Wednesday 12 February 2014

Llyn Cerrig Bach Herald Gymraeg 12 Chwefror 2014.


 
Bu bron i mi  sgwennu colofn yn ymateb i sylwadau Angharad wythnos dwetha (Herald Gymraeg 5ed Chwefror 2014) ond dydi’r dewis ddim gennyf oherwydd Dydd Gwener dwetha Herald Gymraeg 12 Chwefror 2014 trefnodd Bethan Wyn Jones ein bod fel colofnwyr yr Herald Gymraeg yn ymweld ac ardal Llanfair yn Neubwll, Mon.

            Dyma ein ferswin amgen o ‘ginio Dolig colofwnyr yr Herald’. Does fawr o obaith cael y pump ohonnom (yn cynnwys Tudur y Golygydd) yn yr un lle ar yr un pryd, pa bynnag adeg o’r flwyddyn, felly bodlonwyd ers tro nawr fod unrhyw ddiwrnod lle mae pawb yn rhydd yn ddigon da i ni gwrdd, mynd am dro a chael pryd o fwyd. Efallai i chi gofio i ni ddechrau arbrawf ar ol ymweliad o’r fath i Ddinas Emrys lle awgrymwyd y byddan oll yn sgwennu am yr un profiad o wahanol safbwyntiau.

Rhywbeth byddaf o hyd yn edrych ymlaen ato wrth gwrdd a’r colofnwyr eraill, yw’r sgwrs. Dyma chi gasgliad o bobl gwahanol iawn mewn rhai ffyrdd ac eto hefo pethau yn gyffredin hefyd. Y sgwrs yr oeddwn am gael ac Angharad, ac yn wir y golofn na’ sgwennwyd, oedd am fy mhrofiad innau hefyd yn ymweld ac ysgolion yn rheolaidd i gynnal gweithdai.

Rwan, rwyf yn cyffredinoli yn ofnadwy, a nid colofn am y Gymraeg yn ein hysgolion yw hon, ond yr argraff rwyf yn gael, ac yn sicr tu allan i unrhyw ddisgyblion “Eisteddfodol”, yw fod y mwyafrif o bobl ifanc i weld yn dallt yr Iaith, yn gallu siarad yr Iaith, rhai yn hollol naturiol felly, ond a’r OND mawr yw mai ychydig iawn o’r disgyblion dwi’n gyfarfod sydd i’w gweld ac unrhyw ddiddordeb yn y ‘diwylliant poblogaidd/cyfoes Cymraeg’.

Gwynebau syn sydd yn fy nghroesawu wrth i mi ddangos fideos Pop Cymraeg iddynt, a dweud y gwir, ta pwy yw’r grwp, ta beth yw’r cyfnod, mae’r gwynebau yn syn. Gwynebau syn sydd hefyd i’w cael wrth sgwennu am ddiwylliant popblogaidd yn yr Herald, yn wir, bellach rwyf yn gofyn i mi fy hyn yn aml, onibai fy mod yn cyhoeddi ar Blogs ar y We – lle yn union mae rhywun i fod i gyhoeddi adolygiadau, sylwebaeth neu erthyglau am ddiwylliant cyfoes Cymraeg ?

Felly o dderbyn fod darllenwyr yr Herald yn gwerthfawrogi erthyglau am hanes a thirwedd Cymru, dyma droi yn ol yn sydun at ein hymweliad a Llanfair yn Neubwll. Mae Bethan Wyn Jones yn ei elfen, ac yn ei chynefin, yn egluro beth yw’r gwymon a’r cregyn ar Draeth Cymyran. Rydym wrth droed RAF Valley, a gyda phob awyren sydd yn codi dyma oleiaf munud lle’r oll sydd i’w weld yw siap ceg Bethan yn symud – amhosib oedd clywed gair ac amhosib cystadlu a rhuo’r jets.

A pham mor aml rydym yn dweud hyn, “dyma’r tro cyntaf i mi fod yn fan hyn”, rhag ein cywilydd rhywsut, ac eto, mae’n anodd cyrraedd pob twll a chornel o Gymru yntydi. A dyma ni golofwnyr hefo’r map O.S, yn astudio lle nesa. Dyna’r peth positif, roedd sawl un ohonnom wedi dod a’n map O.S – hyd yn oed mewn lle cyfarwydd (i rai) mae’r map yn hanfodol, yn rhan o’r pleser a’r hwyl o grwydro.

Os oedd Traeth Cymyran yn newydd i mi, roedd Gwesty Cymyran yn gyfarwydd, gan fy mod wedi aros yno droeon tra yn gwneud gwaith tywys gyda ymwelwyr. Ger llaw wrthgwrs mae’r gofeb a’r hyn sydd bellach yn lyn, Llyn Cerrig Bach, y safle hynod hwnnw, unigryw ac unig, lle bu’r Derwyddon (o bosib) neu’r Celtiaid brodorol (yn sicr) yn offrymu arfau rhyfel i’r llyn neu’r cors sanctaidd rhyw 2,000 o flynyddoedd yn ol a mwy.

Dyma lle rwyf ar dir cyfarwydd, fy nhro i rwan i fod yn fy nghynefin, a dyma drafodaeth fach ddiddorol ymhlith ein gilydd am y Derwyddon, y rheswm neu’r rhesymau dros offrymu, faint o lyn oedd yma dwy fil o flynyddoedd yn ol ac wrthgwrs y stori hyfryd am y gadwyn caethweision a ddarganfuwyd yma yn 1942 – 43.

O edrych ar y darn bach o ddwr gymharol ddi-nod yma ger lanfa RAF Valley heddiw, anodd dychmygu fod hwn yn fan sanctaidd o bwysigrwydd Cenedlaethol ar un adeg. Os yw’r darnau o gerbydau ceffyl wedi dod o lefydd fel Dyffryn Tafwys ac o bell, felly rhaid bod rhyw arwyddocad i’r safle yma yn y cyfnod Celtaidd tu hwnt i’r lleol. A mae hyn mewn cyfnod cyn i ni ddiffinio’r gwledydd rydym yn eu hadnabod heddiw. Mae hyn cyn Cymru, Lloegr a Llanrwst – mae hyn yn y cyfnod o lwythi yn rheoli darnau o Ynysoedd Prydain ond cyn unrhyw gysyniad o “Genedlaetholdeb Cymreig”.

            Yn ddiweddarach y noson honno roeddwn yn rhoi darlith yn y ganolfan yn Llandegfan ar waith cloddio archaeolegol diweddar ar Ynys Mon. Cefais groeso cynnes, a’r fraint arall ar y noson, oedd cael fy nghyflwyno gan Edward, y canwr pop o’r 70au (Swansea 254). Fe ysbrydolodd Edward (fel yn wir ei gyfoedion Dafydd Iwan, Huw Jones, Heather Jones a Meic Stevens) rhywun fel fi o Lanfair Caereinion i weld diwylliant poblogaidd Cymraeg fel rhywbeth “cwl” – a dyna’r rheswm wedyn i mi dreulio fy mywyd yn trio creu diwylliant Cymraeg cyfoes drwy ganu, cyfansoddi , sgwennu, trefnu.

            Dwi’n credu fod hanes ac archaeoleg yn rhan allweddol o greu diddordeb yn y lle yma, o ddeall pwy yda ni ond dwi’n hollol argyhoeddedig fod pethau fel “canu pop” yn bwysig hefyd a mae hyn yn fy mhoeni yn fawr iawn – y difaterwch yn yr ysgolion a’r diffyg dealltwriaeth sylfaenol fel cymdeithas fod angen ‘Popeth yn Gymraeg’. Roedd Angharad yn llygaid ei lle wythnos dwetha !  

 

No comments:

Post a Comment