Wednesday 6 August 2014

Elsi Eldridge @ Amgueddfa Gwynedd, Herald Gymraeg 6 Awst 2014.


 

 

Yng Ngŵyl Latitude yn ddiweddar ymunodd y cynllunydd ffasiwn, Vivienne Westwood gyda’r ymgyrchydd Greenpeace Frank Heweston, (un o rheini a garcharwyd yn Rwsia) i drafod neu yn wîr i awgrymu 10 ffordd o wneud y Byd yn well lle. Rwan, yn amlwg, roedd hyn yn rhan o ‘adloniant’ yr ŵyl ond fel awgrymwyd yn y cylchgrawn i-D fe heriwyd ac addysgwyd y gynulleidfa hefyd – yn ogystal a’u diddanu.

            Un pwynt diddorol iawn a gynnigwyd oedd “Ewch i Orielau Celf, mae hyn yn rhad ac am ddim ac yn fodd i chi gysylltu a’r byd”. Efallai byddai rhywun yn disgwyl datganiad  ‘celfyddydol’ gan Vivienne Westwood ond y mwya mae rhywun yn meddwl am beth mae hi yn awgrymu, y mwya mae rhywun yn gweld y synnwyr yn y datganiad yma.

            Yn ddiweddar bu’m ddigon ffodus i glywed Trevor Fishlock yn rhoi sgwrs am ei lyfr diweddara “A Gift of Sunlight, The fortune and quest of the Davies sisters of Llandinam”. Flynyddoedd maith yn ȏl, bu i mi ffilmio eitem am Gwilym Cowlyd ac Arwest Glan Geirionydd ger Llyn Geirionydd ar gyfer ei raglen deledu. Doedd o ddim yn fy nghofio!

            Fe ddechreuodd ei sgwrs drwy drafod y llun ‘La Parisienne’ 1874 gan Pierre-Auguste Renoir. Dyma un o’r lluniau o gasgliad Gwendoline Davies a roddwyd i’r Amgeuddfa Genedlaethol ym 1951. Be wnaeth Fishlock wrth ddangos y llun oedd dechrau dadansoddi ac egluro nodweddion penodol o fewn y llun. Daeth y llun y fyw  - yn fwy byw – nid ar yr olwg gyntaf mae gwerthfawrogi llun o’r fath yn ei lawn ogoniant. Wrthgwrs mae’r ferch yn y wisg glas yn drawiadol a mae rhywun yn ymwybodol mae Renoir yw’r arlunydd, ond drwy ddeall y peth yn well mae rhywun yn llwyddo i gael mwy o bleser – dyna’r pwynt yma, rhaid wrth addysg, rhaid edrych yn ddyfnach, rhaid ein bod gyda’r awydd i ddeall yn well.

            Llun arall a ddangoswyd gan Fishlock yn ystod ei sgwrs oedd llun o David Davies, Llandinam gan Ford Madox Brown, eto o’r un flwyddyn, 1874. Roedd Madox Brown yn un o gyfoedion ac un o gyfeillion Holman Hunt, Millais a Rossetti – y Cyn-Raffaeliaid. Diddorol iawn oedd gwylio rhaglen portread Hywel Teifi Edwards ychydig ddydiau yn ȏl ar S4C, rhaglen rhagorol gyda llaw, ac yn ystod y rhaglen, dyma Hywel Teifi yn crybwyll agweddau digon amheus David Davies tuag at yr Iaith Gymraeg. Beth feddyliwn felly am David Davies Llandinam? – mae’n debyg fod rhaid ystyried hyn yng nghyd-destyn yr oes roedd o yn byw ynddi, fel sydd yn rhaid mor aml wrth drin a thrafod Lloyd George.

            Yr wythnos hon agorwyd arddangosfa newydd ‘Mildred E. Eldridge’ yn  Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Hi, fel da ni’n dweud bob tro oedd “Mrs R.S Thomas”, ond dyma chi her a osodwyd ar y noson agoriadol gan yr Amgueddfa – onid yw hi bellach yn amser i bobl ddechrau darganfod am R.S drwy gelf Elsi yn hytrach na chlywed am Elsi ar ȏl darllen barddoniaeth R.S?
 

            Fel gyda ‘La Parisienne’, y mwyaf mae rhywun yn astudio o waith Elsi, y mwya mae rhywun yn dod i werthfawrogi’r lluniau. Eto, does dim dwy waith fod Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi bod yn brysur yn codi’r ymwybyddiaeth o waith Elsi dros y blynyddoedd diweddar. Ac eto, dyma ofyn yr un cwestiwn, pam ein bod ni fel Cymry Cymraeg rhywsut mor ddiethr i’r Byd yma – fy nadl i bob amser yw ei bod yn hen bryd i ni berchgoni (a gwerthfawrogi) artistiaid Cymreig fel Elsi.

            Nid fod angen Vivienne Westwood i’n hargymell i fynd draw i weld arddangosfa Elsi, ond mae’n werth mynd. Mae 56 llun yn yr arddangosfa. Mae un llun o 1945 o R.S yn cysgu sydd yn dangos R.S mewn golau addfwyn, yn dangos y cariad rhyngddynt – dyma chi lun anarferol o’r cymeriad anodd, gwyllt, rhagfarnllyd rydym yn ei adnabod mor dda.

            Mewn sgwrs arall yn ddiweddar, gyda’r cyn-archdderwydd Dr Robyn Lewis bu’m yn trafod sut y bu i R.S “ddarbwyllo” yr Ashmolean yn Rhydychen i ddychwelyd Meini Pemprys i Lŷn (eto Oriel Plas Glyn-y-Weddw). Eto, cwestiwn – faint ohonnom sydd yn sylwi ar / gwerthfawrogi y meini ger y drws i’r Plas? Mae hyn yn bwysig – dyma engraifft prin iawn o wrthrychau archaeolegol sydd wedi “dod adre” – mae hyn yn eithriadol – a mae hyn yn ddadl arall wrthgwrs!

            Heb os, mae lluniau Elsi o adar a phlanhigion yr un mor ysbrydoledig a rhai Tunnicliffe a’r chwiroydd Massey yn Oriel Ynys Mȏn. Felly os yw R.S ddim at eich dant mae’r lluniau Byd Natur yr un mor gyffrous. Diddorol hefyd yw’r  hunnan bortreadau, eto trawiadol, emosiynol, a mae lliwiau Elsi yn rhywbeth nodweddiadol – does dim byd cryf a thywyll yma – popeth yn ysgafn – yn fwy Laura Ashley na Vivienne Westwood os maddeuwch i mi am y gymhariaeth.

            A’r cwestiwn yma o ‘Newid y Byd’ ? Wel o ran gweithredu yn uniongyrchol, neu oleiaf gorymdeithio, ac os nad un o’r ddau yma – oleiaf lleisio barn am y lladd erchyll yn Gazza ar y cyfryngau cymdeithasol, mae mynychu oriel gelf yn swnio yn weddol ddibwys yntydi. Ond efallai wir mewn cyd-destyn ehangach fod gwerthfawrogi celf yn rhywbeth ddylid ei argymell, fel parchu’r amgylchedd a pharchu ieithoedd lleiafrifol a pheidio taflu sbwriel – proses yw’r holl beth o greu dinasyddion – ac yn y diwedd, y gobaith yw fod dyn yn ddigon call i beidio tanio taflegrau at ysbytai.

            Dyna’r peth anodd ar y funud, trio cyfianwhau sgwennu erthyglau fel hyn, neu mwynhau lluniau Elsi Eldridge neu mynychu darlith gan Trevor Fishlock tra mae plant bach Gazza yn colli eu bywyd, eu cartrefi, eu rhieni, eu brodydd a chwiorydd. Rhywsut, rwy’n amau pan bydd pobl yn astudio’r hanes diweddar yma bydd yn anoddach i gyfiawnhau hyn oll yng nghyd-destyn yr oes.

            Tybiaf bydd di-faterwch a methiant llwyr gwleiddyddion y Byd heddiw yn rhywbeth arall fydd yn ‘methu’r prawf’ – fe gannodd Huw Jones yndo am y math yma o beth, ‘Sut ferwch chi anghofio?” ond wrth arall-eirio Huw Jones yn 2014, y cwestiwn amlwg yw sut gallwch gyfiawnhau hyn?  Doeddwn rioed yn meddwl byddai rhaid i fy mhlant weld hyn ar y newyddion. Ac heb am eiliad drio gwenud yn fach o hyn ȏll,  mae cân arall yn dod i’m meddwl yma, ac er fod hon am gariad yn wreiddiol, dyma chi osodiad perthnasol i wleidyddion y Byd “You’ve got a lot to answer for” – y gân gan Catatonia wrthgwrs!

No comments:

Post a Comment