Tuesday 18 February 2014

Carreg 'Icorix' @ Llystyn Gwyn. Herald Gymraeg 19 Chwefror 2014


 
Bu fy mam am adeg, ar ddiwedd y 50au, (cyn i mi ddod i’r Byd) yn athrawes yn Ysgol Cricieth. Yn fy meddiant mae ei llyfr nodiadau o’r cyfnod hynny, sef llyfr nodiadau ar gyfer gwersi’r plant. Y rheswm pennaf dros gadw’r llyfr oedd oherwydd fod yr holl beth yn ei llawysgrifen ac fod ambell stori ddiddorol am Eben Fardd yn gynwysiedig ond a dweud y gwir, doeddwn rioed di darllen drwy’r nodiadau gyda unrhyw fanylder.

            Ychydig yn ol dyma ail afael yn y llyfr ac er mawr syndod roedd tri llun du a gwyn wedi eu cynnwys gyda nodiadau fy mam. Un oedd cromlech Rhoslan, ger Cricieth, y gromlech hynod yna sydd, yn ol pob son, yn cynnwys graffiti SWJ, sef Ifas y Tryc neu’r diweddar Stiwart Jones. Yr ail lun yn ol y nodiadau, ac er mawr siom i mi, llun sydd nawr ar goll, oedd llun cromlech Ystumcegid.

            Does dim golwg o’r llun o fewn cloriau’r llyfr nodiadau felly rhaid derbyn fod y llun yna wedi ei golli am byth. Ystumcegid yw’r gromlech arall yn yr ardal hon (Eifionydd), gyda’i gapfaen anferth a fe all fod yn gromlech yn y traddodiad Hafren-Costwold. Os felly, byddai hyn yn awgrymu, fel yn achos cromlech Capel Garmon, fod cysylltiad rhwng Gogledd Cymru a De-orllewin Lloegr – mae rhywun yn rhywle wedi symud yn y cyfnod Neolithig, 5,000 – 4,000 o flynyddoedd yn ol. Y tebygrwydd yw, fod y symud yna wedi digwydd ar hyd yr afordir  neu ar y mor.

            A’r trydydd llun sydd am ddwyn fy sylw yr wythnos hon. Llun du a gwyn aneglur a dynwyd gan fy mam, ond roeddwn yn adnabod y garreg yn syth. Hon yw carreg ‘Icorix’ sydd bellach wedi ei chynnwys yn wal buarth ffermdy Llystyn Gwyn, Bryncir. Yn y byd Archaeoleg Cymreig mae hon, nid yn unig yn garreg adnabyddus, ond yn un hynod bwysig gan fod engraifft o ysgrif o’r wyddor Ogam i’w gweld arni, rhywbeth prin iawn yn y rhan yma o’r byd ac o bosib yr unig engraifft sydd ganddom yng Ngwynedd.

            Felly mae'r ysgif yn ddwyieithog, Lladin, sef yr hyn sydd i’w ddisgwyl yn y cyfnod Cristnogol Cynnar oddeutu’r 6ed ganrif Oed Crist a'r Ogam. Darllenai’r ysgrif Lladin fel y ganlyn “Icori(x) Filius / Potent/ Ini” neu Icorix mab Potentinus. Carreg fedd yw hon felly yn cydnabod y mab a’i dad. Yn yr Ogam cawn  'Icorigas' sef carreg Icorix.

Prin fod yr ysgrif i’w gweld bellach a mae’r marciau Ogam yr un mor anodd i’w gweld. Yn ei llyfr ‘Gwynedd’ mae’r archaeolegydd Frances Lynch yn awgrymu fod rhaid bellach wrth olau o’r ansawdd cywir i wneud pen na chynffon o’r ysgrif, a rhaid cydnabod mae anodd iawn yw gweld unrhywbeth y dyddiau hyn.

            Drwy ddamwain y darganfuwyd y garreg a hynny ar ddechrau’r Ugeinfed ganrif. Os yw’r stori yn wir, ac os ddim mae’n goblyn o stori dda, fe ddaeth ceffyl a throl i drafferthion wrth i’r olwyn daro yn erbyn darn o’r garreg a oedd yn codi o’r ddaear gan ddisodli’r drol. Gyrrywd gwas y ffarm i gael gwared a’r garreg ond oherwydd ei maint bu rhaid i’r gwas ofyn am gymorth mwy o ddynion. O’r diwedd llwyddodd y llanciau cryf i symud y garreg.

            Ail leolwyd y garreg fel postyn giat yn ol y son, a hyn yn ol Lynch ym 1901 ac yn ol llyfr nodiadau fy mam ym 1910 ond fe allwn gytuno yn sicr ar ddechrau’r Ugeinfed ganrif – mae’n siwr fod mam wedi drysu 1901 am 1910. Ar safle We megalithic.co.uk mae’r flwyddyn i lawr fel 1902. Yn adroddiad y Comisiwn Brenhinol (1960) ceir y flwyddyn 1901 felly mae’n debygol mae hwn yw’r flwyddyn gywir o ran y darganfyddiad.

            Rhywbryd yn ystod y broses, fe sywleddolwyd fod ysgrifau ar y garreg ac erbyn 1972 roedd y garreg wedi ei chynnwys yn wal y burath – gan ei chadw yn saff felly am flynyddoedd i ddod.  Mae’r ysgrif lladin ar ochr dde uchaf y garreg a wedyn yr Ogam ar ymyl dde y garreg. Hyd yn oed ym 1960 mae’r Comisiwn yn cydnabod fod cyflwr yr ysgrif ogam yn wael.

            Felly, y profiad od yn yr achos yma yw fod rhywun yn edrych ar yr unig garreg Ogam yng Ngwynedd ond mewn gwironedd ddim yn gallu gweld yr ysgrif. Mae digonedd o gerrig o’r fath yn Ne-orllewin Cymru sydd yn awgrymu o bosib fod mwy o bobl o’r Iwerddon wedi mewnfudo i’r rhan yna o Gymru yn y cyfnod ol-Rufeinig. Mae diogon o son yma yn y Gogledd am y “Gwyddelod” ond mae’n ymddangos fod y dystiolaeth archaeolegol yn awgryu nau fu cymaint o fewnfudo i’r rhan yma o’r byd ?

            Y cyd-destyn yn y 5ed / 6ed ganrif wrthgwrs yw fod y Rhufeiniad wedi ein gadael, er mewn gwirionedd, roedd y Rhufeiniad wedi gadael rhan helaeth o ogledd Cymru ers blynyddoedd beth bynnag, onibai am gadw’r gaer yn Segontium (Caernarfon) hyd at oddeutu 393 Oed Crist -sef eu canolfan weinyddol. Felly yn y 6ed ganrif rydym yn son am y cyfnod ol-Rufeinig, ail gyflwyno Cristnogaeth a’r ysgrifau Lladin yma ar gerrig bedd yn awgrymu rhywun o statws cymdeithasol uwch na’r arferol ?

            Rhaid ystyried a gwerthfawrogi pwysigrwydd carreg Icorix o fewn y cyd-destyn ehangach yma, mewn cyfnod cythryblus yn hanes Cymru. Rhaid wrth ganiatad ffermdy Llystyn Gwyn os am ymwled a’r garreg gan fod hwn ar dir preifat. Cefais groeso yno yn ddiweddar ac yn wir cefais sgwrs am lyfr nodiadau fy mam gan idynt oll fod yn ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle ddiwedd y 40au.
 

No comments:

Post a Comment