Wednesday 4 June 2014

Archaeoleg Yr Wyddgrug Herald Gymraeg 4 Mehefin 2014.



 
 

Rwyf wedi dechrau cynnal dosbarth ‘Cymraeg i Oedolion’ yn yr Wyddgrug hefo criw o ddysgwyr sydd i bob pwrpas yn rhugl, a gan mae archaeoleg yw fy maes yn hytrach na ‘dysgu Cymraeg’, beth fyddaf yn ei wneud hefo dosbarthiadau o’r fath yw defnyddio archaeoleg i ymarfer ac ymestyn dipyn ar eu Cymraeg.

            Y ‘wers’ bwysig ar hyn o bryd yw cael dosbarthiadau o’r fath i edrych a sylwi ar y dirwedd o’u hamgylch. Mae angen dysgu i “ddarllen y dirwedd”, i edrych o dan eich traed ar adegau, a mae rhan helaeth o hyn yn deillio o ddadl O.G.S Crawford a’i lyfr ‘Bloody Old Britain’ fod y cyfan yma o’n blaen ond i ni sylwi arno.

            Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal yng nghanolfan Ty Pendre a braf oedd cael dechrau’r wers drwy edrych allan o’r ffenestr. Dyma gael cyflwyno fy nadl heb orfod gadael yr adeilad, gan fod Capel Pendref yn sefyll gyferbyn a’r ystafell ddosbarth. Dyma gapel a adeiladwyd ym 1827 am gost o £1600 a sydd yn yr arddull ‘gothig Sioraidd’. Ymhlith y nodweddion Gothig mae ffenestr addurniadol gaedig ar ffurf blodyn, (rhosyn efallai ?) a ffasad o gerrig nadd.

            Ond, y pwynt pwysig, pwynt un fel petae, yw fod ein hen gapeli yn rhan o’r tirlun archaeolegol, yr un mor deilwng o sylw a’r castell mwnt a beili sydd yn sefyll tu cefn i’r capel. Yr ail bwynt yw fod y capeli yma angen dipyn bach mwy o sylw. Soniais o’r blaen, mae’r eglwysi ar agor i’r cyhoedd, y capeli yn tueddi i fod ar gau a dipyn o waith cael hyd i allwedd. Doedd dim rhaid cerdded mwy na deg llath o’r ystafell ddysgu nes ein bod yn edrych ar ‘archaeoleg’, adeilad hynafol, olion materol dyn.

            Y trydydd pwynt, mae’n debyg, yw fod y pethau yma i’w gweld, yn aml yn agos iawn, ond i ni sylwi. Yn fwy amlwg ‘archaeolegol’ ac yn fwy amlwg hanesyddol ac hynafol mae’r castell mwnt a beili neu ‘Bryn y Beili’. Bellach mae gweddillion y castell yma a adeiladwyd oddeutu 1100 oed Crist wedi ei dirweddu yn sylweddol. Ceir maes bolwlio o fewn y buarth (beili), cawn lwybrau yn ein harwain at gopa’r mwnt a chawn gylch yr orsedd Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug 1923 ar y safle.

Castell yn perthyn i’r Normaniaid a’i hymgyrcheodd cynnar i fewn i ogledd Cymru a Dyffryn Alun yw hwn ond rhaid chwerthin mewn un ystyr o ddychmygu plant Cynan yn meddiannu’r castell, yn ei ail berchnogi ym 1923 ac yn dawnsio’r blodau lle bu unwaith y gormeswr. Ceir cylch yr Orsedd diweddar (1914 -16) hefyd yng Nghastell Aberystwyth, un o gestyll Edward 1af - er mwyn gwneud yr hanes yn fwy diddorol a chaniatau i ni wedyn drafod y cyd destyn ehangach a dod a’r Iaith Gymraeg yn ol i ffocws y wers.

Wrth droed y buarth (beili) ceir ty o’r enw ‘Tan y Coed’, ddim mor hynafol a hynny,dechrau’r 20fed ganrif dybiwn i, ond dyma un o’r nodweddion archaeolegol mwyaf diddorol yn yr Wyddgrug ac un sydd yn ysgogi cryn drafodaeth ymhlith y dosbarth. Ar ben wal yr ardd mae hyd at 10 o gerrig cerfiedig, nifer fawr yn gerfluniau o wynebau, a’r son yw fod rhain yn dyddio yn ol i’r Canol Oesoedd.

            Y tebygrwydd yw fod y cerrig yma yn dod yn wreiddiol o eglwys, efallai wir o eglwys Santes Fair yn y dre, Y son yw fod rhain wedi cael eu hachub gan Tan y Coed yn ystod cyfnod atgyweirio Santes Fair gan George Gilbert Scott rhwng 1853 ac 1856. Yr hyn sydd yn amlwg o edrych yn fwy manwl ar y cerrig yw fod y math o garreg yn amrywio ac efallai fod hyn yn awgrymu fod y cerrig yma yo wahanol eglwysi ? Anodd gwneud pen na chynffon o’r holl beth ond doedd dim cysondeb amlwg ymhlith y cerrig fyddai yn awgrymu un cyfnod neu un eglwys. Yn wir roedd y casgliad yn debycach i rhywbeth fydda rhywun wedi eu gasglu dros y blynyddoedd ar gyfer yr ardd ? Beth bynnag yw’r hanes, cafwyd drafodaeth ddiddorol yma a chytunwyd fel dosbarth fod angen cael mwy o wyboaeth a hanes am yr hen gerrig yma.
 

            Unwaith eto, cyn troi an Eglwys Santes Fair, rhaid oedd gwneud pwynt arall. Dyma droi y dosbarth, ond heb orfod gadael y safle, gan edrych wedyn ar adeilad hynafol arall tu cefn i ni, Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug. Adeiladwyd yr ysbyty yn wreiddiol yn ystod cyfnod Rhyfel y Crimea, 1877. Cyfranwyd nawdd gan Stad Grosvenor ar gyfer yr adeiladu a dyma sylwi felly ar y brics mewn patrwm diemwnt ar wyneb yr adeilad. Unwaith eto nodswedd bach diddorol, ond amlwg ond i ni sylwi.

            Er mwyn gnweud pwynt arall, fod diwylliant yn gorfod cael ei ystyried yn y dirwedd archaeolegol dyma orffen ein taith fer o amgylch ardal Pendref yr Wyddgrug ger beddfaen Richard Wilson. Oherwydd Ruskin dwi ddim yn amau, disgrifiwyd Wilson yn aml fel ‘the father of English landscape painting’, sydd ychydig yn eironig o ystyried iddo gael ei eni ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn ym 1713.

            Dyma ni felly, ger ei fedd, yma yn Santes Fair yr Wyddgrug, yr arlunydd a ysbrydolodd ac a gafodd ddylanwad ar JMW Turner a Constable. Atgoffwyd mi o dirlun hyfryd Wilson o Gastell Penfro, lle mae Wilson wedi codi uchder y clogwyni a wedi dangos llun y castell ar len y dwr fel adlais o’r llynau gwyrddion llonydd gan Gwilym Cowlyd. Cawn weld y llun hyfryd hwn, oddeutu 1765 yn  Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

            Trodd y sgwrs at wr enwocaf yr Wyddgrug, Daniel Owen. Fel byddaf yn ei ddweud bob tro – “dydi hyn ddim yn gystadleuaeth !”. Dydi un cymeriad hanesyddol ddim yn bwysicach neu mwy arwyddocaol na’r llall, does dim modd cymharu Daniel Owen a Richard Wilson yn hynny o beth – cyfrannodd y ddau mewn ffyrdd gwahanol – er i’r Celfyddydau heb os.

Ond wrth edrych ar fedd unig Wilson, ger y maes parcio bychan i’r gogledd o Santes Fair, mae rhywun yn cael y teimlad fod Wilson wedi marw yma (1782) yn dlawd a heb gydnabyddiaeth. Treuliodd ei ddydiau olaf yn Colmendy, a fel sydd rhy arferol gyda pobl greadigol, heb gydnabyddiaeth deilwng yn ystod ei fywyd. Drwy farwolaeth mae anfarwoli’r artist gweledol. Richard Wilson yr arlunydd tirwedd o Faldwyn. Parch.
 

No comments:

Post a Comment