Tuesday 26 June 2012

Herald Gymraeg 20 Mehefin 2012Caer Rhufeinig Llanfair Caereinion



Nos Lun dwetha, roeddwn yn “rhannu’r llwyfan” fel petae, hefo Eflyn Owen Jones yn y Valley Hotel, Y Fali, fel rhan o ddigwyddiadau Gwyl Gerdded Ynys Mon. Roedd Eflyn yn rhoi sgwrs ar ddarganfyddiadau ei thad, William Roberts, yn Llyn Cerrig Bach yn ol ym 1942-43 a finnau wedi cael fy ngalw i mewn yn fyr rybydd wrth i siaradwr gwadd arall fethu bod yno. Rwyf yn hynod ddiolchgar i Eflyn am awgrymu fy mod yn trafod beddrod Barclodiad y Gawres , doedd dim angen i mi boeni wedyn am gynnwys fy sgwrs.

                Wrth gyflwyno Barclodiad a chydnabod pwysigrwydd Llyn Cerrig Bach dyma dynnu coes ychydig hefo’r gynulleidfa  fod rhain yn sicr ymhlith y “Tri Uchaf” o Henebion Ynys Mon, ond wedyn wrth restru Brn Celli Ddu, Din Lligwy, Bryn yr Hen Bobl, meini hirion Bryn Gwyn, Castell Bryn Gwyn, meini hirion Llanfechell, cromlech Bodowyr ….. dyma sylweddoli fod Ynys Mon mor gyfoethog, cymaint o Henebion, mae ffwlbri noeth  fyddai ceisio eu rhoi mewn rhyw fath o drefn o ran blaenoriaeth neu bwysigrwydd.

                Ond yn sicr i chi mae yna henebion ar Ynys Mon sydd o bwysigrwydd Cenedlaethol, ac yn sicr mae Llyn Cerrig Bach a Barclodiad y Gawres yn safloedd eithriadol, eithriadol o bwysig ac unigryw. Wrth deithio yn ol o’r ddarlith dyma ddechrau meddwl mwy am hyn. Roeddwn newydd ddychwelyd o’r Gaer Rhufeinig yng Nghaerleon, gyda’i amffitheatr hynod. Yma yng Nghaerleon mae’r baddondy wedi ei gadw, ei ail godi i raddau a drwy gyfrwng ffilm ar y wyneb, wedi llwyddo i ail greu naws y baddondy gwreiddiol.

                Yn ddiweddar bu i mi longyfarch CADW am lwyddo i wneud hyn mor llwyddiannus a hynny heb ymharu ar yr archaeoleg a’r gwir hanes . Weithiau mae ail-greu a dehongli gyda technoleg modern yn gallu ymharu ………… Ond unwaith eto dyma ddechrau meddwl am yr amffitheatr fechan ger Tomen y Mur. Ydi mae Caerleon ddipyn mwy, does dim gwadu, ond mae’r amffitheatr yn Tomen y Mur hefyd yn safle hynod iawn, yn anghyffredin, o bwys a hefyd gyda ffordd tram o Chwarel Braich Dduyn yn mynd trwyddi. Hanes aml-gyfnod felly !

                Nid aur yw popeth melyn medda nhw ond wedyn nid y mawr a’r mwyaf yw’r gorau neu mwyaf pwysig – mae’r holl safleodd archaeolegol yma yn rhan o’r jigsaw, yn rhan o Hanes Cymru, yn bwysig yn eu ffordd a dyma arwain felly at ddau safle, tra wahanol, arall bu i mi ymweld a nhw yn ddiweddar ger Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn.

                Cawn aros yn y cyfnod Rhufeinig. Cof plentyn sydd yn parhau hyd heddiw, o ymweld a’r Gaer fechan ar “y topia”, oddi ar allt y Gibbet, a dyma rhyw ysfa i fynd yn ol. Rwyf wedi bod yno droeon ers fy mhlentyndod ond yr ymweliad cyntaf yna wnaeth yr argraff fwyaf, y  graith ddyfna ar fy nghof. Pleser o’r mwyaf yw cael dychwelyd yma. Caer Rhufeinig fechan iawn, “fortlet” yn Saesneg, efallai camp dros dro rhwng y Caerau mwy – rhwng Caersws neu Forden a rhywle i’r Gogledd – efallai ar y ffordd am yr  Amwythig a Wroxeter neu am y Berwyn heibio Dolanog.

                Mae’n hanner awr wedi saith y nos arnaf yn cyrraedd. Mae’r niwl yn drwm ac yn isel, prin fod rhywun yn gweld hyd cae o’n blaen. Dros y gamfa a mae ffurff y cloddiau yn ymddangos o’r niwl. Os dwi am weld ysbrydion yr hen filwyr, dyma fydd y cyfle gora caf i byth. Mae’r Byd Modern wedi llwyr ddiflannu, does dim ond y fi, y niwl a’r hen Gaer. Caer fechan fel dywedais, ond perffaith, bron yn sgwar, neu siap cerdyn chwarae. Dwi rioed di teimlo mor agos i’r hen bobl.

                Does dim i’w wneud ond dychmygu pwy oedd yma, pwy adeiladoedd y Gaer fechan hon ac i ba pwrpas ? Dydi Forden a Caersws ddim yn bell, rhyw ddeg milltir dros y mynydd, ond pam dod i’r fan yma ? Rydym ar y tir uchel, y tir cyfeiriodd R.S Thomas ato fel y tir lle roedd y Gymraeg yn dod yn fyw achos i lawr yn y dyffryn i gyfeiriad Manafon a New Mills mae’r Gymraeg ddigon tena.

                Gwerthfawrogais y llonyddwch, y distawrwydd llethol a’r ffaith na fedrwn hyd yn oed weld lle roeddwn wedi gadael y car. Prin iawn yw’r cyfleodd yma. Ond wrth iddi nosi dyma benderfynu cael un safle arall i fewn cyn mynd lawr am swper i’r Goat yn Llanfair Caereinion. Y safle nesa oedd “Carreg Arthur”, sydd yn fferm hyd yn oed yn uwch i fyny’r bryniau, ond sydd hefyd yn un o’r safleoedd mwyaf diddorol i mi rioed ddod ar ei draws.

                Eto mae gennyf gof plentyn o ymweld a Charreg Arthur a chefais ddim fy siomi yn dychwelyd yno, er rhaid cyfaddef, ohwerwydd y niwl, dwi’n dal i longyfarch fy hyn am gofio mor dda a dod o hyd i’r garreg hynod yma. Ar yr olwg gyntaf, carreg ddigon di-nod, yn gorwedd yn unig ar ben y bryn, mewn cae sydd wedi ei drin, yn borfa i warthog.


                Ond pam “Carreg Arthur” ? Eisteddais arni, heb os dyma garreg sydd yn teimlo ac yn edrych fel cadair, mae hi y maint iawn a mae awgrym o ochr iddi, lle mae rhywun yn gosod ei freichiau. Mae’n gadair o garreg, naturiol neu ddim - dyna’r cwestiwn. Wrth eistedd arni, mor hawdd a chyfforddus, doedd dim cwestiwn fod hon yn eisteddle bwriadol ar ben y bryn, o bwys a hanesyddol ……. ond pwy fu yma, i ba pwrpas, a phryd ?

                Anghofiwch am Arthur, dwi’n sicr ddim yn dilyn y sgwarnog honno nac yn awgrymu unrhyw gydsylltiad o gwbl, ond efallai rhyw hen dywysog, un o benaethiad Llwythi Powys,  dyma orsedd neu deyrngadair os welais i un rioed.  Y pethau bach yn yr achos yma yn bethau mor ddiddorol.

No comments:

Post a Comment