Sunday 2 September 2012

Hen Caerwys Herald Gymraeg 29 Awst 2012



Yr hyn sydd fwyaf od efallai am Hen Caerwys yw fod pentref cyfagos Caerwys yn debygol o fod yn hynach a mae rhyw fath o gangymeriad anfwriadol  gan yr archaeolegydd W.J. Hemp yn ystod y 60au oedd rhoi yr enw “Hen” i’r safle hynod Canol Oesol yma rhyw filltir neu ddwy i’r gogledd o’r pentref presenol. Mae’n debyg i Hemp ymgynghori a hanesydd lleol o’r enw Ellis Davies ac iddynt gredu fod y safle yma yn gynharach na’r pentref cyfagos.

                Yn draddodiadol yr enw a roddir ar safle fel hyn yw “Pentref Canoloesol Diffaith” ond mae meddylfryd diweddar y Byd Archaeolegol yn tueddu i son am dirwedd sydd wedi cael ei ffosileiddio, sef canrifoedd o olion byw ac amaethu wedi goroesi ar y tir. Felly mae’n ddarlun cymhleth a hynod ddiddorol ac yn ddiweddar bu CADW ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys yma yn ail edrych ar waith cloddio Cymdeithas Hanes Sir y Fflint yn ystod y 60au dan ofal T. Pennant Williams a G. Leach.

                Yn ystod cloddio’r 60au daethpwyd o hyd i dai canol oesol wedi eu hadeiladu ar ochr y bryn, a adeiladwyd yn aml drwy gloddio i mewn i ochr y bryn er mwyn creu safle gwastad a wedyn adeiladu’r seiliau o gerrig gan adael ffos neu ddraen o amgylch y ty er mwyn cael gwared a unrhyw ddwr fyddai’n rhedeg o ochr y bryn. Byddai’r tai o do gwellt hefyd wedi cynnwys ffram o bren i ddal y to. Calchfaen yw’r graig naturiol yma felly digon hawdd yw adeiladu waliau o gerrig.

                Un o’r pethau diddorol am edrych yn ol ar waith o’r 60au yw fod y dechneg archaeolegol wedi datblygu cymaint ers hynny ac yn sicr felly o ran cofnodi yn fanwl a dulliau fel arolwg geo-ffisegol o ddod o hyd i olion o dan y ddaear. Am ryw reswm mae’r rhan fwyaf o ganfyddiadau’r 60au wedi diflannu ond y son oedd iddynt ddarganfod crochenwaith yn dyddio o’r 15fed ganrif yn ystod y gwaith cloddio.

                Ond mae cymeriad arall yn ymddangos yn stori Hen Caerwys, sydd efallai yn gwneud yr holl beth yn hyd yn oed fwy diddorol, gan fod stori y gwr yma yn ymdebygu i rhyw stori ddirgel, rhywbeth fydda T. Llew Jones efallai wedi ei ddychmygu. Y gwr yw  Tom Rogers, enw arall a gysylltir a’r arloeswyr uchod o ran cloddio yn Hen Caerwys. Dywedir iddo fod o dras Canadaidd ond does neb yn siwr iawn o’i gefndir na chwaith am ei gefndir archaeolegol.

                Mae Rogers “yr archaeolegydd” yn ymddangos fel petae o nunlle ar ddechrau’r 70au gan honi fod ganddo gysylltiadau a Choleg y Brifysgol Bangor, er doedd neb i weld yn siwr iawn beth oedd y cysylltiad, ond beth sydd yn sicr yw fod ganddo ddiddordeb yn Hen Caerwys. Yn wir mae’n cyhoeddi erthygl ar Hen Caerwys yn y cylchgrawn ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’ ym 1979 gan drafod gwaith cloddio Pennant Williams a Leach yn ol yn y 60au.

                Bu son hefyd  fod gan Rogers ddiddordeb gwenud gwaith cloddio pellach yn Hen Caerwys ond yn ol y son daeth dim o’r trafodaethau a mae’n bosib i’w sylw symud yn fuan iawn wedyn at safle Ogof Arthur yn Nyffryn Gwy. Cyhoeddodd Rogers ei fod wedi darganfod gwaith celf palaeolithig, sef paentiadau ar y graig ond buan iawn cafodd ei ddarganfyddiadau eu di-ystyru gan arbenigwyr.

                Efallai fod elfen yma o fyw mewn Byd ffantasi o ran Rogers, neu efallai fod archaeoleg wedi hawlio ei sylw am ychydig flynyddoedd, cyn iddo fentro i rhyw faes arall  – pwy a wyr ? Yn sicr bydd rhaid i mi fynd i’r Archifdy i chwilota am ei erthygl yn y ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’. Fe fydd hynny yn sicr yn gwneud darllen diddorol.  Ond yn wahanol iawn i anturiaethau Rogers, roedd fy ymweliad i a Hen Caerwys ddiwedd mis Gorffennaf yn un ddigon arferol. Roeddwn yn awyddus i gael gweld y safle ac yn fwy na bodlon rhoi help llaw os oeddwn am fynd draw.

                Digwydd bod, roedd fy ymweliad ar ddiwrnod olaf y gwaith cloddio ond cefais groeso mawr gan Bob Silvester a Wil Davies a hyd yn oed bore cyfan o gloddio hefo fy nhrowal oddi fewn i un o’r adeiladau gan lanhau’r llawr am y tro olaf eleni rhag ofn fod rhywbeth fel tyllau pyst yn ymddangos. Ond ar ol cinio yng nghysgod Coedymarian / Coed Gerddigleision dyma ddechrau ar y gwaith go iawn, rodd yn rhaid llenwi’r tyllau oedd wedi cael eu creu yn ystod Haf 2012.

                Dyna chi waith caled, tunelli o gerrig wal calchfaen yn gorfod cael eu rhoi yn ol i mewn yn un o’r tai – a hynny gyda llaw. Fe fuodd pedwar ohonnom wrthi am ddwy awr go dda yn eu gosod yn lled ofalus o amgylch seilia un o’r tai a gloddwyd yn y 60au cyn rhoi’r pridd yn ol ar ei ben. Dyna ddiwedd y cloddio ar y ty yma am byth mwy na thebyg.

                Chwarddodd nifer fy mod mor “wallgof” a dod ar y diwrnod olaf pryd bydd rhaid llenwi tyllau ond fel esboniais, dyma oedd fy unig gyfle i ymweld eleni, a fel rheol dwi’n llawer hapusach yn gwneud rhywbeth nac yn sefyllian o gwmpas. Dwi ddim yn aelod da o’r gynulleidfa, gwell gennyf fod yn y sedd yrru mewn car, gwell genynyf fod yn gweithio nac yn ymwelydd.

               

No comments:

Post a Comment