.
“Monet yn
Llangefni” dyna’r penawd, dyna’r floedd sydd yn mynd allan, anodd credu ond ydi
mae’n wir ! Wrth sefyll o flaen ‘Palazzo Dario’ (1908) gan Claude Monet yn
Oriel Ynys Mon nos Wener dwetha yng nghwmni’r artist Cymreig, Iwan Gwyn Parry
trodd y sgwrs at y syniad yma, “pwy sa di meddwl”, ein bod yn Llangefni ar nos Wener yn edmygu
llun gan Monet !
Gwych o beth, ond nid Monet oedd yr
unig artist ar y wal, mae yma J.M.W
Turner (mae o yn cael llawer o sylw gennyf yn ddiweddar), Frank Brangwyn,
Walter Sickert, Canaletto ac wrthgwrs un o fawrion y Byd Celf, Kyffin. Does dim
angen cyfenw ar Kyffin, a petae ni yn cyfeirio ato fel ‘Williams’ yn yr un modd
a rydym yn cyfeirio at J.M.W fel ‘Turner’ go brin bydda gan unrhywun syniad am
pwy da ni’n son.
Felly Kyffin yw Kyffin, yr artist
sydd ddim angen cyfenw ac artist sydd ac oriel wedi ei enwi ar ei ol. Rwyf yn
meddwl llawer am hyn, achos rwyf yn bryderus am y neges sydd yn cael ei roi i
artistiaid ifanc Cymreig, “fedrwch chi byth wella ar Kyffin, fedrwch chi byth
fod mor enwog neu llwyddianus a fo !”. Neu wrthgwrs fod yma gyfle i artist
ifanc Cymreig wirioneddol herio’r drefn a mynd mor groes a sydd yn bosib mynd i
gyfeiriad Kyffin; Bedwyr Williams efallai ?
Rwyf
yn cael fy atgoffa o gerddorion Lerpwl yng nghyfnod Teardrop Explodes, Mighty
Wah a Echo and the Bunnymen, a’r rheolwr Bill Drummond ddiwedd y 70au yn
esbonio pam mor anodd (amhosibl) oedd hi ar y grwpiau yma yn dod o Lerpwl gan
mae o Lerpwl daeth y Beatles. Pa obaith iddynt felly ? Fe gafwyd sefyllfa ddigon tebyg yng Nghymru
yn sgil Edward H, beth oedd pwynt i artistiaid ifanc, newydd, fentro cyfansoddi
ar ol i Edward H gyfansoddi ‘Ysbryd y Nos’ ?
Nid
dyma’r tro cyntaf i Oriel Ynys Mon gyflwyno arddangosfa o’r safon uchaf, yn y
Saesneg mi fydda rhywun yn cyfeirio at sioe o’r fath fel “Blockbuster”, a does
dim ond canmoliaeth gennyf i Pat West yn yr Oriel am godi safon arddangosfeydd
yng Ngogledd Orllewin Cymru i safon sydd wirioneddol yn cymharu’n ffafriol yn
Rhyngwladol. Fe gofiwch llynedd yr arddangosfa gwell na gwych a rhagorach na
rhagorol, o wrthrychau ‘Llyn Cerrig Bach’ a dyma ni eto – y safon uchaf.
Curadur
arddangosfa ‘Kyffin Williams a Fenis, Golau ar y Gamlas, Venezia’ yw David
Meredith y dyn cysylltiadau cyhoeddus, cyn bennaeth y Wasg i HTV, sylfaenydd
cwmni STRATA, cyn bennaeth y wasg yn S4C, aelod o’r Orsedd ac awdur sawl llyfr
am Kyffin gan gynnwys ‘Bro a Bywyd – Kyffin Williams’ (2008). I’r rhai sydd ac
unrhyw ddiddordeb yn y Byd Pop Cymraeg o gwbl mae Meredith hefyd yn dad i M.C
Mabon, nid ein bod am eiliad yn diffinio neb ar sail beth mae eu plant wedi’w
gyflawni.
Am
joban braf oedd cael rhoi arddangosfa fel hyn at ei gilydd meddyliais, ac ar y
noson agoriadol rydym yn cael cwmni Dr Derec Llwyd Morgan fel cadeirydd y noson
ac araith gan Jan Morris. Eto rydym ymhlith y mawrion yma. Does dim dwy waith
fod Derec yn feistar ar gyflwyno a siarad yn cyhoeddus, mae’n eglur ac yn
dechrau ar amser ac ef sydd yn cyflwyno Jan i’r podiwm bach. Cefais y fraint o
gael fy nghyfweld sawl gwaith gan Derec yn ol yn fy nyddiau fel punk yn herio’r
drefn ar rhaglen ’Arolwg’.
Os
oes gennyf fymryn o feirniadaeth o’r cyflwyniadau, mae’r ddau yn cyfeirio at
ddarn o bapur, ydi mae Jan yn darllen fel petae yn siarad neu sgwrsio a ni, ond
dwi’n methu canolbwyntio a teimlaf fy mod angen llonydd a chpoi o un o lyfrau
Jan os am wrando arni yn darllen a nid bod mewn oriel gyheoddus. Mae fy meddwl
yn troi at Everest a phethau felly a rwyf yn edmygu mwclis anferth Jan, ond dwi
ddim yn canolbwyntio ………
Efallai
fod angen llai o ffurfioldeb a dweud rhywbeth sydd yn mynd i wneud i ni feddwl,
ei’n herio allan o’n esmwythtod ar nos Wener hynod braf yn Oriel Ynys Mon.
Taflwch y script allan drwy’r ffenestr a siaradwch o’r gallon …… neu rhywbeth.
Wedi dweud hynny, gweitherd mwyaf heriol a radical y noson oedd fod y diodydd i
gyd yn ddiodydd meddal, dim alcohol, roeddwn yn hoff iawn o’r manylder trefnu
hynny !
Rwyf
yn tynnu lluniau ambell un yn yr Oriel ar ol i Jan orffen, y dyddiau yma rhaid
rhoi lluniau ar Wep-lyfr a trydar neu dydi’r peth ddim wedi digwydd. Rwyf hefyd
yn sgwennu Blog yn Saesneg ar gyfer link2wales yn adolygu’r noson agoriadol.
Rwyf yn bachu cyfle i gael llun o David Meredith a mae o yn gwneud yr union
beth rwyf i bob amser yn ei wneud, cytuno ond mae am weld copi o’r llun cyn i
mi ei gyhoeddi !
Dyma
chi ddyn sy’n dallt cysylltiadau cyheoddus felly, mae angen edrych yn dda,
dwi’n son ddigon aml am steil gwallt a fod rhaid i gantorion edrych yn dda ar
lwyfan a dyma gyfarfod ‘brawd’ sydd yn siarad yr un Iaith. O fewn eiliadau
rydym yn ddwfn mewn sgwrs ac yn hollol gytun fod rhaid ymweld a’r arddangosfa
yma sawl gwaith er mwyn ei wir werthfawrogi.
Rhaid
treulio amser gyda pob llun, rhaid cael llonydd a rhaid canolbwyntio – efallai
fod angen panwn cyfan a chymeryd seibiant nawr ac yn y man i gael panad yn y
caffi cyn dychwelyd at y Brangwyn.
Dyma
gyfle felly i weld Monet yn Llangefni. Mae’n amhosib cael eich siomi. Mae hon
yn arddangosfa fydda’n gweddu i unrhyw oriel yn ninasoedd mawr y Byd – a mae o
yma yn Llangefni – Bloeddiwch, Monet yn Llangefni ! Monet yn Llangefni. Monet
yn Llangefni !
Ol Nodyn, Rhywbeth oedd ddim yn yr Herald ond a ddigwyddodd ar y noson
sefyllfa tebyg i Gilbert & George :