‘The Bard’ 1774, sydd yn ei dro wedi ei ybrydoli gan gerdd Thomas Grey (1757) ‘The Last Bard’. A’r llun dan sylw gan Lord oedd llun William Jones ‘The Bard’ 1819. Pawb yn dilyn eu gilydd – yr un ddelwedd yn cael ei ail-adrodd, ail-gylchu, ail-ddehongli, ail ddefnyddio.

Un peth oedd yn hollol amlwg yng nghanol bwrlwm Peter Lord oedd fod angen i ni wneud ein gwaith cartref, dysgu’r eirfa, dysgu am ein harlunwyr Cymreig – does dim modd dilyn hyn ȏll heb ddipyn o wybodaeth cefndir. Mae Lord yn gwybod cymaint o “stwff” fel bod rhaid gwneud eich gwaith cartref. Ond efallai dyna’r her – i ni fod yn barod i ddysgu mwy am gelf Cymreig.

 Ac i gadw cyd-bwysedd – mae angen dipyn o awyrgylch ‘Ewropeaidd’ arnom hefyd – edrych allan yn hytrach na mewn !

 

No comments:

Post a Comment