Wednesday 18 June 2014

Eglwys Llanfaelrhys Herald Gymraeg 18 Mehefin 2014.


 


“Llanfarlus” medda nhw ar lafar (swn ‘u’ er fod Rhys yn swn ‘u’ hefyd yntydi), ond Llanfaelrhys i fod yn fanwl gywir, dwi’n ochri hefo’r “plismyn iaith” dyddiau yma,yn yr ystyr fy mod yn cytuno fod angen cadw a chodi safon ein iaith yn enwedig wrth sgwennu ac ar y Cyfryngau. Ond wedyn, dyna’r peth diddorol am iaith lafar a’r amrywiaeth lleol sydd yma yng Nghymru – mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu hefyd.

                        Felly dyma ni yn ymweld ag Eglwys Llanfaelrhys ac yn dechrau ein sgwrs wrth drafod y ddau enw, Iaith Pen Llyn ac enw’r saint sydd yn rhoi ei enw i’r eglwys, Sant Maelrhys. Egwlys hynafol yw hon, wedi ei chodi  o garreg lleol rhywbryd yn y canol oesoedd er fod gwaith adeiladu diweddarach wedi cuddio rhan helaeth o’r muriau gwreiddiol canol oesol. Yn y wal ogleddol gallwn weld bwa un o’r hen ddrysau a hwn sydd yn rhoi’r awgrym o’r adeiladawith Canol Oesol gan fod y bwa yn un miniog.

            Gellir gweld olion bwa drws arall yn y wal ddeheuol a mae’n amlwg iawn i unrhyw ymwelydd fod y gangell yn ychwanegiad diweddarach gan fod rhaniad amlwg yn y wal rhwng y gangell a chorff yr eglwys. Diweddarach hefyd yw’r fynedfa orllewinnol. Dyma hanes ein eglwysi wrthgwrs, adeiladau wedi eu hymestyn, trwsio, ail godi – adeiladau sydd yn ddigon anodd i’w dehohngli a’u dyddio o ganlyniad i’r holl waith adeiladu.

            Perthyn i’r 15fed ganrif mae’r fedyddfaen sydd wedi ei wyngalchu a mae addurniadau diddorol ar ei ochr. Y nodwedd arall sydd yn dwyn sylw yr ymwelydd yw’r cofebau pres i deuluoedd Ysgo a Meillionydd ar y wal ger y fynedfa orllewinnol.
 
 

Ond mae llawer mwy i Lanfaelrhys na nodweddion pensaerniol yr eglwys hynafol, mae yma fynwent o bwys, mynwent lled hirsgwrr gyda charreg-march i’r de-orllewin. Yma yn y fynwent mae carreg fedd Mildred Elsi Eldridge (1909-1991). Un o’r pethau mwyaf diddorol am ei charreg fedd yw fod cyfeiriad at ei gwr, yn aml mae rhywun yn son am Elsi Eldridge fel “Mrs R.S Thomas” ond mae hynny yn ofnadwy o beth yntydi.

Dyma chi arlunwraig o fri, efallai yr arlunydd Cymreig sydd heb gael ei dyledus barch, a sgwni os yw hyn oherwydd enwogrwydd ac amlygrwydd ei gwr, R. S?. Rhaid canmol Oriel Plas Glyn y Weddw am eu hymdrechion i ddod a gwaith Elsi i’r amlwg dros y blynyddoedd ac yn wir mae crynodeb da o fywyd a gwaith Elsi yr arlunydd i’w gael ar safle we Plas Glyn y Weddw.

http://www.oriel.org.uk/cy/e/elsi-eldridge
 
Carreg fedd hynod yw hon gan Elsi, llechan yn gorwedd yn wastad ar y llawr yng nghornel de ddwyreiniol y fynwent gyda carreg gyfagos yn cwblhau y bedd. A’r geiriau yna wedyn “AC YN EI YSBRYD, R.S. Thomas (1913-2000)” a hynny gan fod R.S yn gorwedd yn rhywle arall ! Diddorol os nad doniol (bron) ac eto rhywsut addas o ystyried cymhlethtod bywyd y ddau gymeriad hynod yma. Un o fy hoff lyfrau yw un Byron Rogers ‘The Man Who Went Into The West’ – llwyddodd Rogers rhywsut i ddal yr ysbryd yma, i gyfleu Manafon a Rhiw mor fyw, mor lliwgar nes fod rhywun “yno” drwy ddarllen.
 
 

Gerllaw cawn feddau’r Keatings a llechan arall yn gorwedd ar y llawr i’r tair chwaer, Eileen (1886-1996),  Lorna (1890-1981) a Mary Honora (1892-1977). Y chwiorydd oedd yn gyfrifol am adfer Plas yn Rhiw ar ol ei brynu ym 1938, ty sydd bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Wedi eu geni yn Oes Fictoria ond wedi byw i weld dyfodiad y Sex Pistols a Punk Rock – dyna chi rhywbeth i ‘neud ni feddwl – go brin fod y Sex Pistols yn canu yng Nghaerffili wedi cyffwrdd bywydau’r Keatings !

Rhywbeth sydd yn rhan o’r bregeth yn ddiweddar yw pwysigrwydd diwylliant a’r Iaith Cymraeg yn y dirlun ehangach archaeolegol. Yn ddiweddar bu i mi fynychu Ysgol Undydd i ddathlu gwaith yr archaeolegydd Bill Britnell (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys) a mor falch oeddwn i glywed fod Bill, yn ei arolwg ac adroddiad archaeolegol o ardal Llangollen, yn cynnwys chwiorydd Plas Newydd, Ladis Llangollen yn ogystal a’r awdur, bardd, athronydd a’r anarchydd John Cowper Powys. Hynny yw mae archaeoleg yn berthnasol, yn cynnwys y lle a diwylliant, nid cloddio yn y pridd yn unig !

O Nottingham oedd y Keatings yn wreiddiol a does dim awgrym iddynt ddysgu Cymraeg. Roedd Clough Williams Ellis yn ffrind iddynt ac yn sicr bu Clough yn gefn i’r gwaith o adnewyddu’r Plas, Diddorol hefyd yw nodi i Honora, y fenga, dderbyn O.B.E (peth dadleuol heddiw wrthgwrs !) am ei gwaith yn y Cyngor gyda gofal plant a chyfnod mamolaeth. Di-briod, yn perthyn i oes a fu ond wedi gwneud cyfraniad.(Rhaglen arall i Ffion Hauge dybiwn i).

Gyda criw Heneiddio’n Dda Nefyn bu i mi ymweld a Llanfaelrhys, criw dymunol tu hwnt ac wrth sefyllian yn y fynwent ar ddiwrnod braf o Fehefin, dyma gytuno fod y fangre hon yn le weddol braf i dreulio weddill oes, fel mae nhw’n dweud yn aml, “yn agosach i’r nefoedd”. Ewch i weld mynwent y merched blaengar !

No comments:

Post a Comment