Tuesday 12 March 2013

Archaeoleg a'r Gymraeg Herald Gymraeg 13 Mawrth 2013


 

Does ’na ddim byd fel yr Iaith Gymraeg i ysgogi trafodaeth ac yn sicr dyna oedd fy mhrofiad pnawn Sadwrn dwetha wrth eistedd yn ystafell gyfarfod Amgueddfa Wresam. Cyfarfod Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru oedd wedi dod a llond llaw o bobl at eu gilydd, efallai fod y tywydd rhy braf i bobl ddod i gyfarfod dan do, efallai fod rhai wedi mynd i weld Wrecsam yn chwarae peldroed ar y Cae Ras, beth bynnag oedd y rheswm, nifer fach ohonnom oedd yno ond argaian dan fe gafwyd pnawn o drafod.

            Trefn y prynhawn oedd fod nifer o bobl ifanc yn adrodd eu profiadau o dreulio blwyddyn mewn cynllun hyffordi o fewn y gweithle drwy gynllun y CBA, sef y cynllun Archaeoleg yn y Gymuned. Un o’r papurau mwyaf diddorol ac yn sicr yr un ysgogodd y drafodaeth oedd papur Tegid Williams ar y berthynas rhwng yr Iaith Gymraeg a’r Byd Archaeolegol Cymreig.

            Nid peth hawdd yw siarad yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa o “arbenigwyr” ac “archaeolegwyr proffesiynol” ond fe siaradodd Tegid yn glir a gyda chryn awdurdod gan amlinellu i bob pwrpas y diffygion sylweddol sydd yn bodoli o ran yr Iaith Gymraeg o fewn y maes. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd fod yr ystafell mor gefnogol i’r hyn roedd Tegid yn ei fynegi. Wedyn fe aeth yn drafodaeth agored …………….

            Chefais i ddim yr awgrym lleiaf  o unrhyw agwedd gwrth-Gymraeg, roedd pawb yn ystyried sylwadau Tegid yn ofalus, yn wir y drafodaeth oedd sut mae modd symud pethau ymlaen a buan iawn daeth yr amser i ddod ar cyfarfod i ben, roedd angen cloi yr Amgueddfa er mwyn i’r staff gael mynd adre (chware teg iddynt) ond yn sicr byddai’r drafodaeth wedi gallu parhau am awr neu ddwy arall yn hawdd.

            Un peth a godwyd, a roedd hyn yn ofnadwy o ddiddorol, oedd y cynnig fod “Hanes Cymru” yn “draddodiadol” neu yn “hanesyddol” (rwyf yn troedio yn ofalus yn fan hyn) wedi rhoi gormod o bwyslais ar bobl a diwylliant yn hytrach nac ar y traddodiad ar diwylliant materol a gwrthrychol. Hynny yw fod beirdd a chantorion rhywsut yn fwy Cymreig ac yn fwy perthnasol na adeiladau neu gwrthrychau cyn-hanesyddol ? Felly dydi’r Cymry Cymraeg ddim yn uniaethu mor hawdd ac archaeoleg – mae well ganddynt Waldo !

            Wrthgwrs dydi pethau ddim mor syml a hynny. Ond rhaid gofyn cwestiwn amlwg, er engraifft, pam fod cyn llied o Gymry Cymraeg i weld yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau dyweder gan gyrff fel CADW neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ? Ydi’r Cymry Cymraeg yn cysylltu’r cyrff yma ac adeiladau Sesisnig, adeiladau’r gormeswyr, boed hynny yn Gastell Caernarfon neu Gastell Penrhyn ?

             Codwyd y cwestiwn os oedd cymdeithasau fel Grwp Talwrn ar Ynys Mon, cymdeithas archaeolegol, yn rhai lle roedd y Gymraeg yn flaenllaw neu ddim, a phwysleisiaf, nid mewn unrhyw ffordd feirniadol. Ydi’r Cymry Cymraeg rhywsut “ofn” ymuno yn y Byd Mawr ac yn cadw at y Gymdeithas Capel neu’r Gymdeithas Hanes Lleol, yn saff felly yn y Byd Bach Cymraeg ?

            Unwaith eto, doedd yna neb yn beirniadu’r Gymdeithas Capel na’r Gymdeithas Hanes Lleol,  yn wir mae yna gyfraniad pwysig ac allweddol yn cael ei wneud gan yr holl gymdeithasau Cymraeg sydd yn cyfarfod yn rheolaidd hyd a lled y wlad. Y cwestiwn mewn ffordd yw sut mae “Cymreigio” y cymdeithasau a’r sefydliadau eraill ac yn  wir yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru ?

            Yr hyn yr oeddwn yn ei weld yn y cyfarfod oedd fod angen i’r Gymraeg ymestyn allan i’r llefydd llai Cymraeg, i unrhyw dwll a chornel sydd yn cael ei dywyllu gan y Saesneg yn unig neu yn cael ei dywyllu gan ddiffyg Cymraeg neu ddim digon o Gymraeg. Dydi hynny ddim ar draul yr hyn sydd yn bodoli yn y Byd Cymraeg, a hynny yn bodoli yn gadarn iawn, ond mae hyn yn awgrymu mae’r gwaith yn y dyfodol yw sicrhau nad oes ynysoedd Seisnig yn gallu bodoli yng Nghymru.

            Wrth son am (ac os am herio a newid) yr ynysoedd Seisnig, neu cymunedau o fewn cymunedau lle mae is-gymuned Seisnig felly yn ffurfio ac yn bodoli o fewn y Gymru Cymraeg, o fewn ffiniau Cymru neu o fewn sefydliadau Cymreig mae’n rhaid i ni felly fel Cymry Cymraeg sicrhau fod hyn ddim yn digwydd.

            Rhaid rhywstro’r ynysoedd Seisnig rhag bodoli, nid drwy orfodaeth, nid drwy gasineb gwrth-Seisnig ond drwy genhadu gwerth yr Iaith Gymraeg, drwy ddarbwyllo ac yn amlwg drwy goroesawu. Mae’r awydd yna, mae’r ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg yn cynyddu. Sut fedrw’chi werthfawrogi Hanes ac Archaeoleg Cymru heb werthfawrogi’r Iaith Gymraeg ? Amlwg. Credaf fod pobl yn barod i groesi’r bont.

            Does dim angen myfyrwyr yn eistedd ar y bont bellach, mae angen i ni Gymry Cymraeg arwain y ffordd dros y bont. Mae’r oes yn newid er gwaetha’r argyfwng a greuwydd ymhlith y tryderati Cymraeg yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad. Rhaid i ni newid agwedd, nid “gwarchae” yw hi bellach, i ddefnyddio cymhariaeth hanesyddol, ond yn hytrach mae angen meddwl mwy fel Howell Harris a Daniel Rowlands os mynwch, llai o Glyndwr a Llywelyn a’r gwarchae di-ddiwedd a mwy o genhadu a hyder.

            Does dim byd gwell na thrafodaeth am yr Iaith Gymraeg ond pwy fydda wedi meddwl fod Archaeoleg a Hanes Cymru yn gallu bod mor wleidyddol. Gwych ac i’r gad newydd a ni. Beth bynnag gyflawnwyd drwy’r hen ddulliau (di-drais) credaf fod cyfle mawr yn y blynyddoedd sydd i ddod i ymestyn dylanwad y Gymraeg drwy weithredu yn genhadol, mae yn awydd a chefnogaeth allan yna ymhlith y Saeson mwyaf rhonc ac annisgwyl (digon o rheini yn y maes archaeoleg).

            Y pregeth felly yw llai o Glyndwr a mwy o Howell Harris. Llai o son am warchae a mwy o genhadu.

 

No comments:

Post a Comment