Rwyf am
ddychwelyd i’r Byd Celf yr wythnos hon, a sȏn ychydig am Sioe Gelf Myfyrwyr
Coleg Menai, sef y sioe ddiwedd flwyddyn i’r myfyrwyr celf sydd yn graddio a’r
rhai sydd wedi cwblhau blwyddyn sylfaen.
Heb
or-symleiddio, dyma arlunwyr y dyfodol, dyfodol y Byd celf yng Nghymru a
roeddwn wedi cael gwahoddiad gan y Coleg i fynychu’r Noson Agoriadol. Edrychais
ymlaen yn amlwg. Ond mae trȏ bach i’r stori. Wythnos ynghynt roeddwn wedi bod i
gerdded hefo’r arlunydd Cymreig, Iwan Gwyn Parry. Petae rhaid i mi ddewis, Iwan
yw fy hoff arlunydd Cymreig o’r 20fed ganrif hwyr / 21ain ganrif. Fy hoff
arlunydd yn gyffredinol ar hyn o bryd yw Edward Burne-Jones, fy hoff arlunydd
erioed, yn y byd, yw J.M.W Turner – os ond am y llun o Gastell Dolbadarn.
Mae
Iwan yn gweithio ar lun ar gyfer clawr llyfr rwyf yn ei sgwennu i Gwasg Carreg
Gwalch a roedd y ddau ohonnom wedi mynd am dro i Bryn Cader Faner y garnedd
gladdu anhygoel hwnnw o’r Oes Efydd yn uchel yn y mynyddoedd ger Llandecwyn.
Yn
ddigon naturiol, fe sonias fy mod yn edrych ymlaen i’r Noson Agoriadol, a
dyna’r tro cyntaf i mi amau fod rhywbeth mwy i hyn nac y gwyddwn. Atebodd Iwan drwy ofyn “be ti’n mynd i ddweud?”
Nes i ddim deall yn iawn, be dwi’n mynd i ddweud? Be dwi’n mynd i ddweud am
beth felly? (Dwi’n gwneud ati chydig cofiwch!)
Catrin Williams (chwith) hefo Iwan Gwyn Parry :
Catrin Williams (chwith) hefo Iwan Gwyn Parry :
Felly
wrth droi fyny yng Ngholeg Menai gyda rhyw deimlad fy mod yn mynd i orfod
gwneud rhywbeth, ond neb di dweud yn iawn, dyma ofyn mewn ffordd ddigon
hamddenol beth oedd cynlluniau’r noson a dyma sylweddoli mae fi oedd y “gŵr
gwadd”, y fi fydd rhaid rhoi y tystysgrifau i’r myfyrwyr a bydd angen ychydig
eiriau gennyf ar y diwedd.
Dim
problem, felly heb baratoi, dyma ddyfynu Francis Bacon, “Mae’n rhaid chwalu er
mwyn creu”, a lansio mewn i araith am sut mae cadw’r purdeb creadigol yn wyneb
yr holl ddylanwadau, yr holl wybodaeth sydd ar gael, yr feirniadaeth sydd i
ddod gan yr adolygwyr a gor-ddylanwad y Cyfryngau. A wedyn, dyma ososd her –
sut mae gwneud hi yn y byd go iawn, tu allan i furiau saff Coleg Menai, y groth
creadigol yma lle mae popeth yn bur?
Byddaf
yn datgan yn aml, na ddylid ymddiried mewn person creadigol sydd ddim yn
cymeryd gofal o’i ddelwedd. Er fod modd gwrth-ddweud hyn, ac efallai’r un mwyaf
creadigol yw’r un sydd yn malio dim am ei edrychiad, mae pawb yma wedi gwisgo
yn dda, welais i rioed gymaint o ‘steil gwalltiau’ mewn un ystafell. Byddai
Vivienne Westwood yn falch iawn o weld y myfyrwyr yma yn edrych fel “unigolion”
yn hytrach na’r cynnyrch, lein-ffatri Top Shop arferol.
Ar
ddiwedd fy araith, a finnau erbyn hyn yn dra emosiynol wrth ganmol safon y
gwaith a’r bwrlwm amlwg yn yr ystafell, roedd rhaid cyfaddef fod yn rhaid
iddynt “weiddi” yn y Byd Mawr Cystadleuol – bydd rhaid gwneud datganiad a bydd
rhaid i’r datganiad yna fod yn un uchel ei gloch – rhywsut ……..
Yn
sefyll allan i mi ar y noson roedd gwaith Gweni Llwyd, a hithau o Ddyffryn
Nantlle, mor, mor ifanc ac eto mor dalentog. Rhywbeth arall am Gweni, a dim byd
i wneud hefo’i gwaith celf , ond os oedd unrhywun yn yr ystafell y noson honno
fyddai yn gwenud ‘muse’ ar gyfer freswin cyfredol o ‘The Blessed Damozel” gan
Dante Gabriel Rossetti, Gweni oedd honno. Mae ganddi wedd a naturioldeb sydd
ond gan ferched Cymru ac un peth amlwg am yr holl waith yn yr arddangosfa –
doedd neb yn gwenud celf traddodiadol. Petae yna gyn-Raffaelydd yng Ngholeg
Menai bydda ferswin newydd o’r ‘Damosel’ gyda Gweni fel y wyneb (er bydda rhaid
rhoi gwallt coch iddi er mwyn bod yn muse gyn-Raffaelaidd) wedi sefyll allan.
Gwaith
heriol sydd gan Natasha Brooks, mae’r fideo ohonni yn y baddon yn sicr hynny,
noeth ac yn defnyddio cyfrwng anisgwyl (sef baddon go iawn), ond mae’r fideo
ohonni yn dawnsio mewn cae o flaen gwartheg yn well byth. Dyma waith ar sowdl
Bedwyr Williams, cysyniadol felly – ond dychmygaf y fideo yma yn mynd un
‘feiral’ ar youtube.
Gwaith
mwyaf heriol Brooks, ac o bosib y gwaith mwyaf heriol yn yr holl arddangosfa,
ac yn sicr yr un sydd wedi bod yn “ddadleuol” yw ‘Blood Bean’, sef planhigyn
wedi tyfu a’i fwydo gyda gwaed misglwyf Miss Brooks. Y tabŵ olaf fel mynegodd
un o’r tiwtoriaid ar y noson. Wrth i mi ei chanmol yn fy ariath clywodd gyfaill
i mi rhywun yn gofyn “Who is this ? why is he talking about menstrual blood ?”
Ateb fy nghyfaill oedd “He’s a famous Welsh Punk Rock star” a dyna gau ei geg
yn syth.
Talent
arall amlwg yw Anthony Morris sydd yn
ail-greu, dehongli ac ymdrin ac hen ysbytai, Dinbych a Minffordd yn benodol.
Dyma waith ar yr ymylon go iawn, atgoffwyd mi o waith yr anturiaethwyr dinesig ‘”28
Days Later”, sydd yn tynnu lluniau mewn adfeilion ac adeiladau caeedig (ddim
mor gyfreithlon a hynny).
Un
arall oedd yn sefyll allan, mewn siwt a thei ac yn edrych fel ymgymerwr, oedd
Billy Bagilhole o Bwllheli, sydd ar ei ffordd gyda llaw i Coleg Celf Chelsea –
roedd ei bortread anferth yn hawlio sylw, un o fyfyrwyr Iwan Gwyn Parry –
gwyliwch allan am Billy yn sicr.
Fel
soniais, roedd safon uchel yma, cefais fy ysbrydoli, mwynhais yn fawr, er fy
mod yn treimlo yn ofnadwy o hen ymhlith y myfyrwyr ifanc, ond rhaid cyfaddel
byddai chydig bach o J.M.W Turner neu Burne-Jones neu hyd yn oed (a maddeuwch
am hyn) arlunydd mor an-heriol a Christopher Williams, wedi bod yn chwa o awyr
iach ymhlith yr holl stwff heriol / cysyniadol.!
A
son am ‘famous Welsh Punk Rock star’, wrth gael fy nghyflwyno i rai o’r
myfyrwyr roedd yn berffaith amlwg nad oedd clem ganddynt pwy oedd Anhrefn na
pwy oeddwn i. Rhaid chwerthin, ac unwaith eto dyma gael fy atgoffa o pam mor
wael yda ni yng Nghymru am ein triniaeth o ddiwylliant cyfoes a hanes y
diwylliant hynny. Nid cymaint eu bod ddim yn cofio’r Anhrefn ond mwy na thebyg rioed di clywed Y
Blew, Llygod Ffyrnig, Geraint Jarman na’r Cyrff chwaith – a mae hynny yn
rhywbeth ddylid ei ddysgu yn ein Colegau ac Ysgolion – yn sicr yn y meusydd
creadigol.
Petae
Joe Strummer wedi bod yno yn yn lle Rhys Mwyn, sgwn’i faint fydda wedi gwybod
am The Clash? Heblaw am hynny mae celf Cymreig yn fyw ac iach ac ar ddangos yn
Coleg Menai nawr !