Wednesday 8 May 2013

Tre'r Ceiri 'Say Something in Welsh' Herald Gymraeg 8 Mai 2013


 

Rhai blynyddoedd yn ol bellach, ar gyfer y golofn hon, fe sgwennais erthygl am ymweliad i swyddfa Cymuned ym Mhwllheli. Doedd yr erthygl ddim yn gyfweliad ffurfiol ond yn fwy o drin a thrafod a damcaniaethu am y sgwrs gefais hefo Aran Jones, beth oedd fy argraffiadau a sut yn union oedd deall cymhellion a gwleidyddiaeth mudiad Cymuned yn sgil yr holl sylw gafwyd yn wreiddiol iddynt yn y Wasg.

            Roeddwn yn ceisio deall mwy am Cymuned, ac erbyn heddiw, dwi ddim yn cofio os llwyddais yn hynny o beth, ond yr hyn rwyf yn ei gofio am y cyfweliad a’r ymweliad yw i mi gael sgwrs hynod ddifir hefo Aran. Rwyf wedi ei weld o gwmpas y lle ambell waith ers hynny a rhywsut mae rhywun yn teimlo fod Cymuned yn dawelach os nad wedi cael eu cyfnod ar y llwyfan ond ychydig wythnosau yn ol dyma Aran yn dod i gysylltiad.

            Natur ei ymholiad oedd, a fyddwn yn fodlon mynd a criw o ddysgwyr am dro i fyny Tre’r Ceiri. Rwan, does dim ond angen hanner esgus i gytuno i fynd am dro i fyny Tre’r Ceiri, dyma wedi’r cwbl y bryngaer pwysicaf, mwyaf trawiadol sydd ganddom yng Ngogledd orllewin Cymru. Fel byddaf yn ei ddweud bob tro, mae’n fraint cael troedio’r llwybrau o amgylch y gaer hynod yma. Dyma lwybrau’r ‘hen bobl’.

            Dyma’r ail dro i mi arwain taith gerdded i fyny Tre’r Ceiri yn y mis dwetha. Ychydig wythnosau yn ol roeddwn yma hefo disgyblion Ysgol Rhilwas, ysgol a gafwyd sylw yn y golofn llynedd am eu llwyddiant i ddysgu’r iaith i’r plant bach oedd yn amlwg o gartrefi di-Gymraeg.

            Cyd-ddigwyddiad yw fod y ddwy daith yn cynnwys yr elfen yma o arwain ”dysgwyr” ond yn sgil hyn rwyf yn dechrau teimlo fod teithiau sydd yn ymwneud a hanes Cymru (ac archaeoleg hefyd wrthgwrs) yn ffordd hwyliog a diddorol o ddysgu’r Iaith ac yn sicr yn rhoi gwerth a synnwyr o le i’r rhai sydd yn dysgu (a mae’r golygfeydd wrthgwrs yn hyfryd o Dre’r Ceiri). Pleser unwaith eto oedd cael trafod y Celtiaid a’r Rhufeiniad a’u perthynas yn y rhan yma o’r Byd dwy fil o flynyddoedd yn ol.

            Bellach mae Aran yn rhedeg cyrsiau dysgu Cymraeg i danysgrifwyr i’r safle we ‘Say Something in Welsh’. Dyma chi ddiddorol, achos ar y diwrnod rydym yn cerdded i fyny Tre’r Ceiri ein man cyfarfod yw caffi Nant Gwrtheyrn, “y lle” i ddysgu Cymraeg, y lle mwyaf eiconaidd sydd ganddym yng Nghymru yng nghyd-destun dysgu Cymraeg a hir bydd hynny barhau. Ond bellach, dyma technoleg yn caniatau i’r cwilt dyfu ac i fod yn fwy lliwgar ac amrywiol – dyma “Say Something in Welsh”.

Felly criw amrywiol, rhai o’r America, un o’r Ffindir, un o Wrecsam ac un arall o Norfolk sydd yn fy nghyfarch yn Caffi Meinir. Mae rhywun yn rhywle wedi son wrthynt fy mod wedi arfer bod yn “pync rocar” ac aeolod o grwp roc Cymraeg,felly dyma chwerthin, gwenu, derbyn y tynnu coes a wedyn symud yr agenda yn ei flaen.

            Byddaf yn siwr o gyflwyno nifer o eiriau newydd iddynt, yn siwr o son am “wrthrychau”, Oes Haearn ac Oes Efydd, defnyddio geiriau fel “cyd-destun”, bryngaer a cylchfur – dyma’r roc a rol newydd fel dwi’n dweud o hyd – “archaeoleg yw’r roc a rol newydd”.

            Efallai bydd cyfle i sgwrsio ychydig hefo nhw fel unigolion, dod i wybod ychydig mwy am eu cymhellion a ddiddordeb dros ddysgu’r iaith ond un o’r pethau rwyf yn ymwybodol ohonno os yn arwain teithiau yw fod rhaid rhoi sylw i’r grwp cyfan neu mae rhai yn teimlo eu bod yn colli allan neu yn methu rhywbeth. Felly dwi’n trio cadw i mi fy hyn a wedyn cyflwyno ychydig o ffeithiau bob rhyw 5 munud wrth i ni ddringo’r mynydd – ac i bawb gael cyfle i ddal eu gwynt wrthgwrs !!

            Y peth arall am drafod archaeoleg a hanes Cymru hefo dysgwyr yw fod rhaid siarad yn bwyllog ac yn glir – a dyna un her, sut i wneud pethau yn ddigon clir heb eu drysu yn lan. Sut mae egluro nad oes unrhyw dystiolaeth fod Tre’r Ceiri wedi dod o dan ymysodiad gan y Rhufeiniad, pam nad oes olion Rhufeinig ym Mhenllyn ? Ydi’r dysgwyr yn mynd i ddallt fy jocs gwael “fod y Rhufeiniad ofn pobl Pen LLyn” ?

            Un o’r pethau diddorol iawn am Tre’r Ceiri yw fod y gaer yma yn cael ei defnyddio yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Felly dyna nhw y Rhufeiniad  yn eu caer yn Segontium, (Caernarfon)  cwta14 milltir i’r dwyrain a mae’r Celtiaid yn cael llonydd i fyw yn eu caer yn Nhre’r Ceiri. Beth oedd y drefn felly ? Cwestiwn amlwg yw oedd y Celtiaid ym Mhen Llyn yn gorfod talu trethi i’r meistri newydd yng Nghaernarfon ?

            Yr hyn sydd yn amlwg o waith cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar safle Tai Cochion ger Brynsiencyn ar lan y Fenai yn ddiweddar yw fod safle Tai Cochion yn safle heb ei amddiffyn (hynny yw nid caer Rhufeinig) a mae’n debyg fod yma dref farchnad yn datblygu erbyn diwedd y ganrif gyntaf. Yr awgrym felly yw mae buan iawn mae sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol yn dychwelyd i’r rhan yma o’r Byd yn dilyn concwest y Rhufeiniaid.

            Efallai fod y Celtiaid yn sylweddoli fod masnachu hefo nhw yn haws ac yn wir yn benderfyniad doethach na trio eu curo ar faes y gad. Ond dyma’r pwynt hefo’r cyfnod yma o hanes Cymru, mae mwy o gwestiynau nac o atebion a llawer o ddamcaniaethu. Y gobaith i mi yw fy mod wedi gallu gwneud hyn yn glir i’r criw brwdfrydig yma o ddysgwyr ac yn sicr cafwyd digon o sgyrsiau difir gyda Aran a’r criw wrth ddringo Tre’r Ceiri.

           

           

 

 

3 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. Roedd profiad gwych bod yn y grŵp y diwrnod hwnnw - Diolch yn fawr am rhannu dy amser a mwenwelediadau.

    ReplyDelete