Thursday 23 May 2013

Meini Hirion Mon Herald Gymraeg 22 Mai 2013


 

Oes unrhywun wedi cael cyfle i wylio’r gyfres “Archaeoleogy : A Secret History” ar BBC 4 yn ddiweddar ? Cyfres yw hon sydd wedi bod yn olrhain hanes archaeoleg drwy ddilyn oel troed rhai o’r arloeswyr amlycaf yn y maes. Felly digon naturiol fod Mortimer Wheeler wedi gwneud ambell i ymddangosiad yn ystod y gyfres.

            Wheeler wrthgwrs oedd yn gyfrifol am y rhaglen deledu arloesol “Animal, Vegetable, Mineral ?” yng nghanol y 1950au ond roedd rhaglenni eraill ganddo hefyd fel “Buried Treasure”. Dyn tatan-yn-ei-geg, “plus-fours” oedd Wheeler, hefo mwstash “handlebar”. Gallwch ddychmygu Wheeler a Clough Williams-Ellis er engraifft yn gyrru ymlaen yn dda, dynion ecsentrig ac unigryw ond dynion hefyd hefo gweledigaeth ac angerdd, meistri yn eu maes. “Cymeriadau” fel fydda ni yn ei ddweud, ond rwy’n golygu hyn yn yr ystyr positif – diolch byth amdanynt !

            Byddaf yn cyfeirio at Wheeler yn eitha aml y dyddiau yma achos fo oedd y dyn oedd yn gyfrifol am gloddio’r gaer Rhufeinig yn Segontium, Caernarfon yn ol yn y 1920au. Byddaf yn rhoi y bai ar Wheeler am ail osod sylfaeni yr adeiladau o fewn y gaer heb unrhyw fynedfa ynddynt. Ond, dwi byth yn siwr iawn os di Wheeler yn cael cam gennyf, ond mae’n dod a chydig o hwyl i’r drafodaeth wrth dywys o amgylch y safle.

            Yr hyn sydd yn braf, a diolch i’r We a thechnoleg am hyn yn ogystal a gweledigaeth o fewn y BBC, yw fod rhan o archif rhaglenni archaeoleg y BBC nawr ar gael ar y we. Mae nifer o glipiau o’r 50au yn ogystal a chyfle i ail wylio rhaglenni “Archaeology : A Secret History” yna i bawb ei fwynhau. Dyma’r ffordd ymlaen wrthgwrs, mae oes y sianel teledu yn dod i ben ac mae oes popeth ar gael unrhywbryd ar wahanol lwyfannau wedi cyrraedd – hyd yn oed yn y Byd Archaeoleg.

            Y peth arall calonogol y dyddiau yma yw faint o bobl sydd yn fodlon mynd allan i neuaddau pentrefi i wrando ar ddarlithoedd am archaeoleg. Cefais brofiad diddorol os nad doniol os nad ychydig bach yn od yn ddiweddar o gyflwyno darlith ar y gwaith cloddio archaeolegol ar safle Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn Cynnar, cylchfur dwbl Meillionydd ym Mhen Llyn. Y rheswm dwi’n dweud braidd yn od, yw fod tri ohonnom yn cyflwyno’r ddarlith a finnau yn darparu’r ochr Gymraeg.

            Roeddwn yng nghwmni yr Athro Raimund Karl a Dr Kate Waddington o Brifysgol Bangor sydd yn cloddio ym Meillionydd ers tair mlynedd bellach. Mae Kate a finnau wedi cyflwyno’r ddarlith yma yn ddwy-ieithog o’r blaen gan osgoi cyfieuthu yn llythrennol a gan geisio gwneud y peth yn hwyliog ac yn berthnasol i bawb. Gyda Raimund yn ymuno a ni yr her oedd cadw’r ddarlith o fewn amser a chadw trefn ar y tri ohonnom yn ein brwdfrydedd yn damcaniaethu. Tri cyflwynydd a sgwrs ddwy-ieithog, un Cymro, un Saesnes ac un o Vienna – felly rhyngwaldol hefyd.

            Y peth arall diddorol am hyn yw ein bod wedi cyflwyno’r ddarlith ddwy waith ym Mhen Llyn o fewn pythefnos i’w gilydd, y tro cyntaf ym Mhlas Glyn y Weddw ar eildro yn Neuadd Rhiw. Y peth calonogol, yw fod y ddwy noson yn llawn; dros 40 yn theatr newydd sbon Glyn y Wddw a dros 50 ar noson wyntog a digon oer yn Neuadd Rhiw. Arwydd da os yw’r noson wedi llwyddo i’w gweld pobl yn aros ar ol wedyn am sgwrs. Fe gymerodd dros awr i ni adael Rhiw !

 

            Felly mae’n ymddangos fod diddordeb go iawn allan yna ymhlith y werin bobl, yn ein cymunedau a da o beth fod pobl yn arfer mynd allan i “ddigwyddiadau byw” gan wybod bydd y rhaglenni teledu ar gael eto ar y We ! Braf iawn hefyd yw cael rhoi sylw i weithgareddau sydd yn ymwneud a’n pobl ifanc a mae cynllun cyffrous iawn gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd  yn cael ei lansio Dydd Sadwrn yma (Mai 25) yn LLyfrgell Caergybi.

            Byddaf yn dadlau yn aml iawn, nad oes unrhyw werth i archaeoleg onibai fod y wybodaeth yn cael ei rannu gan y werin bobl (a nid yn cael ei gadw o fewn y cylchoedd academaidd) a mae rhannu gwybodaeth hefo pobl ifanc yn holl bwysig – y nhw wrthgwrs yw’r dyfodol. Byddaf yn dadlau hefyd, yn amlach dyddiau yma, fod lle i’r cyfryngau Cymraeg ddechrau ymateb i hyn – onid oes cyfrifoldeb arnynt i hyrwyddo mwy ar hanes Cymru ? Os yw BBC 4 yn gallu cael Tymor Archaeoleg siawns gall S4C wneud mwy na 6 rhaglen ‘Darn Bach o Hanes’ ?

            Tua pymtheg mlynedd yn ol rhoddwyd llyfr nodiadau gan wr o’r enw Harol Senogles fel rhodd gan deulu Senogles i Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd. Llyfr oedd hwn gan Senogles yn paratoi ar gyfer cyhoeddi erthygl ar Feini Hirion Mon yn y Transactions 1938, Anglesey Antiquarian Society and Field Club. Mae’n lyfr hynod yn ei lawysgrifen ac yn cynnwys dwsinau o luniau o feni hirion Mon. Mae Senogles wedi cynnwys ei wriag neu gymeriadau eraill yn y lluniau er mwyn cyfleu maint y meini.

Felly mae yma gyfnod o feini hirion, ac yn wir pa rai oedd yn sefyll oddeutu 1938, a braf iawn yw gweld fod y llyfr nodiadau yma wedi ysbrydoli ac ysgogi prosiect arbenig gyda Ysgolion Cynradd Mon i ddilyn oel troed Senogles. Cefais weld y llyfr nodiadau yn ddiweddar a rwyf yn bwriadu cyhoeddi erthygl llawn am arwyddocad y llyfr a’r lluniau yn y Casglwr yn y dyfodol agos.

Roedd cael gafael yn y llyfr ac edrych ar nodiadau Senogles yn swyddfa’r Ymddiriedolaeth yn dod a mi i gysylltiad uniongyrchol a hanes archaeoleg Cymreig, tebyg iawn i rhai o brofiadau Dr Richard Miles yn ei gyfres ar BBC 4 ond rhaid canmol ymdrechion Sadie Williams wedyn i wneud hyn yn rhywbeth perthnasol i ddisgyblion Ysgolion Cynradd a pha well fordd na gwaith maes ac arlunio ?

Felly,yn sgil ail edrych ar luniau Senogles, gwahoddwyd 6 ysgol i ymweld a meini hirion Ty Mawr, (Caergybi), Cremlyn (Llanddona) a Bryngwyn (Brynsiencyn) yng nghwmni yr artist Julie Williams a bydd dehongliadau artistig y disgyblion yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn Llyfrgell Caergybi o’r 25 Mai, 2013 ymlaen cyn teithio i leoliadau eraill o amgylch Gogledd Cymru.

 

 

           

           

No comments:

Post a Comment