Tuesday 11 September 2012

Gwaith Copr Cwm Bychan

 
Mae'r diwrnod yn dechrau hefo ymweliad i Eglwys Bresbyteraidd, Y Maes, Caernarfon sydd ar agor drwy gynllyn Drysau Agored. Adeliadwyd rhwng 1873 ac 1883, y pensaer oedd Richard Owen Pwllheli. Richard Owen oedd hefyd yn gyfrifol am Engedi ac Institiwt Caernarfon. Mae'n werth gweld yr organ 1887 gan William Rushworth.
Golygfa o'r oriel/lloft.







Ar ol cinio sydun yn Caffi Maes dwi'n symud ymlaen i Feddgelert a chychwyn y daith am Cwm Bychan ger Penlan, hen dy Alfred Bestall awdur a chynllunydd Rupert the Bear. Mae na lwybr serth yn codi tu cefn i Penlan.



Edrych i lawr ar Feddgelert,


Dipyn o waith cerdded dros y topia ac yna i lawr i Cwm Bychan - dwi'n gweld olion archaeolegol o gwmpas y lle ond angen cerdded yn ol i fyny'r Cwm i gyrraedd yr hen waith mwyngloddio.


Mae pedwar o'r peilons wedi goroesi. Mae safle we Coflein yn esbonio beth sydd i'w weld. Mae mwy o bethau ger y rheilffordd ar waelod y Cwm lawr yn y Aberglaslyn. (Rhaid i hynny fod yn dro arall).

Manylion Coflein :
http://www.coflein.gov.uk/en/site/33771/details/CWM+BYCHAN+COPPER+MINE,+BEDDGELERT/





Ar ddiwedd y peilons mae'r olwyn oedd yn dal y weiar


Tomen Sbwriel


Adit




1 comment:

  1. Da iawn, diolch yn fawr Rhys. Tro cynta i fi weld tu fewn i eglwys Castle Square!! R,oeddwn i yn aelod o Ebeneser rownd y gongl so wedi ei basio miliwn gwaith ond byth wedi mynd mewn. Diwrnod braf yn Cwm Bychan hefyd.
    Am yr Institiwt ti,n son am uwchben. Wyt ti'n son am 'the Liberal club' Dyna lle r,oedd David Lloyd George yn siarad ia? A dyna lle eis i am flynyddoedd i.r dosbarth ballet ar bore Sadwrn!!

    ReplyDelete