Wednesday 20 March 2013

'Diwylliant Pop' Herald Gymraeg 20 Mawrth 2013


.

Felly yn achlysurol, a dim ond yn achlysurol cofiwch, mae yna rhyw fath o ddealltwriaeth y byddaf yn cyfrannu colofn yn trafod “diwylliant poblogaidd Cymraeg” a mawr obeithiaf bydd y darllenwyr sydd “ddim yn dallt y petha pop ’ma” yn dychwelyd i ddarllen yr wythnos nesa pan fydd fy holl sylw yn cael ei roi i Hanes Cymru a’i safleoedd hynod. Pawb yn hapus felly ……..

            Mae “diwylliant pop” wrthgwrs yn hollol wahanol beth i “ganu pop”, mae’r “diwylliant” yn cynnwys ffasiwn, celf, cylchgronau, cyfryngau, ffilm, technoleg, cynllunio ac argraffu,gwleidyddiaeth a chyd-destun cymdeithasol yn ogystal a’r elfen gerddorol. “Diwylliant Pop” yw’r hyn sydd dan sylw yr wythnos hon.

            Cwestiwn diddorol o ran hanes diwylliant Cymraeg yw pryd yn union dechreuwyd gyfeirio at “ganu poblogaidd Cymraeg” fel “canu pop Cymraeg” ? Tybiaf mae cenhedlaeth y 60au,Dafydd Iwan, Huw Jones a Meic Stevens oedd y cyntaf oedd yn wirioneddol “Pop”, poblogaidd yn amlwg, ond yn wahanol i artistiaid fel Hogia Llandegai a’r Wyddfa, oedd efallai o ran diffiniad, yn perthyn i rhywbeth cyn Pop yn yr ystyr Beatles, Rolling Stones a Bob Dylan dyweder.

            I’r Blew a’u record ‘Maes B’ mae’r diolch am roi genedigaeth i “Roc Cymraeg”, doedd yna ddim artistiaid roc arall felly doedd y Blew ddim yn rhan o’r “Byd Roc Cymraeg”, nhw oedd y Byd Roc Cymraeg ! Cyn y Blew doedd dim ond acwstig, fawr o ddryms ac yn sicr ddim twrw. I Edward H mae’r diolch am wneud canu roc Cymraeg yn boblogaidd ar raddfa torfol, yn sicr ymhlith y Cymry Cymraeg ac efallai o gyfnod Edward H ymlaen (70au hwyr) ac yn sicr yn ddiweddarach gyda chylchgronau fel Sgrech (ddechrau’r 80au) roedd pobl yn cyfeirio at hyn fel rhan o’r “Byd Pop Cymraeg”. Sgwni pwy ddefnyddiodd y term yma gyntaf ?

            I genhedlaeth yr 80au cynnar, grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu, Tynal Tywyll, Y Sefydliad ayyb mae’r diolch am fathu’r gair “sin”, neu i fod yn fanwl gywir am greu’r term “Sin Danddaearol”. Am y tro cyntaf (ers y Blew) roedd artistiaid Cymraeg yn datgan eu arwahanrwydd o weddill y Byd Pop Cymraeg, o weddill “y sin” mewn ffordd drwy greu sin oedd drwy ddiffiniad yn danddaearol i weddill y Byd Pop Cymraeg. Heddiw mae “sin” yn ymddangos fel bathiad gwael Seisnig yntydi ?

            Rwyf yn eitha sicr mae Gorwel Roberts (aelod o’r grwp Bob Delyn) ac un o olygyddion y cylchgrawn ‘Sothach’ (90au cynnar) oedd yn gyfrifol am fathu’r term “Sin Roc Gymraeg” a Gorwel heb os a ddechreuodd alw hyn yn “SRG” bron yn gellweirus. Dwi ddim mor siwr faint sydd yn defnyddio’r term “SRG” bellach, ond byddaf yn clywed rhai o olygyddion Y Selar er engraifft yn cyfeirio at “y Sin” wrth drafod canu pop Cymraeg cyfoes.

            A dyma lle mae’r diffiniadau bellach yn llai amlwg. Mae unrhywun sydd yn cofio cyfnod llythyrau “Dear Nic” a’r Gymdeithas yn meddiannu’r Swyddfa Gymreig yn wythnosol yn cofio newyddiadurwyr, (ddylia fod wedi gwybod yn well), yn cyfeirio at y Swyddfa Gymreig fel y “Swyddfa Gymraeg” fel petae adeilad yn siarad yr Iaith. Yn ddiweddarach cafwyd dryswch llwyr rhwng grwpiau Cymreig (90au hwyr) fel y Manics a’r Stereophonics ac i raddau helaeth Catatonia a Super Furry’s gan alw’r Manics yn llawer rhy aml yn “grwp Cymraeg”.Mae’r dryswch yn waeth gyda’r Super Furry’s, grwp o siarawdyr Cymraeg, sydd wedi recordio albym Cymraeg ‘Mwng’ a sydd yn gyn aelodau o grwpiau Cymraeg fel Ffa Coffi Pawb a U Thant.

            Cwestiwn diddorol felly yw pa ganran o repertoire artist sydd angen bod yn yr Iaith Gymraeg i’r grwp fod yn grwp Cymraeg yn hytrach na grwp Cymreig. Wrth reswm mae pob grwp o Gymru yn grwp Cymreig. Efallai bod angen diffiniad newydd – sef “grwpiau Cymraeg dwy-ieithog” ar gyfer rheini sydd yn canu “ambell gan yn English chware teg” – atgoffa rhywun o gan Dafydd Iwan yntydi – hynny yw y neges nid dwy-ieithrwydd.(rwyf yn gorfod bod yn fwy gofalus dyddiau yma, mae sgwennu 1,2,3 yn golygu cael eich cyhuddo o ddweud 4,5,6 yn y “Byd Cymraeg”)

            Fe ysgrifennais erthygl ar gyfer Blog link2wales yn ddiweddar yn Saesneg (er mwyn cyrraedd y “sin di-Gymraeg” ???) yn trio rhoi rhyw fraslun o hanes canu pop yn yr Iaith Gymraeg gan ddechrau yn amlwg gyda’r Blew a gan drio trafod yn wrthrychol (anodd os nad amhosib) y sefyllfa braidd yn od sydd yn codi heddiw lle mae trefnwyr nosweithiau fel ‘Noson 4 a 6’ yng Nghaernarfon yn trefnu nosweithiau Cymraeg ac artistiaid Cymraeg wedyn yn canu  caneuon yn y Saesneg i gynulleidfa sydd bron yn 100% Gymry Cymraeg.

            Hyd yn oed fwy chwerthinllyd / od / trist / dweud rhywbeth am wleidyddiaeth y peth, oedd y ffaith fod Cymdeithas yr Iaith yn gorfod gofyn i artistiaid Cymraeg arwyddo cytundeb i beidio canu yn y Saesneg mewn nosweithiau Cymraeg. Dwi ddim yn siwr os yw hyn dal yn digwydd – dwi’n siwr bydd rhywun yn fy rhoi yn fy lle !

            Fe gafwyd ymateb da iawn i’r Blog ar link2wales gyda dros 500 bellach wedi ei ddarllen. Neb yn gwylltio (rhyfedd) ond wedyn neb yn dweud rhyw lawer chwaith …… Y peth mwyaf doniol am fod yn golofnydd y dyddiau yma yw fod yr hen yn cytuno a’r ifanc yn cael eu gwylltio – dyna chi newid o gyfrannu colofnau i’r Faner yn yr 80au. I raddau rydym mewn oes llai “gwleidyddol”  a chydig iawn sydd yn gyfarwydd bellach a’r dylanwadu fel petae, colofnwyr fel Parsons, Burchill, Morley a Savage.

Mae’r math o wleidyddiaeth dyfais fyny yn ei blith, gwrth-hiliaeth, hawliau anifeiliaid, hawliau i bobl hoyw,yn ymddangos ar adegau yn anacronistaidd wrth i bobl droi i’r dde, wrth i UKip ennill tir, wrth i bawb ofni fod holl boblogaeth Bwlgaria ar eu ffordd yma. Yn nyddiau’r Faner byddwn wedi gofyn “Lle mae’r Billy Bragg Cymraeg (heblaw Steve Eaves) ?”

            Rwyf wedi son sawl gwaith yn y golofn hon fod Hanes Canu Pop Cymraeg, y daith o’r Blew hyd at Y Candelas (fy hoff gan ar y funud yw Symud Ymlaen)  yn haeddu sylw mwy difrifol,yn sicr yn y maes Addysg Uwch. Dyma Ddiwylliant Pop unigryw sydd bob amser ar yr ymlon a weithiau yn cael llwyfan neu “token Welsh band” chware teg ond rhywsut  byth ar y prif lwyfan.

            Ac i orffen ar nodyn positif, dyma roi croeso i ‘Pethe’ yn ol ar sgrin S4C, rhaglen sydd yn profi nad oes dim o’i le a sylwedd a fod modd trafod diwylliant gyda aeddfedrwydd a fod Lisa Gwilym yn cymeryd ei lle yn hollol haeddianol fel y gyflwynwraig mwyaf “hip” sydd ganddom yng Nghymru er gwaetha cwtogi ei horiau ar Radio Cymru. Oes yna air Cymraeg am “hip” ?

No comments:

Post a Comment